Cyfrif treth personol: mewngofnodi neu sefydlu
Defnyddiwch eich cyfrif treth personol i wirio’ch cofnodion a rheoli’ch manylion gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch wneud y canlynol:
-
gwirio’ch amcangyfrif o Dreth Incwm a’ch cod treth
-
llenwi, anfon a bwrw golwg dros Ffurflen Dreth bersonol
-
gwneud cais am ad-daliad treth
-
gwirio’ch incwm o waith yn ystod y 5 mlynedd flaenorol
-
gwirio faint o Dreth Incwm a dalwyd gennych yn ystod y 5 mlynedd flaenorol
-
gwirio a rheoli’ch credydau treth
-
gwirio’ch Pensiwn y Wladwriaeth
-
olrhain ffurflenni treth rydych wedi’u cyflwyno ar-lein
-
gwirio neu ddiweddaru’ch Lwfans Priodasol
-
rhoi gwybod i CThEF am newid enw neu gyfeiriad
-
gwirio neu ddiweddaru buddiannau a gewch o’r gwaith, er enghraifft, manylion car cwmni ac yswiriant meddygol
-
dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol
-
dod o hyd i’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
-
gwirio’ch bil treth Asesiad Syml
Mae gwasanaeth gwahanol ar gyfer cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad neu ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus ar eiddo yn y DU, a’i thalu (yn agor tudalen Saesneg).
Cyn i chi ddechrau
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
Bydd angen i chi brofi pwy ydych er mwyn cofrestru ar gyfer Porth y Llywodraeth, os nad ydych wedi’i ddefnyddio o’r blaen.
Bydd angen arnoch eich rhif Yswiriant Gwladol neu’ch cod post yn y DU a hyd at ddau o’r canlynol:
-
pasbort dilys y DU neu basbort nad yw o’r DU sydd â sglodyn biometrig
-
trwydded yrru cerdyn-llun y DU, a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)
-
cerdyn preswylio biometrig y DU neu drwydded breswylio fiometrig y DU
-
slip cyflog o’r tri mis diwethaf neu ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf
-
manylion hawliad am gredyd treth, os gwnaethoch un
-
manylion o Ffurflen Dreth Hunanasesiad, os gwnaethoch gyflwyno un
-
gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes gennych un (megis benthyciadau, cardiau credyd, neu forgeisi)
Gallwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol os nad ydych yn ei wybod, neu os ydych wedi’i golli.