Gwirio eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gael gwybod:
- faint o Bensiwn y Wladwriaeth gallech ei gael
- pryd gallech ei gael
- sut i’w gynyddu, os gallwch
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei adolygu’n rheolaidd, felly gall canlyniadau’r teclyn hwn newid yn y dyfodol. Gallwch ddarllen am ganlyniadau’r adolygiad diweddaraf.
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych eisoes yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth neu os ydych wedi oedi (‘gohirio’) gwneud cais amdano.
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi brofi pwy ydych drwy ddefnyddio Porth y Llywodraeth. Byddwch yn gallu cofrestru ar gyfer Porth y Llywodraeth os nad ydych wedi ei ddefnyddio o’r blaen.
Ffyrdd eraill o wneud cais
Gwneud cais ar-lein yw’r ffordd gyflymaf i gael rhagolwg. Os byddwch yn cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth mewn mwy na 30 diwrnod gallwch hefyd:
- llenwi’r ffurflen gais BR19W a’i hanfon trwy’r post
- ffonio Canolfan Bensiwn y Dyfodol a fydd yn postio’r rhagolwg atoch
Os ydych eisoes yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth neu wedi oedi gwneud cais amdano
I gael gwybodaeth am eich Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn os ydych yn y DU neu’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol os ydych yn byw dramor.