Tâl ac absenoldeb mabwysiadu

Neidio i gynnwys y canllaw

Tâl

Telir Tâl Mabwysiadu Statudol am hyd at 39 wythnos. Y cyfanswm wythnosol yw’r canlynol:

  • 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog am y 6 wythnos gyntaf
  • £184.03 neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sy’n is) am y 33 wythnos nesaf

Mae’n cael ei dalu yn yr un modd â’ch cyflogau (er enghraifft yn fisol neu’n wythnosol). Bydd Treth ac Yswiriant Gwladol yn cael eu didynnu.

Tâl ychwanegol

Mae’n bosibl y cewch fwy o dâl os oes gan eich cyflogwr gynllun tâl mabwysiadu cwmni. Ni all eich cyflogwr gynnig llai na’r swm statudol i chi.

Dyddiad dechrau

Mae Tâl Mabwysiadu Statudol yn dechrau pan fyddwch yn cymryd eich absenoldeb mabwysiadu.

Problemau ac anghydfodau

Os ydych yn anghytuno â swm y Tâl Mabwysiadu Statudol a gewch neu os na all eich cyflogwr ei dalu, er enghraifft am ei fod yn fethdalwr, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM.