Tâl ac absenoldeb mabwysiadu

Neidio i gynnwys y canllaw

Trosolwg

Pan fyddwch yn cymryd amser i ffwrdd i fabwysiadu plentyn neu gael plentyn drwy drefniant benthyg croth, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer y canlynol:

  • Absenoldeb Mabwysiadu Statudol
  • Tâl Mabwysiadu Statudol

Mae rheolau ar pryd a sut i hawlio eich absenoldeb â thâl ac os ydych am newid eich dyddiadau.

Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys i gymryd Absenoldeb a thâl ar y cyd i rieni.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Eich hawliau cyflogaeth tra rydych ar absenoldeb

Mae eich hawliau cyflogaeth yn cael eu diogelu tra ar Absenoldeb Mabwysiadu Statudol. Mae hyn yn cynnwys eich hawl i’r canlynol:

  • codiadau cyflog
  • cronni gwyliau
  • dychwelyd i’r gwaith