Tâl ac absenoldeb mabwysiadu

Neidio i gynnwys y canllaw

Sut i hawlio

Mae’r rheolau ychydig yn wahanol os ydych yn mabwysiadu o dramor neu os ydych yn cael plentyn drwy drefniant benthyg croth.

Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

O fewn 7 diwrnod i gael eich paru â phlentyn, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr ynghylch y canlynol:

  • faint o absenoldeb rydych eisiau
  • dyddiad dechrau’ch absenoldeb
  • ‘dyddiad lleoli’ - y dyddiad y lleolir y plentyn gyda chi

Gall eich cyflogwr ofyn am hyn yn ysgrifenedig ac am brawf o’r mabwysiadu.

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr gadarnhau dyddiadau dechrau a dod i ben eich absenoldeb o fewn 28 diwrnod.

Defnyddiwch y cynllunydd i weithio allan pryd y mae’n rhaid i chi hawlio’ch absenoldeb mabwysiadu.

Tâl Mabwysiadu Statudol

Rhowch wybod i’ch cyflogwr eich bod am roi’r gorau i weithio i fabwysiadu plentyn a phryd rydych am i’ch Tâl Mabwysiadu Statudol ddechrau. Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd iddynt. Gallant ofyn am hyn yn ysgrifenedig ac am brawf o’r mabwysiadu.

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr gadarnhau o fewn 28 diwrnod faint o Dâl Mabwysiadu Statudol a gewch a phryd y bydd yn dechrau ac yn stopio.

Os byddant yn penderfynu nad ydych yn gymwys, mae’n rhaid iddynt roi ffurflen SAP1 i chi o fewn 7 diwrnod i wneud eu penderfyniad ac egluro pam.

Tystiolaeth o fabwysiadu

Mae’n rhaid i chi roi prawf mabwysiadu i’ch cyflogwr i fod yn gymwys ar gyfer Tâl Mabwysiadu Statudol. Nid oes angen prawf ar gyfer Absenoldeb Mabwysiadu Statudol oni bai eu bod yn gofyn amdano.

Mae’n rhaid i’r dystiolaeth ddangos:

  • eich enw a’ch cyfeiriad chi a’r asiantaeth
  • y dyddiad paru - er enghraifft y dystysgrif baru
  • y dyddiad lleoli - er enghraifft llythyr gan yr asiantaeth
  • ‘hysbysiad swyddogol’ awdurdod perthnasol y DU yn cadarnhau eich bod yn cael mabwysiadu (mabwysiadu tramor yn unig)
  • y dyddiad y cyrhaeddodd y plentyn y DU - er enghraifft tocyn awyren (mabwysiadu tramor yn unig)

Mabwysiadu tramor

Rhowch wybod i’ch cyflogwr dyddiad eich ‘hysbysiad swyddogol’ a phryd rydych yn disgwyl i’r plentyn gyrraedd y DU. Fel arfer, mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod i gael yr hysbysiad.

Dim ond os ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr am lai na 26 wythnos y gallwch gymryd mwy o amser. Rhowch wybod iddynt o fewn 28 diwrnod i’r Sul yn eich 26ain wythnos.

Mae’n rhaid i chi hefyd rhoi gwybod iddynt am y canlynol:

  • y dyddiad gwirioneddol y mae’r plentyn yn cyrraedd y DU - o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad hwn
  • faint o absenoldeb rydych chi ei eisiau a’ch dyddiad dechrau - gan roi 28 diwrnod o rybudd i’ch cyflogwr

Trefniadau benthyg croth

Os ydych yn defnyddio trefniant benthyg croth i gael babi, rhowch wybod i’ch cyflogwr y dyddiad disgwyl a phryd rydych am ddechrau’ch absenoldeb o leiaf 15 wythnos cyn yr wythnos geni ddisgwyliedig. Mae’n bosibl y byddan nhw’n gofyn am hyn yn ysgrifenedig.

Gall eich cyflogwr hefyd ofyn am ddatganiad ysgrifenedig (‘datganiad statudol’) i gadarnhau’ch bod wedi gwneud cais neu y byddwch yn gwneud cais am orchymyn rhiant yn y 6 mis ar ôl genedigaeth y plentyn. Mae’n rhaid i chi lofnodi hyn ym mhresenoldeb gweithiwr cyfreithiol proffesiynol.