Gwarchod eich tir a'ch eiddo rhag twyll

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gallwch gymryd camau i warchod eich eiddo rhag cael ei werthu neu ei forgeisio trwy dwyll.

Rydych mewn mwy o berygl:

  • os yw’ch hunaniaeth wedi cael ei dwyn
  • os ydych yn rhentu eich eiddo
  • os ydych yn byw dramor
  • os yw’r eiddo yn wag
  • os nad yw’r eiddo wedi ei forgeisio
  • os nad yw’r eiddo wedi ei gofrestru gyda Chofrestrfa Tir EF

Bydd eich eiddo wedi ei gofrestru os cafodd ei brynu neu ei forgeisio er 1998 – edrychwch ar y gofrestr os nad ydych yn siwr.

Rhaid ichi ddweud wrth Gofrestrfa Tir EF os yw gwybodaeth yn y gofrestr yn anghywir, er enghraifft, os ydych yn newid eich cyfeiriad cyswllt.

Gallwch olrhain newidiadau i’r gofrestr neu roi cyfyngiad ar eich teitl os ydych yn meddwl eich bod mewn perygl.

Olrhain newidiadau i’r gofrestr

Gallwch gofrestru i gael hysbysiadau ebost am eiddo os yw rhywun yn gwneud cais i newid cofrestr eich eiddo, er enghraifft, mae rhywun yn ceisio defnyddio eich eiddo ar gyfer morgais.

Ni fydd hyn yn rhwystro unrhyw newidiadau i’r gofrestr yn awtomatig ond bydd yn eich rhybuddio pan fydd rhywbeth yn newid er mwyn ichi allu gweithredu.

Gallwch gael hysbysiadau ebost ar gyfer hyd at 10 eiddo – ni chodir ffi.

Rhoi cyfyngiad ar eich teitl

Gallwch atal Cofrestrfa Tir EF rhag cofrestru gwerthiant neu forgais ar eich eiddo oni bai bod trawsgludwr neu gyfreithiwr yn ardystio mai chi wnaeth y cais.

Gall eich trawsgludwr neu gyfreithiwr godi ffi am ddarparu tystysgrif os oes angen un oherwydd cyfyngiad ar eich eiddo.

Perchnogion busnes

Gwnewch gais am gyfyngiad os ydych yn gwmni sy’n berchen ar eiddo.

Anfonwch eich cais i’r cyfeiriad ar y ffurflen – ni chodir ffi.

Os nad ydych yn byw yn yr eiddo

Gwnewch gais am gyfyngiad ar gyfer perchnogion nad ydynt yn byw yn yr eiddo os ydych yn berchen ar yr eiddo yn breifat – ni chodir ffi.

Os ydych yn byw yn yr eiddo

Gwnewch gais am gyfyngiad. Codir ffi o £40.

Anfonwch ffurflenni wedi eu llenwi i Ganolfan Dinasyddion Cofrestrfa Tir EF.

HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn dweud wrthych pan fydd yn ychwanegu’r cyfyngiad.

Os ydych wedi dioddef twyll eiddo

Cysylltwch â llinell twyll eiddo Cofrestrfa Tir EF os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef twyll eiddo.

Llinell twyll eiddo Cofrestrfa Tir EF
reportafraud@landregistry.gov.uk
Ffôn: 0300 006 7030
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darllenwch am gost galwadau

Gallwch hefyd: