Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo

Dod o hyd i wybodaeth am eiddo yng Nghymru neu Loegr, hyd yn oed os nad ydych yn berchen arno.

Bydd angen ichi chwilio cofrestri gwahanol os yw’r eiddo yn yr Alban neu os yw’r eiddo yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Yr hyn y gallwch ei gael

Gallwch lawrlwytho copïau o grynodeb o’r eiddo, cynllun teitl a chofrestr teitl ar gyfer eiddo yn y gwasanaeth.

Cael crynodeb o’r eiddo

Mae crynodeb o’r eiddo’n cynnwys:

  • cyfeiriad yr eiddo – y cyfeiriad a gedwir gan y Post Brenhinol
  • y disgrifiad eiddo
  • y ‘math o ddaliadaeth’ – y math o berchnogaeth sydd gan yr eiddo
  • a oes unrhyw ‘gyfamodau cyfyngu’ – addewidion i beidio â gwneud rhai pethau gyda’r tir, fel peidio ag adeiladu ar ardal benodol
  • a oes unrhyw ‘hawddfreintiau’ – hawliau un darn o dir dros ddarn arall, fel hawl tramwy

I gael manylion unrhyw ‘gyfamodau cyfyngu’ neu ‘hawddfreintiau’, bydd angen ichi brynu’r gofrestr teitl.

Cael cofrestr teitl

Mae’r gofrestr teitl fel arfer yn cynnwys:

  • y rhif teitl
  • pwy yw perchennog yr eiddo
  • am faint y gwerthwyd yr eiddo ddiwethaf
  • a oes gan yr eiddo forgais
  • manylion unrhyw ‘gyfamodau cyfyngu’ – addewidion i beidio â gwneud rhai pethau gyda’r tir, fel peidio ag adeiladu ar ardal benodol
  • manylion unrhyw ‘hawddfreintiau’ – hawliau un darn o dir dros ddarn arall, fel hawl tramwy

Mewn rhai achosion, ni fydd y gofrestr teitl yn cynnwys manylion y cyfamodau cyfyngu neu hawddfreintiau, ond bydd yn dweud pa ddogfennau sy’n gwneud hynny.

Cael cynllun teitl

Mae’r cynllun teitl yn cynnwys lleoliad yr eiddo a’i derfynau cyffredinol.

Chwilio am eiddo

Bydd angen ichi archebu copi swyddogol o’r gofrestr os oes angen ichi brofi perchnogaeth eiddo, er enghraifft ar gyfer achos llys.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen cyfeiriad ebost a cherdyn debyd neu gredyd arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Darllen canllaw ar gael gwybodaeth am eiddo a thir, gan gynnwys ffynonellau eraill o wybodaeth.

Ffïoedd

Y gost
Crynodeb o’r eiddo Am ddim
Cofrestr teitl £3
Cynllun teitl £3

Ni ellir lawrlwytho rhai cynlluniau teitl ar-lein – bydd yn rhaid ichi eu cael trwy’r post. Y gost yw £7 y ddogfen.

Cymorth

Cysylltwch â Chofrestrfa Tir EM os oes angen:

Gallwch gael adroddiad ar risg llifogydd ar gyfer eiddo yn Lloegr gan Asiantaeth yr Amgylchedd.