Canllawiau

Property Alert

Cofrestrwch ar gyfer Property Alert, gwasanaeth di-dâl Cofrestrfa Tir EF, i helpu i warchod eich eiddo rhag twyll.

Applies to England and Wales

Y drefn

Gellir:

  • monitro eiddo os yw eisoes wedi ei gofrestru gyda Chofrestrfa Tir EF
  • monitro eiddo perthynas; nid oes yn rhaid ichi berchen ar eiddo i greu hysbysiad ebost
  • dewis hyd at 10 eiddo i’w monitro

Cewch hysbysiadau ebost pan fydd gweithgaredd penodol ar yr eiddo rydych yn eu monitro.

Cofrestru ar gyfer Property Alert

  1. Crëwch gyfrif Property Alert.
  2. Cewch ebost o gadarnhad. I actifadu eich cyfrif, cliciwch ar y cyswllt yn yr ebost.
  3. Mewngofnodwch i’ch cyfrif ac ychwanegwch yr holl eiddo rydych am eu monitro. Bydd angen cyfeiriad neu rif teitl yr eiddo arnoch.

Wedi cofrestru’n barod

Gwybodaeth am hysbysiadau ebost

Byddwn yn anfon hysbysiad ebost atoch bob tro y bydd gweithgarwch arwyddocaol ar yr eiddo rydych yn ei fonitro, er enghraifft os yw morgais newydd yn cael ei gymryd yn ei erbyn.

Bydd yr hysbysiad ebost yn dweud wrthych pa fath o weithgarwch ydyw (er enghraifft cais i newid y gofrestr neu hysbysiad y gall cais fod yn ofynnol), pwy yw’r ceisydd a’r dyddiad a’r amser y daeth i law.

Ni fydd pob hysbysiad ebost yn golygu bod gweithgarwch twyllodrus wedi digwydd. Os nad ydych yn meddwl bod yr hysbysiad ebost yn ymwneud ag unrhyw weithgarwch amheus, nid oes yn rhaid ichi wneud unrhyw beth.

Ni fydd cofrestru ar gyfer Property Alert yn atal twyll rhag digwydd yn awtomatig. Bydd yn rhaid ichi benderfynu a allai’r gweithgarwch ar yr eiddo fod yn dwyllodrus a gweithredu’n gyflym os ydych yn meddwl hynny. Bydd yr hysbysiad ebost yn dweud wrthych â phwy y dylech gysylltu.

Enghraifft o rywun sydd wedi cofrestru ar gyfer Property Alert

Roedd Mr Mills yn rhentu ei eiddo yn Lloegr tra oedd yn byw dramor. Sylweddolodd fod landlordiaid absennol mewn mwy o berygl o dwyll eiddo felly cofrestrodd ar gyfer ein gwasanaeth Property Alert.

Ychydig yn ddiweddarach, cafodd hysbysiad ebost yn dweud bod rhywun wedi gwneud cais i gofrestru morgais ar ei eiddo oedd gwerth dros £300,000. Nid oedd Mr Mills yn disgwyl hyn, felly cysylltodd â’n llinell twyll eiddo. Gan fod Mr Mills wedi rhoi gwybod inni fod y cais am forgais yn un amheus, ymchwiliwyd i’r cais a chafodd ei atal rhag cael ei gofrestru ar ôl inni sylweddoli ei fod yn dwyllodrus. Gan fod manylion cyswllt Mr Mills yn hen, cafodd ei gynghori i’w diweddaru ac felly os oedd angen inni gysylltu ag ef eto yn y dyfodol, byddai’n sicr o gael ein negeseuon ebost neu lythyrau.

O ganlyniad iddo gofrestru ar gyfer Property Alert, roedd Mr Mills yn gallu sylwi ar weithgarwch amheus ar ei eiddo, ac oherwydd iddo weithredu’n gyflym a rhoi gwybod inni, roedd modd inni atal y trafodiad twyllodrus rhag cael ei gofrestru.

Twyll eiddo

Mae twyll eiddo yn digwydd pan fydd twyllwyr yn ceisio “dwyn” eich eiddo, fel arfer trwy esgus mai chi ydyn nhw a gwerthu neu forgeisio eich eiddo heb ichi wybod hynny.

Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mae Cofrestrfa Tir EF wedi atal 205 o geisiadau twyllodrus rhag cael eu cofrestru, sy’n cynrychioli eiddo gwerth dros £123.3 miliwn.

Gwyliwch ein fideo i ddarganfod rhagor am dwyll eiddo.

gwyliwch ein fideo.

Darllenwch ragor am bwy sydd mewn mwy o berygl o dwyll eiddo.

Cysylltu

I gysylltu â’r tîm Property Alert:

Rydym yn anfon hysbysiadau trwy ebost. Os nad oes gennych gyfeiriad ebost, ffoniwch y tîm Property Alert.

Cysylltwch â’n Tîm Cymorth i Gwsmeriaid os oes gennych gwestiwn cyffredinol neu ymholiad gwaith cais nad yw’n gysylltiedig â Property Alert.

Cyhoeddwyd ar 9 December 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 October 2016 + show all updates
  1. Welsh version added

  2. Updated figure: Land Registry has stopped fraud on properties worth more than £80 million (since 2009).

  3. First published.