Canllawiau

Rhowch wybod i CThEF am eich cynlluniau Gwarantau Ar Sail Cyflogaeth

Pryd a sut i roi gwybod wrth CThEF am gynlluniau Gwarantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS) newydd, neu gynlluniau sydd wedi dod i ben.

Os ydych yn asiant, dim ond ar gyfer cynlluniau Gwarantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS) sydd eisoes wedi’u cofrestru y byddwch yn gallu bwrw golwg dros a chyflwyno datganiadau — ni fyddwch yn gallu cofrestru na dod â chynllun ERS i ben.

Dysgwch sut i gofrestru fel asiant treth proffesiynol (yn Saesneg).

Mae rhoddion a dyfarniadau o gyfranddaliadau mewn cwmnïau, a elwir yn aml yn Warantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS), yn cael eu defnyddio’n aml gan gyflogwyr i wobrwyo, cadw neu roi cymelliadau i gyflogeion. Gallant fod â mantais dreth neu heb fantais dreth.

Pryd i roi gwybod i CThEF

Mae’n rhaid i chi gofrestru pob cynllun ERS newydd ar Wasanaethau Ar-lein CThEF, gan gynnwys dyfarniadau neu roddion untro o gyfranddaliadau.

Dylai cynlluniau newydd sydd â mantais dreth gael eu cofrestru erbyn 6 Gorffennaf yn dilyn y flwyddyn dreth y cawsant eu sefydlu.

Ar gyfer cynlluniau Cymelliadau Rheoli Mentrau (EMI), mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am opsiwn EMI a ganiatawyd (yn Saesneg) cyn pen 92 diwrnod i ddyddiad y caniatâd.

Ni ellir cofrestru’r cynlluniau canlynol ar ôl 6 Gorffennaf:

  • Cynlluniau Cymell Cyfranddaliadau
  • Cynilo Wrth Ennill
  • Cynlluniau Opsiwn Prynu Cyfranddaliadau Cwmni

Dim ond pan fydd digwyddiad y mae’n rhaid rhoi gwybod amdano — er enghraifft caffael neu waredu gwarantau, neu aseinio neu ryddhau opsiynau gwarantau — y bydd angen i chi gofrestru cynlluniau sydd heb fantais dreth.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

I gofrestru’ch cynllun ERS, mae angen cyfeirnod TWE y cyflogwr arnoch. Gallwch gael hwn gan wasanaeth TWE ar-lein CThEF i Gyflogwyr, y gallwch gael mynediad ato gyda’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth a’ch cyfrinair.

Os oes angen i chi gofrestru fel cyflogwr (yn Saesneg), gall gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith i gael eich cyfeirnod TWE.

Mae angen i chi ychwanegu’r gwasanaeth ERS at Wasanaethau Ar-lein CThEF cyn y gallwch gofrestru cynllun ERS gyda ni.

Sut i ychwanegu’r gwasanaeth ERS at Wasanaethau Ar-lein CThEF

  1. Mewngofnodwch i Wasanaethau Ar-lein CThEF i Gyflogwyr.

  2. Dewiswch ‘Ychwanegu treth, toll neu gynllun nawr’.

  3. Dewiswch ‘Cyflogwyr neu gyfryngwyr, er enghraifft TWE i gyflogwyr neu CIS’.

  4. Dewiswch ‘Gwarantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS)’.

Sut i gofrestru cynllun ERS gyda CThEF

Ar ôl i’r gwasanaeth ERS gael ei ychwanegu at Wasanaethau Ar-lein CThEF, gallwch gofrestru cynlluniau ERS gyda ni.

  1. Mewngofnodwch i Wasanaethau Ar-lein CThEF i Gyflogwyr.

  2. Dewiswch ‘Gwasanaeth ERS Ar-lein’.

  3. Dewiswch ‘Cofrestru cynllun neu drefniant’.

  4. Dewiswch y math o gynllun rydych am ei gofrestru a chliciwch ar ‘Nesaf’.

  5. Llenwch y datganiad hunanardystio.

  6. Ailnodwch eich manylion mewngofnodi i gwblhau’r cofrestriad.

Bydd CThEF yn dyrannu cyfeirnod cynllun cyn pen 7 diwrnod ar ôl cofrestru cynllun ERS. Gallwch ddod o hyd i’ch cyfeirnod ar Wasanaethau Ar-lein CThEF drwy ddewis ‘Bwrw golwg dros gynlluniau a threfniadau’.

Ar ôl i chi gofrestru

Mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad ERS (yn Saesneg) ar gyfer pob cynllun ERS cofrestredig bob blwyddyn hyd nes y byddwch yn dod â’r cynllun i ben, hyd yn oed os nad oes digwyddiad y mae’n rhaid rhoi gwybod amdano. Mae’n rhaid cyflwyno datganiadau ERS erbyn 6 Gorffennaf ar ôl diwedd y flwyddyn dreth neu mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.

Cyn i chi gyflwyno datganiad neu hysbysiad ar gyfer eich gwarantau ar sail cyflogaeth, bydd angen i chi gadw copi ohono ar gyfer eich cofnodion.

Mae hyn oherwydd na fydd y gwasanaeth ar-lein yn cadw’r manylion a ni fyddwch yn gallu eu cyrchu eto.

Sut i awdurdodi asiant i gyflwyno datganiadau ERS

Os ydych chi am i asiant gyflwyno datganiad ERS ar eich rhan, mae angen iddo gael ei awdurdodi i wneud hynny yn gyntaf. I wneud hyn, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Darllenwch ragor am sut i awdurdodi asiant drwy’ch cyfrif treth busnes (yn Saesneg).

Rhoi gwybod i CThEF fod eich cynllun ERS wedi dod i ben

I roi gwybod i CThEF fod eich cynllun ERS wedi dod i ben (yn Saesneg), bydd angen arnoch y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch roi gwybod i CThEF am y cynllun (ni all asiantau ERS ddod â chynllun ERS i ben).

  1. Mewngofnodwch i Wasanaethau Ar-lein CThEF i Gyflogwyr.

  2. Dewiswch ‘View schemes and arrangements’.

  3. Dewiswch y cynllun y mae angen i chi ddod ag ef i ben. Byddwch yn cael eich arwain i sgrin arall ar ôl dewis y cynllun.

  4. Dewiswch ‘End of year returns’.

  5. Dewiswch ‘Provide a date of final event’ a nodwch y dyddiad y daeth yr ERS i ben (gall y dyddiad fod yn y gorffennol, ond mae’n rhaid cyflwyno datganiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth y mae dyddiad y digwyddiad terfynol ynddi).

Cyhoeddwyd ar 1 January 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 February 2024 + show all updates
  1. We have updated the guidance with more information about when to tell HMRC about a grant of an Enterprise Management Incentive (EMI) option.

  2. Before you submit your employment related securities return or notification, you need to save a copy of it for your own records. This is because the online service will not save the details and you will not be able to access them again.

  3. If you need to register as an employer, it can now take up to 15 working days to get your PAYE reference number.

  4. A Welsh translation has been added,

  5. Information about the 2 ways an agent can be authorised has been added to the 'How to authorise an agent to submit an ERS return' section.

  6. Guidance has been added to explain how to add employment related securities to HMRC Online Services and how to register employment related securities with HMRC. Steps have also been added to show how to authorise an agent to submit employment related security returns on your behalf.

  7. Guidance on how and when you'll get your scheme reference number has been updated.

  8. More information about how to tell HMRC about your ERS schemes has been added.

  9. First published.