Canllawiau

Cofnodi a rhoi gwybod am wartheg sy'n cael eu hallforio neu eu symud allan o Gymru neu Loegr

Yr hyn mae'n rhaid i geidwaid gwartheg yng Nghymru a Lloegr ei gofnodi a rhoi gwybod amdano wrth allforio neu symud gwartheg, gan gynnwys y rheolau ynghylch tagio clustiau.

Applies to England and Wales

Dim ond os yw’r canlynol yn wir y cewch chi allforio neu symud gwartheg allan o Gymru neu Loegr:

  • eu bod nhw wedi’u geni, wedi’u mewnforio neu wedi’u symud i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) ar ôl 1 Awst 1996
  • bod ganddyn nhw basbort dilys (tudalen sengl neu ddull llyfr sieciau) gyda hanes cyflawn eu symudiadau
  • bod ganddyn nhw ddau dag clust swyddogol, un yn y naill glust a’r llall, yn dangos yr un rhif tag clust swyddogol
  • nad ydyn nhw o dan unrhyw gyfyngiadau symud

Nid yw’r rheolau hyn yn gymwys pan fyddwch yn symud gwartheg i’r Alban o Gymru neu Loegr. Yn lle’r rheiny, dilynwch y rheolau ar gyfer cofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg oddi ar eich daliad.

Mae yna reolau a phrosesau eraill i’w dilyn pan fyddwch chi’n allforio neu’n symud gwartheg, er enghraifft cyfnodau cwarantin. Darllenwch ragor am y canlynol:

Yr hyn mae’n rhaid ichi ei gofnodi a rhoi gwybod amdano

Mae’n rhaid ichi:

Os ydych chi’n symud gwartheg i Ogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, anfonwch gopi o’r dystysgrif iechyd allforio (tudalen gwe yn Saesneg) i GSGP o fewn 7 diwrnod.

Os ydych chi’n allforio i’r UE neu unrhyw wlad arall y tu allan i’r Deyrnas Unedig, anfonwch gopi o’r dystysgrif iechyd allforio (tudalen gwe yn Saesneg) a’r pasbort gwartheg i GSGP o fewn 7 diwrnod.

Rhowch label cod bar gyda rhif daliad (CPH) y daliad y mae’r anifail yn cael ei symud neu ei allforio ohono ar bob dogfen y byddwch chi’n ei hanfon i GSGP. Neu fel arall fe gewch chi ysgrifennu’ch rhif daliad ar y dogfennau.

Os yw’r daliad wedi cael ei gymeradwyo fel canolfan grynhoi, defnyddiwch rif daliad (CPH) y ganolfan grynhoi.

Postiwch eich dogfennau i:

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD

Rheolau ynghylch tagio clustiau er mwyn allforio gwartheg i’r UE neu eu symud i Ogledd Iwerddon

Rhaid i chi dagio’r holl wartheg sy’n cael eu hallforio i’r UE neu eu symud i Ogledd Iwerddon gyda chod gwlad Prydain Fawr.

Rhaid i bob tag clust gynnwys rhif tag clust swyddogol yr anifail hefyd.

Os oes gan yr anifail rydych chi’n ei allforio bâr yn barod o dagiau clust swyddogol y Deyrnas Unedig (tagiau dwbl), bydd angen ichi ychwanegu trydydd tag clust sy’n cynnwys:

  • cod gwlad GB
  • rhif adnabod unigol yr anifail

Gall trydydd tagiau clust fod yn dag baner neu fotwm plastig o unrhyw liw.

Os ydych chi’n bwriadu allforio llo sydd heb ei dagio, rhaid ichi osod tag sylfaenol a thag eilaidd yn gyntaf. Rhaid i’r tag eilaidd gynnwys yr ôl-ddodiad GB (er enghraifft UK123456700123-GB).

Rhaid ichi archebu tagiau clust gan gyflenwr sydd wedi’i gymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg).

Allforio neu symud gwartheg i gael eu lladd

Rhaid i wartheg sy’n cael eu hallforio neu eu symud i gael eu lladd gael eu rhewfrandio ar eu rhan ôl â nod L.

Y rheolau ynghylch tagio clustiau ar gyfer gwledydd eraill

Rhaid i wartheg sy’n cael eu hallforio y tu allan i’r UE neu’r Deyrnas Unedig deithio gyda’u tagiau clust gwreiddiol.

Os oes gan y wlad maen nhw’n cael eu hallforio iddi ofynion gwahanol ynglŷn â thagiau clust, fe fydd y tagiau’n cael eu newid ar ôl cyrraedd.

Mae’n dal yn rhaid ichi ddilyn y rheolau ar gyfer cofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg.

Allforio cynhyrchion gwartheg

Mae yna reolau gwahanol i’w dilyn pan fyddwch yn allforio neu’n symud cynhyrchion anifeiliaid, fel cig neu gelatin, allan o Gymru neu Loegr.

Darllenwch y canllawiau ar sut i allforio neu symud bwyd, diod a chynhyrchion amaethyddol (tudalen gwe yn Saesneg).

Cyhoeddwyd ar 6 May 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 November 2022 + show all updates
  1. Clarified what you need to do when exporting cattle or moving them to Northern Ireland. Added a link to general rules on exporting.

  2. This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.

  3. Links to Bovine-CON (consignor confirmation of loading) form and list of identification numbers (Bovine-SCH) removed.

  4. Added section to explain that as a result of the UK exiting the EU, the tagging requirements for cattle that are exported from or moved out of GB to an EU Country or Northern Ireland have changed from 1 January.

  5. First published.