Canllawiau

Sut i ysgrifennu dibenion elusennol

Sut i benderfynu beth yw dibenion eich elusen a'u hysgrifennu yng nghymal 'amcanion' eich dogfen lywodraethol.

Applies to England and Wales

Am ddibenion elusennol

‘Diben’ eich elusen yw’r hyn y cafodd ei sefydlu i’w gyflawni. Diben elusennol yw un sydd:

  • wedi’i gynnwys o fewn un neu ragor o’r 13 ‘disgrifiad o ddibenion’’ a restrir yn y Ddeddf Elusennau

  • ar gyfer budd y cyhoedd (y ‘gofyniad budd cyhoeddus’’)

Pam mae dibenion yn bwysig

Mae dibenion eich elusen yn bwysig i’r:

  • Comisiwn Elusennau - i benderfynu a yw’ch sefydliad yn elusen

  • Cyllid a Thollau EM - i benderfynu a yw’n gymwys i gael rhyddhad treth

  • unrhyw un sy’n ymuno, yn cefnogi neu’n cael budd o’ch elusen - er mwyn iddynt ddeall beth mae’n ei wneud, pwy y mae’n ei helpu, ble a sut y mae’n gweithio

  • eich ymddiriedolwyr - mae’r dibenion yn pennu terfyn yr hyn y gall eich elusen ei wneud; mae’n rhaid i’ch ymddiriedolwyr wneud penderfyniadau a rhedeg yr elusen mewn ffordd sy’n gyson â’i dibenion

Sut i ysgrifennu dibenion eich elusen

Dylai dibenion eich elusen egluro:

  • pa ganlyniadau y mae’ch elusen wedi’i sefydlu i’w cyflawni

  • sut y bydd yn cyflawni’r canlyniadau hyn

  • pwy fydd yn cael budd o’r canlyniadau hyn

  • ble mae’r buddion yn ymestyn

Er enghraifft:

Er budd y cyhoedd, lleddfu effeithiau a chynorthwyo pobl mewn angen (beth) mewn unrhyw ran o’r byd (ble) sy’n dioddef rhyfel neu drychineb naturiol neu anffawd (pwy) drwy roi cymorth meddygol iddynt (sut).

Pan fyddwch yn ysgrifennu dibenion eich elusen mae’n rhaid i chi

  • ddeall bod y geiriau rydych yn eu defnyddio yn bwysig - allwch chi ddim dweud bod eich elusen wedi’i sefydlu i wneud unrhyw beth nad yw’n elusennol

  • nodi’n eglur beth yw diben eich elusen - os nad yw’n glir, ni all y comisiwn fod yn sicr ei fod yn elusennol

  • bod yn fanwl gywir - defnyddio iaith syml ac osgoi geiriau amwys neu aneglur

  • esbonio unrhyw dermau nad ydynt efallai yn cael eu deall yn gyffredinol neu sydd â mwy nag un ystyr

  • cynnwys pob un o ddibenion eich elusen, os oes mwy nag un diben ganddi

Cam 1: pa amcanion mae’ch elusen wedi’i sefydlu i’w cyflawni

Nodwch pa ganlyniadau mae’ch elusen wedi’i sefydlu i’w cyflawni, megis “lleddfu effeithiau tlodi”. Rhaid i’r rhain i gyd fod yn elusennol.

Mae’n rhaid i bob un o ddibenion eich elusen gael eu cynnwys o fewn un neu ragor o’r 13 disgrifiad o ddibenion a restrir yn y Ddeddf Elusennau. Mae’r rhain yn benawdau eang ac mae’n rhaid i bob diben elusennol gael eu cynnwys o fewn y penawdau hyn.

Gallwch ddefnyddio geiriad un neu ragor o’r disgrifiadau hyn i ddweud pa ganlyniadau y mae’ch elusen wedi’i sefydlu i’w cyflawni, megis “atal neu leddfu effeithiau tlodi er budd y cyhoedd”. Ond efallai na fydd geiriad y disgrifiadau eu hunain yn egluro beth yw diben eich elusen oherwydd y gall sawl diben gael eu cynnwys o fewn pob disgrifiad.

Efallai y bydd angen i chi roi mwy o fanylion ynghylch pwy fydd yn cael budd a sut a ble mae’r buddion yn ymestyn.

Enghreifftiau o eiriad addas

Pan fyddwch yn ysgrifennu diben eich elusen, esboniwch beth mae wedi’i sefydlu i’w gyflawni gan ddefnyddio termau safonol lle y bo’n bosib:

  • “hyrwyddo…” neu “er mwyn hyrwyddo..”

  • “hybu…” neu “er mwyn hybu..”

  • “darparu…” neu “er mwyn darparu..”

  • “lleddfu…” neu “er mwyn lleddfu..”

Defnyddiwch y geiriau “Er budd y cyhoedd….” neu “…er budd cyhoeddus” i gadarnhau bod y diben yn bwriadu bod yn elusennol. Er enghraifft:

Lleddfu effeithiau diweithdra er budd y cyhoedd yn [x lle], gan gynnwys rhoi cymorth i ddod o hyd i waith

Cenhadaeth a gwerthoedd

Gall fod datganiad cenhadaeth gan eich elusen sy’n amlinellu ei gwerthoedd craidd. Byddwch yn gallu ei ddefnyddio fel diben datganedig eich elusen dim ond os yw wedi’i ysgrifennu yn unol â’r canllaw hwn.

Peidiwch â chynnwys cymhelliad neu ethos eich elusen yn ei diben (‘er mwyn gwneud gwaith da’, er enghraifft) oni bai bod hyn yn golygu y bydd eich diben yn cael ei gyflawni mewn ffordd benodol. Er enghraifft, ‘yn unol ag egwyddorion Cristnogol’.

Dibenion elusennol cyffredinol

Gall elusen rhoi grantiau gael ei sefydlu gyda’r unig bwrpas o ‘hyrwyddo dibenion elusennol cyffredinol’ os yw hyd a lled ei phwerau rhoi grantiau yn ymestyn ar draws ystod o ddibenion elusennol. Er enghraifft:

Hyrwyddo dibenion elusennol (yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr) fel y gwêl yr ymddiriedolwyr yn dda o bryd i’w gilydd.

Defnyddiwch amcan wedi’i eirio’n fwy manwl os bydd ffocws arbennig i’r grantiau rydych chi’n eu rhoi. Er enghraifft, gallai diben elusen sy’n cefnogi ystod eang o ddibenion elusennol ond sy’n canolbwyntio ar addysg gael ei eirio fel a ganlyn:

Hyrwyddo dibenion elusennol (yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr) fel y gwêl yr ymddiriedolwyr yn dda o bryd i’w gilydd yn arbennig ond heb ei gyfyngu i hyrwyddo addysg pobl ifanc er budd y cyhoedd drwy roi grantiau a gwobrau i fyfyrwyr sydd mewn addysg amser llawn.

Cam 2: sut bydd eich elusen yn gwireddu’r canlyniadau hyn

Rhestrwch y ffyrdd penodol y bydd eich elusen yn gwireddu’r canlyniad (lle y bo’n berthnasol) - rhaid iddynt allu gwireddu’r canlyniad rydych chi’n dymuno. Er enghraifft, rhoi grantiau fel ffordd o atal neu leddfu tlodi:

…atal neu leddfu effeithiau tlodi er budd y cyhoedd [yn arbennig] drwy ddarparu grantiau

Rhestrwch y prif ffyrdd y bydd eich elusen yn cyflawni ei diben. Ceisiwch sicrhau cydbwysedd rhwng mynegi’n eglur beth y bydd eich elusen yn ei wneud i gyflawni ei diben heb gyfyngu’n ddiangen ar yr hyn y gall ei wneud. Er enghraifft:

Er budd y cyhoedd, diogelu a gwarchod yr amgylchedd yn arbennig ond nid yn unig drwy (a) hyrwyddo lleihau gwastraff, ailddefnyddio defnyddiau, ailgylchu, defnyddio cynhyrchion wedi’u hailgylchu a defnyddio gweddillion (b) hyrwyddo addysg y cyhoedd am bob agwedd ar gynhyrchu gwastraff, rheoli gwastraff ac ailgylchu gwastraff

Enghreifftiau o eiriad addas

Os yw’n briodol, byddwch yn benodol ynghylch sut y bydd eich elusen yn gwireddu ei chanlyniadau gan ddefnyddio “drwy gyfrwng x”, er enghraifft:

  • “drwy ddarparu gwybodaeth”

  • “drwy roi cyngor”

  • “drwy godi ymwybyddiaeth”

  • “drwy wneud gwaith ymchwil”

  • “drwy roi grantiau”

  • “drwy ddarparu llety”

Defnyddiwch y cymal “yn arbennig trwy” i gyfyngu eich elusen i gyflawni ei diben mewn ffordd arbennig. Mae’n llai cyfyngol i ddweud “yn arbennig ond nid yn unig drwy”. Er enghraifft:

Hyrwyddo chwaraeon amatur er budd y cyhoedd yn arbennig ond nid yn unig drwy ddarparu cyfleusterau ar gyfer chwarae rygbi, pêl-droed a chriced

Gwahaniaethu rhwng ‘beth’ a ‘sut’

Byddwch yn glir ynghylch y gwahaniaeth rhwng ‘beth’ a ‘sut’ pan fyddwch yn ysgrifennu eich dibenion. Er enghraifft, os mai hyrwyddo addysg yw’r hyn y mae’ch elusen wedi’i sefydlu i’w gyflawni:

hyrwyddo addysg er budd y cyhoedd [beth] drwy ddarparu ysgol [sut] i blant 5 i 11 oed [pwy] sy’n byw yn lle x [ble]

Ond os mai addysg yw’r ffordd rydych chi’n hyrwyddo diben elusennol, dyma’r ‘sut’ nid y ‘beth’:

hyrwyddo iechyd er budd y cyhoedd [beth] drwy addysgu [sut] y cyhoedd [pwy] am y risgiau iechyd sy’n gysylltiedig ag ysmygu

Cam 3: pwy fydd y canlyniadau yn rhoi budd iddynt a ble maen nhw’n ymestyn

Efallai na fydd diben eich elusen yn pennu pwy all gael budd neu ble mae’r buddiannau yn ymestyn. Os felly, ystyrir bod hyn yn golygu y bydd, o bosib, yn cynnig budd i’r cyhoedd yn gyffredinol, unrhyw le yn y byd.

Os bydd diben eich elusen yn cynnig budd i grŵp diffiniedig o bobl yn unig, mae’n rhaid iddo fod yn rhan ddigonol o’r cyhoedd.

Os yw’n berthnasol, dylech gynnwys yn niben eich elusen unrhyw ddiffiniadau penodol o bwy all gael budd, megis:

  • eu hoedran

  • ble maen nhw’n byw

  • eu rhyw

  • unrhyw nodweddion diffiniol eraill

Er enghraifft:

Atal neu leddfu effeithiau tlodi i bobli ifanc sy’n byw yn Llundain Fwyaf sydd wedi’u dieithrio’n gymdeithasol, yn arbennig drwy ddarparu grantiau i roi cyfle iddyn nhw adeiladu gallu drwy sefydlu a thyfu busnes i leddfu eu hanghenion a’u helpu i integreiddio i gymdeithas

Cam 4: esbonio unrhyw dermau arbennig a ddefnyddir yn y diben

Dylech gynnwys diffiniad o’r termau arbennig a ddefnyddir yn niben eich elusen os oes posibilrwydd na fydd y termau hyn yn cael eu deall neu os oes mwy nag un ystyr ganddynt. Er enghraifft:

At ddiben y cymal hwn, ystyr ‘wedi’u dieithrio’n gymdeithasol’ yw…

Esboniwch, neu rhestrwch, unrhyw egwyddorion neu werthoedd eraill y mae eich diben yn cyfeirio atynt. Er enghraifft, os yw’n dweud: “Hyrwyddo addysg yn unol ag egwyddorion x”.

Ble i ysgrifennu eich dibenion: y cymal ‘amcanion’

Fel arfer rydych chi’n ysgrifennu diben eich elusen yng nghymal amcanion ei dogfen lywodraethol (y ddogfen gyfreithiol sy’n creu’r elusen ac sy’n dweud sut y dylai gael ei rhedeg).

Dylai dibenion ac amcanion eich elusen fod yr un fath. Dylai’r amcanion fynegi’n fanwl gywir holl ddibenion eich elusen.

Dylech ddeall ar gyfer pob diben gwahanol sydd gan eich elusen, bydd rhaid i chi ddangos:

  • ei fod er budd y cyhoedd

  • bydd yr ymddiriedolwyr yn ei gyflawni er budd y cyhoedd

Rhestrwch y dibenion y mae eu hangen arnoch nawr yn unig oherwydd gallwch wneud cais i’r comisiwn i newid eich amcanion pan fyddwch chi’n barod i newid gwaith eich elusen.

Efallai yr hoffech gynnwys diben eang i gwmpasu gwaith eich elusen. Er enghraifft:

Hyrwyddo dibenion eraill a allai fod yn elusennol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr fel y gwêl yr ymddiriedolwyr yn dda o bryd i’w gilydd

Os ydych chi’n cynnwys dibenion eang, bydd rhaid i chi ddweud wrth y comisiwn sut y byddwch chi, fel ymddiriedolwyr:

  • yn adnabod y dibenion yr hoffech chi eu cyflawni sy’n elusennol yn unol â cyfraith Cymru a Lloegr

  • bwriadu cyflawni’r dibenion - er enghraifft, drwy ddarparu manylion am eich polisi rhoi grantiau

Efallai eich bod chi’n defnyddio dogfen lywodraethol gymeradwy, fel cangen o elusen genedlaethol neu sydd wedi cael ei gyhoeddi gan gorff mantell. Os felly, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael caniatâd y corff a’i cyhoeddodd os ydych am newid y cymal amcanion.

Nid yw cymal amcanion wedi’u hysgrifennu’n berffaith yn golygu o reidrwydd y bydd eich sefydliad yn elusen. Mae’n rhaid i chi ddangos o hyd bod dibenion eich elusen er budd y cyhoedd a’i fod yn bodloni’r holl ofynion eraill er mwyn cofrestru fel elusen.

Yn yr un modd, efallai na fydd cymal amcanion wedi’i ysgrifennu’n wael yn atal eich sefydliad rhag cael ei gofrestru os yw’n glir bod dibenion elusennol yn unig gaen eich sefydliad. Gall gael ei gofrestru fel elusen os ydych chi’n newid yr amcanion i ddatgan y dibenion elusennol hynny yn llawn ac yn gywir.

Amcanion enghreifftiol: pryd i’w defnyddio

Defnyddiwch un o amcanion enghreifftiol y comisiwn os yw’n mynegi’n gywir ddiben eich elusen - peidiwch â’i newid.

Ond peidiwch â defnyddio un os nad yw’n gweddu’n hollol i’r hyn y mae’ch elusen wedi’i sefydlu i’w gyflawni. Gallai hyn gyfyngu’r hyn y gall eich elusen ei wneud - fel ymddiriedolwyr, mae dyletswydd gennych i weithio o fewn dibenion datganedig eich elusen.

Pwerau a dibenion: y gwahaniaeth

‘Diben’ eich elusen yw’r hyn y cafodd ei sefydlu i’w gyflawni. Ei ‘phwerau’ yw’r hyn y gall ei wneud i helpu i gyflawni’r diben, fel codi arian, prynu eiddo neu fenthyca arian.

Y gwahaniaeth yw bod y pwerau yn ymwneud â sut y mae’r elusen yn gweithredu; mae’r diben yn ymwneud â’r hyn y mae’n ei gyflawni.

Er enghraifft, gall pwerau eich elusen ddweud sut y bydd eich elusen yn codi arian; mae ei diben yn dweud sut y bydd yn defnyddio’r arian y mae’n ei godi.

Yn eich dogfen lywodraethol, rhestrwch bwerau eich elusen ar wahân i’w dibenion.

Cysylltwch eich pwerau i’ch dibenion gyda’r gair ‘gan’ ar ôl y dibenion, neu frawddeg gyswllt:

“Wrth hybu’r amcan hwn, ond nid ymhellach neu fel arall, bydd gan yr ymddiriedolwyr y pwerau canlynol:”

Termau i’w hosgoi

  • peidiwch â dweud “hybu a hyrwyddo” - mae’n ailadroddus ac nid yw’n ychwanegu at ystyr y diben

  • peidiwch â nodi beth fydd eich elusen yn ei gyflawni ar ôl sut y bydd yn gwneud hyn (er enghraifft, “rhoi grantiau fel ffordd o leddfu effeithiau tlodi”) - ni fydd yn atal eich diben rhag bod yn elusennol ond mae’n gliriach beth yw diben eich elusen os ydych yn rhoi ‘beth’ cyn y ‘sut’

  • peidiwch â defnyddio geiriau amwys neu aneglur megis “hyrwyddo achosion da”. Nid yw pob achos da yn achos elusennol

  • peidiwch â drysu gweithgareddau a dibenion drwy ddweud “hyrwyddo gweithgareddau elusennol” - dibenion eich sefydliad sy’n rhaid bod yn elusennol. Ei gweithgareddau yw beth y mae’n ei wneud i gyflawni ei diben

  • peidiwch â dweud “hyrwyddo [rhywbeth] ym mha bynnag ffordd sy’n elusennol” neu “drwy’r dibenion canlynol sy’n elusennol yn ôl y gyfraith” - ni fyddai hynny’n gwneud rhywbeth yn elusennol sydd ddim yn elusennol yn elusennol

  • ceisiwch osgoi disgrifio eich dibenion fel rhai ‘teilwng’, ‘haeddiannol’, ‘llesiannol’, ‘dyngarol’, ‘gwladgarol’, ‘iwtilitaraidd’ ac ati - gall y mathau hyn o dermau gynnwys pethau sydd heb fod yn elusennol hefyd

  • peidiwch â defnyddio’r gair ‘lles’ oni bai bod cyd-destun elusennol penodol ganddo fel ‘lles cymdeithasol’ neu ‘lles anifeiliaid’ - nid yw “hyrwyddo lles x” ar ei ben ei hun yn elusennol

  • peidiwch â defnyddio ‘cydlyniad cymdeithasol’ neu ‘gydlyniad cymunedol’ fel diben elusennol - gall y rhain fod yn fudd sy’n deillio drwy gyflawni diben elusennol ond nid yw’r termau yn ddigon manwl i fynegi diben elusennol ynddo’i hun

Cyhoeddwyd ar 16 September 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 November 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.