Canllawiau

Budd cyhoeddus: rheolau i elusennau

Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusen 'roi sylw' i ganllawiau budd cyhoeddus y Comisiwn Elusennau wrth ymgymryd â gweithgareddau y mae'r canllawiau yn berthnasol iddynt.

Applies to England and Wales

Am fudd cyhoeddus

Yng Nghymru a Lloegr, mae budd cyhoeddus yn rhan o’r hyn y mae’n ei olygu:

  • i fod yn elusen - mae’n rhaid i’ch elusen gael dibenion elusennol yn unig ac mae’n rhaid iddynt fod er budd y cyhoedd (‘y gofyniad budd cyhoeddus’)
  • gweithredu fel elusen - fel ymddiriedolwr elusen, pan fyddwch yn rhedeg eich elusen mae’n rhaid i chi gyflawni dibenion eich elusen er budd y cyhoedd
  • adrodd ar waith elusen - fel ymddiriedolwr elusen, mae’n rhaid i chi adrodd bob blwyddyn ar sut rydych wedi cyflawni dibenion eich elusen er budd y cyhoedd a chadarnhau, drwy wneud hynny, eich bod wedi rhoi sylw i ganllawiau budd cyhoeddus y Comisiwn Elusennau os yw’n berthnasol

Mae gan bob ymddiriedolwr elusen ddyletswydd i roi ‘sylw dyledus’ i ganllawiau budd cyhoeddus y comisiwn wrth ymarfer unrhyw bwerau neu ddyletswyddau y mae’r canllawiau’n berthnasol iddynt.

Fel ymddiriedolwr elusen, mae ‘rhoi sylw’ i ganllawiau budd cyhoeddus y comisiwn yn golygu gallu dangos:

  • eich bod yn ymwybodol o’r canllawiau
  • rydych wedi rhoi sylw i’r canllawiau pan fyddwch yn gwneud penderfyniad y mae’r canllawiau yn berthnasol iddo
  • os ydych wedi penderfynu gweithredu’n wahanol i’r canllawiau, bod rheswm da gennych dros wneud hynny

Y gofyniad budd cyhoeddus

‘Diben’ eich elusen yw’r hyn y cafodd ei sefydlu i’w gyflawni. Er mwyn i sefydliad fod yn elusen, mae’n rhaid i bob un o’i ddibenion fod er budd y cyhoedd. Mae Deddf Elusennau 2011 yn galw hyn y ‘gofyniad budd cyhoeddus’.

Mae dwy agwedd ar y gofyniad budd cyhoeddus:

Yr ‘agwedd budd’

Er mwyn bodloni’r agwedd hon:

  • mae’n rhaid i ddiben fod yn fuddiol - mae’n rhaid iddo fod mewn ffordd y mae modd ei adnabod ac y gellir ei brofi drwy dystiolaeth os oes angen ac nid yw’n seiliedig ar farn bersonol
  • ni all unrhyw niwed neu golled sy’n deillio o’r diben (i bobl, eiddo neu’r amgylchedd) fod yn fwy na’r budd - mae hyn hefyd yn seiliedig ar dystiolaeth ac nid ar farn bersonol

Yr ‘agwedd cyhoeddus’

Er mwyn bodloni’r agwedd hon mae’n rhaid i’r diben:

  • roi budd i’r cyhoedd yn gyffredinol, neu ran ddigonol o’r cyhoedd - mae ‘rhan ddigonol o’r cyhoedd’ yn amrywio o ddiben i ddiben
  • peidio ag arwain at fwy na budd personol damweiniol - mae budd personol yn ‘ddamweiniol’ pan (gan ystyried ei natur a’i faint) fydd yn ganlyniad angenrheidiol neu’n sgil-gynnyrch i gyflawni’r diben

Yn gyffredinol, er mwyn i ddiben fod yn ddiben elusennol mae’n rhaid iddo fodloni’r agweddau budd a chyhoeddus. Fodd bynnag, mae’n rhaid i elusennau sy’n lleddfu (ac mewn rhai achosion yn atal) tlodi fodloni’r agwedd budd yn unig.

Ni all eich sefydliad fod yn elusen os oes ganddo rai dibenion sy’n elusennol a rhai nad ydynt yn elusennol. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Budd cyhoeddus: y gofyniad budd cyhoeddus.

Cyflawni dibenion er budd y cyhoedd

Fel ymddiriedolwr elusen, eich cyfrifoldeb chi yw rhedeg eich elusen mewn ffordd sy’n cyflawni ei dibenion er budd y cyhoedd. Mae hyn yn golygu:

Gwneud penderfyniadau sy’n sicrhau bod diben eich elusen yn darparu budd

Mae hyn yn golygu deall sut mae’r diben yn fuddiol a’i gyflawni er mwyn rhoi budd i’r cyhoedd yn y ffordd honno.

Gwneud penderfyniadau sy’n rheoli risgiau o niwed neu golled i fuddiolwyr eich elusen neu i’r cyhoedd yn gyffredinol a allai ddeillio o gyflawni’r diben

Mae hyn yn golygu adnabod risgiau o niwed, lleihau’r risgiau a gwneud yn siŵr bod unrhyw niwed a allai godi yn ganlyniad dibwys i gyflawni’r diben.

Gwneud penderfyniadau ynghylch pwy sy’n cael budd mewn ffyrdd sy’n gyson â’r diben

Mae hyn yn golygu gwybod pwy all gael budd o’r diben a rhoi ystyriaeth briodol i’r ystod lawn o ffyrdd y gallech chi gyflawni diben eich elusen. Gallech chi ddewis canolbwyntio ar fuddiolwyr penodol. Gallwch wneud hyn ar yr amod bod rhesymau priodol gennych dros wneud hynny ac rydych yn gwneud eich penderfyniadau yn unol â’r fframwaith ar gyfer penderfyniadau ymddiriedolwyr.

Mae ffactorau eraill a all effeithio ar bwy all gael budd o ddiben eich elusen hefyd gynnwys darpariaethau aelodaeth, mynediad corfforol i’r cyfleusterau a ddarparir gan yr elusen (megis oriau agor) a chodi tâl am wasanaethau’r elusen.

Os yw’ch elusen yn codi mwy nag y gall y tlawd ei fforddio, mae’n rhaid i chi ei rhedeg mewn ffordd sy’n gwneud mwy na darpariaeth leiaf er mwyn i’r tlawd gael budd.

Gwneud penderfyniadau sy’n sicrhau nad yw unrhyw fudd personol yn fwy na rhai damweiniol

Mae hyn yn golygu sicrhau nad yw unrhyw fuddion personol a gaiff pobl (gan ystyried eu natur a’u maint) heb fod yn fwy na chanlyniad angenrheidiol neu’n sgil-gynnyrch i gyflawni’r diben.

Mae’n rhaid i chi wneud penderfyniadau sydd o fewn cwmpas y penderfyniadau y byddai’n briodol i ymddiriedolwyr eu gwneud yn yr amgylchiadau arbennig hynny. Ar yr amod eich bod yn gwneud hynny, byddwch wedi gwneud y penderfyniad ‘iawn’. Nid mater i’r llysoedd nac i’r comisiwn yw dweud wrth ymddiriedolwyr pa benderfyniad i’w wneud os oes mwy nag un penderfyniad ar gael iddynt.

Mae hyn yn golygu, fel ymddiriedolwr elusen, yn gyffredinol mae gennych chi ddewis ynghylch sut i gyflawni dibenion eich elusen, ar yr amod eich bod yn ymarfer eich disgresiwn mewn ffordd sydd:

  • yn cydymffurfio â diben eich elusen (felly nid ydych yn gweithredu y tu allan i’r diben hwnnw)
  • er budd y cyhoedd
  • yn rhoi sylw i ganllawiau budd cyhoeddus y comisiwn pan fo’n berthnasol
  • yn unol â’r fframwaith cyffredinol ar gyfer penderfyniadau ymddiriedolwyr

Byddai’r comisiwn yn disgwyl i chi a’r ymddiriedolwyr eraill roi sylw i sefyllfa a datrys sefyllfa lle nad yw dibenion eich elusen yn cael eu cyflawni er budd y cyhoedd. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ganllaw’r comisiwn: Budd cyhoeddus: rhedeg elusen.

Adrodd ar fudd cyhoeddus

Os yw’ch elusen wedi cofrestru, mae’n rhaid i adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr esbonio sut rydych wedi cyflawni ei diben er budd y cyhoedd. Mae angen adroddiad manwl dim ond os yw incwm gros eich elusen yn fwy na £500,000; fel arall dim ond crynodeb byr sydd ei angen.

Rhaid i chi nodi hefyd a ydych chi a’r ymddiriedolwyr eraill wedi rhoi sylw dyledus i ganllawiau budd cyhoeddus y comisiwn wrth ymarfer unrhyw bwerau neu ddyletswyddau y mae’r canllawiau’n berthnasol iddynt.

Os ydych yn anfon adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwr elusen i’r comisiwn, caiff ei arddangos ar gofrestr gyhoeddus elusennau. Mae’r comisiwn yn darparu enghreifftiau o adroddiadau budd cyhoeddus da ond nid yw’n cymeradwyo adroddiadau unigol.

Mae’r comisiwn yn gwirio hapsampl o adroddiadau blynyddol ymddiriedolwyr at ddiben sicrhau ansawdd adroddiadau, gan gynnwys budd cyhoeddus, a byddem yn ystyried methu’n gyson ag adrodd am fudd cyhoeddus yn broblem rheoleiddio bosibl.

Fodd bynnag, ni ddylai adrodd am fudd cyhoeddus gael ei ystyried yn ofyniad cyfreithiol y mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr ei fodloni yn unig, ac yn rhywbeth y mae’r comisiwn yn ei reoleiddio. O’i wneud yn dda, gall eich helpu chi i ganolbwyntio ar yr hyn y mae’ch elusen yno i’w gyflawni. Gall hefyd eich helpu chi i ddangos gwerth ac effaith gwaith eich elusen i’w chefnogwyr, ei buddiolwyr, rhoddwyr grantiau a chyrff cyllido.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ganllaw’r comisiwn: Budd cyhoeddus: adrodd.

Cyhoeddwyd ar 14 February 2014