Canllawiau

Cwblhau gwiriad treth ar gyfer trwydded tacsi, trwydded hurio preifat neu drwydded fetel sgrap

Cwblhewch wiriad treth er mwyn adnewyddu trwydded gyrrwr tacsi, trwydded hurio preifat neu drwydded fetel sgrap, neu i wneud cais am yr un math o drwydded gydag awdurdod trwyddedu gwahanol.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi gwblhau gwiriad treth os ydych yn gwneud cais am un o’r trwyddedi canlynol:

  • gyrrwr tacsi
  • gyrrwr hurio preifat
  • gweithredwr cerbyd hurio preifat (Cymru a Lloegr yn unig)
  • swyddfa archebu (yr Alban yn unig)
  • casglwr metel sgrap symudol (teithiol)
  • safle deliwr metel sgrap

Newidiodd y rheolau ar gyfer cwblhau gwiriad treth ar 4 Ebrill 2022 yng Nghymru a Lloegr, a bydd y rheolau ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon yn newid ar 2 Hydref 2023.

Mae’r rheolau newydd yn golygu os ydych yn unigolyn, yn gwmni neu’n unrhyw fath o bartneriaeth, mae’n rhaid i chi gwblhau gwiriad treth os ydych yn:

  • adnewyddu trwydded
  • gwneud cais am yr un math o drwydded a oedd gennych yn flaenorol, a ddaeth i ben lai na blwyddyn yn ôl
  • gwneud cais am yr un math o drwydded sydd gennych eisoes drwy law awdurdod trwyddedu arall

Ni fydd angen i chi gwblhau gwiriad treth ac fe ddylech ddilyn yr arweiniad ar gyfer cadarnhau eich cyfrifoldebau treth os ydych:

  • heb ddal yr un math o drwydded o’r blaen
  • wedi cael yr un math o drwydded a ddaeth i ben flwyddyn neu fwy cyn gwneud y cais hwn

Beth yw gwiriad treth

Mae gwiriad treth yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer treth, os oes angen. Bydd yn gofyn cwestiynau am sut rydych yn talu unrhyw dreth a allai fod yn ddyledus ar incwm yr ydych yn ei ennill wrth gynnal eich masnach drwyddedig.

Mae’n rhaid i chi gwblhau’r gwiriad treth eich hun. Ni allwch ofyn i ymgynghorydd neu asiant treth wneud hyn ar eich rhan.

Pan fyddwch wedi cwblhau’r gwiriad treth, byddwch yn cael cod sy’n 9 cymeriad. Dyma’ch cod gwirio treth. Rhaid i chi ei roi i’r awdurdod trwyddedu gyda’ch cais am drwydded — ni fyddant yn gallu prosesu’ch cais hebddo.

Daw’r codau i ben ar ôl 120 diwrnod, felly os byddwch yn gwneud cais am drwydded arall ar ôl hynny bydd angen i chi wneud gwiriad treth newydd ar ei gyfer.

Os ydych yn bartner sy’n gwneud cais am drwydded ar ran partneriaeth, bydd yn rhaid i chi gwblhau gwiriad treth i chi eich hun. Bydd eich awdurdod trwyddedu yn dweud wrthych a oes angen i unrhyw bartneriaid eraill gwblhau gwiriad treth hefyd.

Gwneud cais am fwy nag un drwydded

Gallwch ddefnyddio un cod gwirio treth ar gyfer mwy nag un cais am drwydded os yw pob un o’r ceisiadau ar gyfer yr un math o drwydded (er enghraifft, maen nhw i gyd ar gyfer trwyddedau gyrrwr tacsi ond gydag awdurdodau trwyddedu gwahanol).

Os ydych yn gwneud cais am wahanol fathau o drwydded (er enghraifft, trwydded gyrrwr hurio preifat a thrwydded gweithredwr cerbyd hurio preifat) mae’n rhaid i chi gwblhau gwiriad treth ar gyfer pob un.

Estyniad i drwydded a dyddiad dod i ben wrth aros am benderfyniad cais am drwydded

Efallai y bydd eich trwydded bresennol yn cael ei hymestyn nes bydd penderfyniad terfynol wedi’i wneud o ran cymeradwyo eich cais am drwydded (gan gynnwys penderfyniad ar apêl) os ydych yn adnewyddu un o’r canlynol:

  • trwydded deliwr metel sgrap a roddwyd yng Nghymru neu yn Lloegr
  • trwydded gyrrwr Cerbyd Hacnai Llundain
  • trwyddedau a roddwyd yn yr Alban

Os na fyddwch yn rhoi cod gwirio treth dilys i’r awdurdod trwyddedu, bydd eich trwydded yn dod i ben ar ba un bynnag o’r dyddiadau canlynol yw’r hwyraf:

  • 28 diwrnod ar ôl i’r awdurdod trwyddedu ofyn am eich cod gwirio treth
  • y dyddiad y daw eich trwydded i ben

Ar gyfer trwyddedau dros dro yn yr Alban, ac os na fyddwch yn rhoi cod gwirio treth dilys i’r awdurdod trwyddedu, bydd eich trwydded yn dod i ben ar ba un bynnag o’r dyddiadau canlynol yw’r hwyraf:

  • 7 diwrnod ar ôl i’r awdurdod trwyddedu ofyn am eich cod gwirio treth
  • y dyddiad y daw eich trwydded i ben

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Mae angen y canlynol arnoch, er mwyn cynnal gwiriad treth:

  • Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth
  • pryd y cawsoch eich trwydded gyntaf
  • hyd eich trwydded fwyaf diweddar
  • sut rydych yn talu treth ar yr incwm rydych yn ei ennill o’ch masnach drwyddedig

Cwblhau gwiriad treth

Dechrau nawr

Os na allwch wneud gwiriad treth ar-lein

Os na allwch wneud gwiriad ar-lein, dylech gysylltu â’r canlynol:

Os nad yw’r gwasanaeth ar gael

Dylech roi gwybod i’r awdurdod trwyddedu ar unwaith. Byddant yn gofyn i chi geisio cael mynediad at y gwasanaeth am bum niwrnod yn olynol.

Mae’r pum niwrnod yn dechrau’r tro cyntaf i chi geisio cael mynediad at y gwasanaeth ar ôl i’r awdurdod trwyddedu ofyn i chi wneud hynny. Os nad ydych yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth o hyd na chwblhau gwiriad treth yn ystod y pum niwrnod hynny, sylwer:

  • nid oes angen i chi wneud gwiriad treth
  • dylech roi gwybod i’r awdurdod trwyddedu nad ydych wedi gallu cwblhau un

Bydd yr awdurdod trwyddedu’n gwirio nad oedd y gwasanaeth ar gael cyn penderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod eich cais am drwydded.

Cyhoeddwyd ar 10 January 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 September 2023 + show all updates
  1. Information about private hire vehicle operators has been updated.

  2. Made clear that an existing licence may be extended until a final decision to grant your licence application has been made (including a decision on appeal) if you are renewing licences issued in Scotland.

  3. Guidance has been updated as rules that currently apply in England and Wales will also apply in Scotland and Northern Ireland from 2 October 2023.

  4. A link to the online service to complete a tax check has been added. The page has also been updated with information about what you should do if you cannot complete a tax check online.

  5. Added translation