Canllawiau

Codau dilysu cwmni ar gyfer ffeilio ar lein

Sut i ofyn am y cod dilysu y bydd ei angen arnoch i ffeilio gwybodaeth cwmni ar lein gyda Thŷ’r Cwmnïau, a sut i reoli’r cod.

Mae’r cod dilysu’n god alffaniwmerig 6 digid a roddir i bob cwmni oddi wrthym. Defnyddir y cod i awdurdodi gwybodaeth sy’n cael ei ffeilio ar lein ac mae’n cyfateb i lofnod un o swyddogion y cwmni.

Bydd angen cod arnoch i ffeilio gwybodaeth gan ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein neu feddalwedd trydydd parti.

Peidiwch ag aros hyd nes ei bod yn bryd i chi ffeilio gwybodaeth cyn gofyn am eich cod – mae perygl y bydd yn rhy hwyr.

Sut i gael cod dilysu eich cwmni

I wneud cais am god, bydd angen i chi greu cyfrif neu fewngofnodi i WebFiling Tŷ’r Cwmnïau a dilyn y camau.

Byddwn yn anfon eich cod drwy’r post i swyddfa gofrestredig eich cwmni - gall gymryd hyd at 5 diwrnod i gyrraedd. Os oes gan eich cwmni god eisoes, byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch.

Ni allwn anfon eich cod dilysu trwy e-bost neu ddweud y cod wrthych dros y ffôn.

Defnyddio eich cod

Byddwch yn defnyddio’r un cod dilysu ar gyfer eich cwmni gan ddefnyddio:

I ddefnyddio meddalwedd trydydd parti, bydd angen i chi sefydlu cyfrif ffeilio ar-lein i gael rhif adnabod cyflwynydd a chod dilysu cyflwynydd.

Ni allwch ddefnyddio eich Cyfrif Porth y Llywodraeth i anfon gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau ar-lein.

Newid neu ganslo eich cod

Mewngofnodwch i WebFiling Tŷ ‘r Cwmnïau i newid neu ganslo eich cod. Gallwch newid eich cod i rywbeth mwy cofiadwy, ond peidiwch â’i gwneud hi’n hawdd dyfalu.

Rhaid i chi ddweud wrth unrhyw un arall sy’n ffeilio ar-lein ar gyfer eich cwmni (fel cyfrifydd) os ydych chi’n newid eich cod. Ni fyddant yn gallu defnyddio’r hen god dilysu ar ôl iddo gael ei newid.

Edrych ar ôl eich cod

Dylech drin cod dilysu’ch cwmni yr un mor ofalus ag y byddech yn trin rhif PIN eich cerdyn banc. Gall unrhyw un sy’n gwybod beth yw’ch cod newid manylion eich cwmni ar lein.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer edrych ar ôl eich cod dilysu:

  • defnyddiwch gymysgedd o lythrennau a rhifau fel nad yw’n hawdd dyfalu’ch cod
  • peidiwch â rhannu’ch cod ond gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo i ffeilio gwybodaeth dros eich cwmni
  • os bydd rhywun nad ydych yn ymddiried ynddo yn cael gwybod beth yw’ch cod, newidiwch ef
  • newidiwch eich cod os yw’n hysbys i rywun nad yw wedi’i awdurdodi mwyach i ffeilio gwybodaeth dros eich cwmni (e.e. staff sydd wedi gadael eich cwmni neu’ch hen gyfrifydd)

Ni fyddwn byth yn gofyn i chi beth yw’ch cod dilysu dros y ffôn.

Os yw rhywun yn cysylltu â chi gan ofyn am eich cod a chan honni ei fod oddi wrthym, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.

Cyhoeddwyd ar 18 May 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 September 2022 + show all updates
  1. New WebFiling account introduced on Monday 12 September - guidance on how to request and manage company authentication codes updated.

  2. Users can request to have the authentication code sent to a home address instead of the company's registered office. This is a temporary service in response to the coronavirus (COVID-19) outbreak.

  3. Links added to guidance.

  4. Guidance added for the Christmas holiday period.

  5. Screenshot added.

  6. Welsh translation added.

  7. First published.