Casgliad

Tŷ’r Cwmnïau: canllawiau iaith Gymraeg i gwmnïau cyfyngedig, partneriaethau a mathau eraill o gwmnïau

Casgliad o ganllawiau Cymreig ar gofrestru, ffeilio a datgelu gwybodaeth gyda Thŷ'r Cwmnïau.

Gwasanaethau ar-lein

Dysgwch am fanteision ein gwasanaethau ffeilio ar-lein, a sut i:

  • anfon eich gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau ar-lein
  • cofrestru ar gyfer nodiadau atgoffa e-bost
  • anfon eich gwybodaeth ar-lein gan ddefnyddio meddalwedd
  • cael cod dilysu i ffeilio ar-lein

Dechrau cwmni

Gwybodaeth a chyngor am:

  • sut i ymgorffori cwmni cyfyngedig
  • y math o gwmni yr hoffech ei ymgorffori
  • swyddogion y cwmni
  • dewis enw cwmni gan gynnwys rheolaethau a chyfyngiadau
  • datgelu enw’r cwmni a gwybodaeth arall

Rhedeg cwmni

Gwybodaeth y mae angen i gwmnïau’r DU ei ffeilio, gan gynnwys canllawiau ar:

  • cyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion
  • penderfyniadau
  • newid cyfansoddiad
  • cyfalaf cyfranddaliadau
  • ailgofrestru
  • cofnodion cwmni

Ffeilio blynyddol

Canllawiau ar:

  • y datganiad cadarnhau
  • dyddiadau cyfeirio cyfrifyddu
  • cofnodion cyfrifyddu
  • mathau o gyfrifon

Pobl sydd â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)

Taliadau morgais

Sut i:

  • cofrestru tâl newydd yn Nhŷ’r Cwmnïau
  • dweud wrthym am unrhyw rai rydych wedi’u talu
  • cofrestru fel benthyciwr i ffeilio taliadau ar-lein
  • gwneud cais i gywiro tâl

Cau ac adfer cwmni

Gwybodaeth i gyfarwyddwyr, ysgrifenyddion neu gynghorwyr cwmni ar sut i ddiddymu cwmni neu adfer cwmni i’r gofrestr.

Yn cynnwys gwybodaeth am:

  • pam y gall cwmni wneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr
  • pam na all cwmni wneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr
  • sut i wneud cais a phwy i ddweud wrtho
  • sut y cyhoeddir hysbysiadau dileu ac adfer yn y Gazette
  • tynnu cais dileu yn ôl
  • gwrthwynebu diddymu cwmni
  • troseddau a chosbau
  • beth sy’n digwydd i gwmnïau nad ydynt yn gweithredu mwyach
  • sut i adfer cwmni i’r gofrestr drwy orchymyn llys neu waith adfer gweinyddol

Cosbau ffeilio hwyr

Sut y bydd cosb ffeilio hwyr yn cael ei gosod os na chaiff cyfrifon eich cwmni eu ffeilio’n brydlon a sut i apelio yn erbyn cosb.

Mae’r canllawiau’n esbonio:

  • cosbau ffeilio hwyr
  • sut i osgoi derbyn cosb ffeilio hwyr
  • beth i’w wneud pan fydd cosb ffeilio hwyr wedi’i osod
  • sut i apelio yn erbyn cosb ffeilio hwyr

Rheolau a phwerau'r cofrestrydd

Mae’r canllaw hwn yn amlinellu pwerau cofrestrydd cwmnïau yn unol â Rhan 35 o Ddeddf Cwmnïau 2006, sydd hefyd yn berthnasol i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig.

Mae’r canllawiau’n esbonio:

  • pwerau’r cofrestrydd sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth
  • pwerau’r cofrestrydd i ddiwygio’r gofrestr
  • pwerau eraill y cofrestrydd

Diogelu eich gwybodaeth bersonol

Canllawiau ar y gofrestr gyhoeddus, gan gynnwys:

  • beth yw’r gofrestr gyhoeddus
  • pa wybodaeth rydym yn ei darparu i’r cyhoedd am ddim
  • sut y gall y cyhoedd gael gafael ar wybodaeth
  • am ba hyd y bydd eich gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd
  • sut i gyfyngu mynediad i’ch gwybodaeth

Diddymiad ac ansolfedd

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi trosolwg sylfaenol o achosion ansolfedd a diddymiad ac yn crynhoi rhai o’r rheolau sy’n berthnasol i:

  • trefniadau gwirfoddol cwmnïau
  • moratoria
  • gweinyddiaethau
  • derbynwyr
  • diddymiadau gwirfoddol
  • diddymiadau gorfodol

Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC)

Hygyrchedd ac addasiadau rhesymol

Cwmnïau Ewropeaidd a thramor

Ni ellir cofrestru rhai endidau Ewropeaidd a ffurfiwyd o dan gyfraith yr UE yn y DU mwyach. Mae’r gofynion ffeilio ar gyfer cwmni yn y DU neu PAC gyda swyddogion corfforaethol yr EEA wedi newid. Rhaid i chi yn awr ddarparu’r canlynol i’r swyddog corfforaethol:

  • enw
  • cyfeiriad swyddfa gofrestredig (neu brif swyddfa)
  • ffurf gyfreithiol a’i chyfraith lywodraethol
  • cofrestr a rhif cofrestru (os yw’n berthnasol)

Anghysondebau

Gofynion ffeilio ar bapur

Gweminarau

Mae ein gweminarau byw wedi’u cynllunio i roi arweiniad cyflym a defnyddiol i chi ar amrywiaeth o bynciau, ar adeg ac mewn lle o’ch dewis.

Yn ystod y weminar, gallwch ofyn cwestiynau i ni gan ddefnyddio’r blwch testun ar y sgrin. Bydd ein tîm o arbenigwyr ar-lein yn gwneud eu gorau i ateb eich holl ymholiadau, neu’n eich cyfeirio at ganllawiau defnyddiol.

Cyhoeddwyd ar 13 April 2022