Canllawiau

Gwirio a herio’ch prisiad ardrethi busnes: cam wrth gam

Sut i ddefnyddio cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod am newidiadau i’ch eiddo busnes neu os ydych o’r farn bod eich gwerth ardrethol yn rhy uchel.

Applies to England and Wales

Yng Nghymru a Lloegr, Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) sy’n delio ag achosion o Wirio a Herio. Mae apeliadau yn cael eu trin yn wahanol yn achos eiddo yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Sut i ddefnyddio cyfrif prisio ardrethi busnes

Gallwch roi gwybod i’r VOA am y canlynol:

  • bod angen newid manylion eich eiddo
  • bod eich gwerth ardrethol yn rhy uchel yn eich barn chi

Gallwch roi gwybod i’r VOA eich hun neu gallwch benodi asiant i weithredu ar eich rhan.

1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif prisio ardrethi busnes neu cofrestrwch am un

Cofrestrwch gan ddefnyddio’ch ID ar gyfer Porth y Llywodraeth sydd eisoes yn bodoli. Os nad oes gennych ID Porth y Llywodraeth, byddwch yn gallu creu un wrth gofrestru.

Cofrestru ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes

Gallwch benodi asiant pan fo gennych gyfrif prisio ardrethi busnes.

Penodi asiant

2. Ychwanegwch eiddo at eich cyfrif

Ychwanegwch eiddo fel y gallwch wedyn newid manylion yr eiddo a herio’r gwerth ardrethol. Rhowch dystiolaeth i brofi eich cysylltiad â’r eiddo.

Ychwanegu eiddo at eich cyfrif

3. Newid manylion yr eiddo

Anfonwch ‘achos Gwirio’ i roi gwybod i’r VOA bod manylion eich eiddo yn gywir neu i wneud newid iddynt. Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich newidiadau.

Gall y VOA dderbyn eich newidiadau a newid y gwerth ardrethol.

Anfon achos Gwirio

4. Herio’r gwerth ardrethol

Anfonwch ‘achos Herio’ at y VOA os ydych o’r farn bod eich gwerth ardrethol yn rhy uchel. Esboniwch beth ddylai’r gwerth fod yn eich barn chi a rhowch dystiolaeth.

Gall y VOA dderbyn eich her a newid y gwerth ardrethol.

Mae’n rhaid i chi gwblhau achos Gwirio cyn anfon achos Herio.

Anfon achos Herio

5. Apelio yn erbyn y penderfyniad

Gofynnwch i’r Tribiwnlys Prisio annibynnol am adolygiad os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad y VOA ar y gwerth ardrethol.

Apelio yn erbyn y penderfyniad

Cyhoeddwyd ar 30 October 2023