Canllawiau

Cael y gorau o'r nodyn ffitrwydd: canllawiau i gyflogwyr a rheolwyr llinell

Diweddarwyd 6 October 2023

1. Beth yw nodyn ffitrwydd?

Defnyddir y Datganiad o Ffitrwydd i Weithio, a elwir yn gyffredin fel y ‘nodyn ffitrwydd’ neu Med 3 i gofnodi manylion effeithiau swyddogaethol cyflwr iechyd eich gweithiwr. Dylai’r nodyn ffitrwydd ganiatáu i’r cyflogwr a’r gweithiwr drafod cyflwr iechyd y gweithiwr ac ystyried ffyrdd i’w helpu i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith.

Gall nodiadau ffitrwydd gael eu cyhoeddi gan feddygon, nyrsys, therapyddion galwedigaethol, fferyllwyr a ffisiotherapyddion. Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i un o’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyn gynnal asesiad, naill ai drwy alwad fideo, ymgynghoriad dros y ffôn neu drwy ystyried adroddiad ysgrifenedig gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, i gwblhau nodyn ffitrwydd.

2. Newidiadau polisi nodyn ffitrwydd

1.1 Yn 2022, gweithredodd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ddau newid sylweddol i’r nodyn ffitrwydd. Cyflwynwyd fersiwn newydd o’r nodyn ffitrwydd i ddisodli’r llofnod mewn inc gydag enw a phroffesiwn y cyhoeddwr, sy’n golygu y gall eich gweithiwr dderbyn nodiadau ffitrwydd trwy sianeli digidol (lle mae’r system TG leol yn cefnogi hyn).

1.2 Mae DWP hefyd wedi galluogi nyrsys, therapyddion galwedigaethol, fferyllwyr a ffisiotherapyddion, yn ogystal â meddygon, i ardystio nodiadau ffitrwydd.

1.3 Mae nodiadau ffitrwydd digidol wedi’u hymgorffori mewn lleoliadau gofal sylfaenol (systemau TG meddygon teulu) ac rydym yn gweithio tuag at sicrhau bod nodiadau ffitrwydd ar gael mewn lleoliadau gofal eilaidd (ysbytai) o ddiweddarach eleni. Yn y cyfamser, efallai y byddwch yn derbyn ffurflen nodyn ffitrwydd wedi’i hargraffu ymlaen llaw os yw’ch gweithiwr wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty.

3. Rheolau cyffredinol y nodyn ffitrwydd

2.1 Bydd pobl ond yn cael nodyn ffitrwydd os yw eu gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn credu bod nam ar eu ffitrwydd i weithio. Os yw rhywun yn cael eu ystyried yn ffit i weithio, ni roddir nodyn ffitrwydd iddynt. Nid oes angen nodyn ffitrwydd ‘ffit i weithio’ ar y gweithiwr os nad yw eu ffitrwydd i weithio yn cael ei effeithio.

2.2 Gall gweithwyr hunanardystio am 7 diwrnod calendr cyntaf eu habsenoldeb salwch, sy’n cynnwys penwythnosau a gwyliau banc. Am fwy o wybodaeth, ewch i Datganiad salwch y gweithiwr i hawlio  Tâl Salwch Statudol. Os oes angen tystiolaeth feddygol ar eich sefydliad am y 7 diwrnod cyntaf o absenoldeb salwch, efallai y bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn codi ffi, a dylai’r cyflogwr dalu’r gost hon.

2.3 Bydd hyd nodyn ffitrwydd yn dibynnu ar farn glinigol gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, ond yn ystod chwe mis cyntaf cyflwr iechyd unigolyn, dim ond am uchafswm o dri mis ar y tro y gellir rhoi nodyn ffitrwydd. Gellir pennu dyddiad adolygu, os oes angen, i ailasesu cyflwr y gweithiwr.

2.4 Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio mewn practis preifat neu ysbyty preifat nad ydynt yn trin cleifion y GIG lunio adroddiad neu ffurflen sy’n cynnwys yr un wybodaeth a nodir yn y ffurflen nodyn ffitrwydd, y gallwch ei hystyried. Am fwy o wybodaeth gweler cydymffurfio â’r ‘Rheolau’. Gellir derbyn mathau amgen o dystiolaeth feddygol, gan gynnwys tystysgrifau meddygol preifat neu Adroddiad Gwaith Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd Perthynol, fel tystiolaeth feddygol yn yr un modd â nodyn ffitrwydd yn amodol ar eich cytundeb. Yn yr achos hwn, nid oes angen i chi ofyn i’ch gweithiwr gael nodyn ffitrwydd pellach.

2.5 Gall nodiadau ffitrwydd fod wedi’u ysgrifennu â llawysgrifen, eu cynhyrchu ar gyfrifiadur a’u hargraffu neu eu hanfon yn ddigidol at eich gweithiwr. Rhaid iddo gynnwys enw’r cyhoeddwr, proffesiwn, a chyfeiriad lleoliad meddygol. O bryd i’w gilydd efallai y byddwch hefyd yn cael fersiwn hŷn o’r ffurflen nodyn ffitrwydd a fydd wedi cael ei lofnodi mewn inc. Os cânt eu hanfon yn ddigidol neu wedi’u hargraffu gan system TG gweithwyr gofal iechyd, byddant yn cynnwys cod bar. Gallwch sganio’r cod bar gan ddefnyddio sganiwr cod QR, fel y gallwch ei ychwanegu at eich cofnodion salwch.

2.6 Os yw gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi cyhoeddi’r nodyn ffitrwydd yn dilyn triniaeth ysbyty, efallai y byddwch hefyd yn derbyn ffurflen Med10. Bydd hyn yn cynnwys y dyddiadau y mae eich gweithiwr wedi’u treulio fel claf mewnol yn yr ysbyty a’r cyfnod mae’r cyflwr iechyd neu anabledd yn ei gwmpasu. Rhaid i weithiwr proffesiynol gofal iechyd lofnodi hyn a pheidio â chynnwys cyfnod o fwy na 26 wythnos.

2.7 Gall nodyn ffitrwydd helpu cyflogwr i wneud penderfyniad gwybodus am iechyd eu gweithiwr yn y gwaith. Ar rai achlysuron gall cyflogwr ofyn am gofnodion meddygol gweithiwr gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gefnogi iechyd a gwaith gweithiwr. Mae’n rhaid i gyflogwr gael caniatâd eu gweithiwr i ofyn am adroddiad am eu hiechyd.

2.8 Rhaid i gyflogwr gadw gwybodaeth y gweithiwr yn gyfrinachol, a dylai’r wybodaeth fod ar gael dim ond i’r rhai sydd wirioneddol ei hangen, er enghraifft Adnoddau Dynol (AD). Dylai’r gweithiwr hefyd gael gwybod sut y bydd eu gwybodaeth yn cael ei storio ac am faint o amser.

2.9 Dylai’r cyflogwr a’r gweithiwr gytuno ar sut maent yn bwriadu cadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfnod absenoldeb salwch a chytuno ar faint o gyswllt sy’n rhesymol. Am fwy o wybodaeth, mae ACAS yn rhoi cyngor ar gadw mewn cysylltiad yn ystod absenoldeb.

4. Asesiad ffitrwydd i weithio eich gweithiwr

3.1 Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol eich gweithiwr wedi cynnal asesiad addasrwydd i weithio, a thrwy ddefnyddio eu barn clinigol, byddant wedi asesu a yw’r gweithiwr ‘yn ffit i weithio’ neu ‘ddim yn ffit i weithio’. Dylai’r nodyn ffitrwydd gwmpasu’r cyfnod y mae’r gweithiwr yn debygol o fod angen addasiadau neu yn methu gweithio. Os bydd angen, bydd dyddiad adolygu yn cael ei bennu gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Am fwy o wybodaeth am bob adran o’r nodyn ffitrwydd, gweler Nodyn Ffitrwydd: Manylion Ffurflenni i Gyflogwyr.

4.1 3.2 Mae’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn dweud ‘gall eich gweithiwr fod yn ffit i weithio.’

Yn dilyn yr asesiad, efallai y bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi defnyddio’r blychau ticio ar y nodyn ffitrwydd i nodi’r math o addasiadau cyffredinol neu addasiad rhesymol y gallai fod ei angen ar eich gweithiwr i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith. Bydd y blychau tic yn ymwneud ag effeithiau swyddogaethol cyflwr eich gweithiwr. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi drafod unrhyw addasiadau rhesymol gyda’ch gweithiwr i’w helpu i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith. Yr opsiynau o’r ffurflen nodyn ffitrwydd ac enghreifftiau o’r addasiadau cyffredinol i’w hystyried yw:

  • dychwelyd i’r gwaith yn raddol: cynnydd graddol mewn dyletswyddau neu oriau gwaith

  • newid oriau: newidiadau i amseroedd neu hyd yn y gwaith

  • dyletswyddau diwygiedig: newid dyletswyddau i ystyried cyflwr

  • addasiadau yn y gweithle: newid agweddau o’r gweithle, gan gynnwys gweithio o gartref

3.3 Gall gweithiwr proffesiynol gofal iechyd eich gweithiwr hefyd ddefnyddio’r blwch sylwadau i roi cyngor manylach i chi am beth gall eich gweithiwr ei wneud yn y gwaith. Bydd y cyngor hwn yn ymwneud â’u ffitrwydd cyffredinol i weithio, nid yn gysylltiedig â’u rôl bresennol yn unig, fel bod gennych yr hyblygrwydd mwyaf posibl i ystyried sut y gallech gefnogi eich gweithiwr i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith. Os oes agweddau penodol ar rôl eich gweithiwr a allai fod yn effeithio ar eu hiechyd, bydd y rhain yn cael eu crybwyll yn y blwch sylwadau. Er enghraifft, efallai y bydd y cyngor yn ‘newid oriau’ gyda chyngor pellach yn y blwch sylwadau, bod rhywun yn blino’n hawdd ac felly ni ddylent weithio am fwy na 3 awr y dydd. Gall hyn effeithio ar eu dyletswyddau a’r amseroedd y gallant weithio, fel y gallwch drafod opsiynau i gefnogi eu ‘dyletswyddau diwygiedig’ neu ‘oriau wedi’u newid’.

3.4 Dylech gael trafodaethau iechyd a gwaith gyda’ch gweithiwr i weld a oes unrhyw newidiadau a allai eu cefnogi i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith. Dylai’r trafodaethau hyn fod yn rhyngweithiol gan mai’r gweithiwr sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu sut mae eu symptomau’n effeithio ar eu gallu i gyflawni tasgau penodol yn ogystal â’r hyn a all sbarduno eu cyflwr iechyd. Gall y trafodaethau hyn gynnwys rheolwyr llinell, Adnoddau Dynol, undebau llafur neu arbenigwyr iechyd galwedigaethol. 

3.5 Efallai y bydd angen i chi gynnal asesiad risg i ddarparu ar gyfer y cyngor ar y nodyn ffitrwydd, er enghraifft, os yw’n nodi y dylai eich gweithiwr osgoi codi pethau, rydych yn atebol os ydych yn rhoi gwaith iddynt sy’n cynnwys codi â llaw. Mae canllawiau ar asesiadau risg ar gael ar wefan HSE. Efallai y bydd angen i chi wneud atgyfeiriad at arbenigwyr iechyd galwedigaethol, ar gyfer gwaith a allai fod yn effeithio ar gyflwr iechyd eich gweithiwr, gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth ddelio ag achosion cymhleth.

3.6 Dylai cyflogwyr ystyried y Ddeddf Cydraddoldeb wrth feddwl am reoli absenoldeb salwch a dychwelyd i’r gwaith, gydag addasiadau rhesymol yn ôl yr angen. Mae pobl sydd â HIV, canser neu sglerosis ymledol yn cael eu hystyried yn anabl yn awtomatig o dan delerau’r Ddeddf Cydraddoldeb o ddiwrnod cyntaf y diagnosis. Ar gyfer pob cyflwr arall, er mwyn cyfrif fel bod yn anabl, rhaid i berson brofi effaith sylweddol a hirdymor ar eu gallu i wneud gweithgareddau arferol, o ddydd i ddydd. Am fwy o wybodaeth gweler, Diffiniad o anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb2010.

3.7 Rydym yn argymell eich bod yn cofnodi unrhyw newidiadau, fel bod pawb yn glir ynghylch yr hyn a gytunwyd. Yn gyffredinol, dylai unrhyw newidiadau bara o leiaf nes bydd y nodyn ffitrwydd yn dod i ben – er y bydd hyn yn dibynnu ar y cyngor ar y nodyn ffitrwydd a’ch trafodaethau gyda’ch gweithiwr. Dylech hefyd gytuno ar gynllun cadw mewn cysylltiad rhesymol gyda’ch gweithiwr, fel bod gan bawb ddealltwriaeth glir o’r camau nesaf. Am fwy o wybodaeth gweler, ACAS - cadw mewn cysylltiad yn ystod absenoldeb.

Am fwy o wybodaeth am bob adran o’r nodyn ffitrwydd, gweler Egluro’r ffurflen ar gyfer cyflogwyr a rheolwyr llinell.

4.2 3.8 Newidiadau posibl i’w hystyried

Ystyriwch pa mor hir y disgwylir i ffitrwydd am waith eich gweithiwr gael ei effeithio. Mae amrywiaeth eang o gymorth ar gael i’ch helpu i wneud y newidiadau hyn. Edrychwch ar yr adran cymorth pellach am help ychwanegol a chanllawiau sy’n benodol i gyflwr.

Efallai y byddwch yn ystyried rhai newidiadau dros dro a restrir isod wrth drafod ffitrwydd eich gweithiwr i weithio - cofiwch nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, a’r newidiadau gorau yw’r rhai sydd wedi’u teilwra i’ch sefydliad a’ch gweithiwr:

  • newid i swydd neu leoliad gwahanol

  • gweithio o gartref

  • newidiadau i offer gwaith

  • oriau llai neu hyblyg

  • addasiadau i adeiladau gwaith

  • dychwelyd i’r gwaith yn raddol

  • rhoi rhai o’u tasgau i rywun arall

  • darparu hyfforddiant neu oruchwyliaeth ychwanegol

  • darparu darllenydd neu gyfieithydd

  • meddalwedd wedi’i actifadu gan lais

  • trefnu mentor neu gyfaill gwaith

  • gweithio mewn tîm yn lle ar eu pennau eu hunain (neu i’r gwrthwyneb)

  • trefnu asesiad iechyd galwedigaethol

Gallai cyngor y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol nodi ar y nodyn ffitrwydd y gallai’r gweithiwr fod yn ffit ‘gall fod yn ffit’ i weithio - cofiwch mai cyngor yw hwn, ac nid oes rheidrwydd arnoch i gytuno, er ein bod yn argymell eich bod yn ystyried unrhyw wybodaeth ategol. Os na allwch gytuno ar unrhyw addasiad i’r gweithle neu addasiad arall, gallwch ddefnyddio’r un nodyn ffitrwydd â thystiolaeth ar gyfer eich gweithdrefnau tâl salwch. Nid oes angen nodyn ffitrwydd newydd neu ddiwygiedig ar y gweithiwr gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Dylech bob amser ystyried cymryd copi o’r nodyn ffitrwydd, gall hwn fod yn gopi digidol neu bapur ar gyfer eich cofnodion (dylai’ch gweithiwr gadw’r gwreiddiol).

4.3 3.9 Mae’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn dweud nad yw’ch gweithiwr yn ffit i weithio

Bydd nodyn ffitrwydd eich gweithiwr yn dweud wrthych am faint o amser na fyddant yn ffit i weithio, ac a allant ddisgwyl dychwelyd i weithio fel o’r blaen unwaith y bydd yn dod i ben. Dylech drin hyn fel tystiolaeth ar gyfer eich gweithdrefnau tâl salwch (gweler mwy o wybodaeth am dâl salwch). Gallwch gymryd copi o’r nodyn ffitrwydd ar gyfer eich cofnodion, dylai eich gweithiwr gadw’r gwreiddiol gan y gallent fod ei angen ar gyfer budd-daliadau neu ddibenion eraill.

5. Cefnogi eich gweithiwr i aros yn neu i ddychwelyd i’r gwaith

4.1 Mae defnyddio’r nodyn ffitrwydd i’w lawn botensial yn eich helpu i leihau eich costau absenoldeb salwch (er enghraifft tâl salwch, yswiriant staff a cholli cynhyrchiant), ac yn lleihau’r tarfu a achosir gan weithwyr i ffwrdd yn sâl yn ddiangen. Gall helpu rhywun sydd â chyflwr iechyd i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith, arbed arian i chi a lleihau aflonyddwch a achosir gan weithwyr i ffwrdd o’r gwaith yn hirach nag sy’n angenrheidiol yn eich sefydliad. Yn aml gall pobl ddychwelyd i’r gwaith cyn eu bod 100% yn ffit – mewn gwirionedd, gall gwaith hyd yn oed helpu eu hadferiad a’u lles.

4.2 Os asesir eich gweithiwr fel ‘gall fod yn ffit’ i weithio, yna bydd eu nodyn ffitrwydd yn eich helpu i hwyluso trafodaethau iechyd a gwaith ynghylch newidiadau i’w cefnogi i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith. Mae’r math cywir o waith fel arfer yn dda i iechyd corfforol a meddyliol pobl. Yn aml, gall ychydig o newidiadau syml helpu rhywun sydd â chyflwr iechyd i aros yn neu i ddychwelyd i’r gwaith. Ni fydd y nodyn ffitrwydd yn dweud wrthych pa newidiadau sydd angen eu gwneud, ond bydd yn rhoi cyngor meddygol i chi ynghylch sut mae iechyd eich gweithiwr yn effeithio ar yr hyn y gallant ei wneud yn y gwaith.

4.3 Mae’r cyngor ar y nodyn ffitrwydd yn ymwneud â ffitrwydd eich gweithiwr i weithio yn gyffredinol, ac nid yn benodol am eu swydd bresennol. Mae hyn yn rhoi’r hyblygrwydd mwyaf posibl i chi drafod newidiadau i’w helpu i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith (a allai gynnwys newid eu dyletswyddau am gyfnod). Mae’r nodyn ffitrwydd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer sgyrsiau am iechyd y gweithiwr neu addasiadau yn ystod y broses dychwelyd i’r gwaith neu aros yn y gwaith. Efallai na fyddwch yn gallu gwneud unrhyw newidiadau yn seiliedig ar farn glinigol y gweithiwr gofal iechyd, ond rydym yn argymell bod unrhyw gyngor yn cael ei ystyried i helpu’ch gweithiwr i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith. Gall eich gweithiwr ddychwelyd i’r gwaith ar unrhyw adeg, hyd yn oed os yw hyn cyn i’w nodyn ffitrwydd ddod i ben. Nid oes angen iddynt fynd yn ôl at eu gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gyntaf.

6. Cwestiynau Cyffredin mewn perthynas â nodyn ffitrwydd

6.1 A all unrhyw weithwyr gofal iechyd proffesiynol roi nodyn ffitrwydd?

Na. Dim ond gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwys all roi nodiadau ffitrwydd. Y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a enwir mewn deddfwriaeth yw nyrsys, therapyddion galwedigaethol, fferyllwyr, ffisiotherapyddion a meddygon. Ni fydd pob unigolyn yn y proffesiynau hyn yn meddu ar brofiad addas ac yn gymwys i ardystio a chyhoeddi nodiadau ffitrwydd felly byddant ond yn gwneud hynny pan fydd ganddynt yr hyfforddiant a’r wybodaeth berthnasol i wneud asesiad o ffitrwydd person . Mae canllaw a hyfforddiant ychwanegol wedi’u darparu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol er mwyn eu cefnogi i allu sefydlu eu bod yn gallu gwneud hynny.

6.2 A all gweithiwr gael ffurflen nodyn ffitrwydd gan fferyllfa gymunedol, preifat neu stryd fawr?

Ni fydd/nid oes gan fferyllwyr cymunedol fynediad at y ffurflen ‘Med3’ - sef yr enw technegol am y nodyn ffitrwydd. Dim ond yn dilyn asesiad llawn o ffitrwydd unigolyn i weithio y dylid ardystio nodiadau ffitrwydd, ac felly dylid eu darparu gan glinigwr â goruchwyliaeth gyfannol o gyflwr yr unigolyn. Bydd fferyllwyr sy’n gweithio mewn timau amlddisgyblaethol mewn meddygfeydd neu ysbytai sy’n gallu asesu ffitrwydd unigolyn i weithio yn cael mynediad at y ffurflen Med3 swyddogol.

6.3 Beth mae’r nodyn ffitrwydd newydd yn ei olygu i mi fel cyflogwr?

O fis Ebrill 2022, gellir rhoi nodyn ffitrwydd i’ch gweithiwr mewn sawl ffordd. Yr unig wahaniaeth yw’r ffordd yr awdurdodir y ffurflen; yn hytrach na chael ei argraffu a’i lofnodi, gellir awdurdodi’r nodyn ffitrwydd newydd yn ddigidol a bydd yn cynnwys enw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi’i gyhoeddi. Gellid ei anfon at y claf yn ddigidol, felly efallai na fydd copi papur gan eich gweithiwr. Gallai eich gweithiwr gael y fersiwn flaenorol o’r nodyn ffitrwydd tra bod y templed newydd yn cael ei gyflwyno ar draws y system TG i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, mae hyn yn gyfreithiol ddilys o hyd ar yr amod ei fod wedi’i lofnodi gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

6.4 Am faint o amser y byddaf yn parhau i dderbyn y fersiwn flaenorol o’r nodyn ffitrwydd?

Hyd nes y bydd holl systemau TG meddygfeydd, a systemau ysbytai yn cael eu diweddaru, gellir cyhoeddi’r fersiwn flaenorol (2017) o’r nodyn ffitrwydd i’ch gweithiwr. Rydym yn bwriadu eich hysbysu a diweddaru’r canllawiau hyn pan fydd hyn wedi’i gwblhau.

6.5 Beth os nad yw’r nodyn ffitrwydd wedi’i lofnodi neu os nad yw’n cynnwys enw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol?

Mae’n ofynnol llofnodi nodiadau ffitrwydd neu gynnwys enw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a wnaeth ei awdurdodi iddo fod yn ddilys yn gyfreithiol. P’un ai yw’n fersiwn flaenorol neu newydd o’r nodyn ffitrwydd, os nad yw’n cynnwys llofnod neu enw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, yna ni ddylid ei dderbyn oherwydd efallai na fydd yn ddilys.

6.6 A yw fy ngweithiwr angen nodyn ffitrwydd yn dweud eu bod yn ffit i weithio?

Na. Nid oes angen i bobl gael eu llofnodi i fynd yn ôl i weithio ac nid oes opsiwn ar y nodyn ffitrwydd i wneud hynny. Os yw gweithiwr gofal iechyd proffesiynol eich gweithiwr yn asesu eu bod yn ffit i weithio, ni fyddant yn cael nodyn ffitrwydd. Dylai eich gweithiwr ddychwelyd i’r gwaith unwaith y bydd eu nodyn ffitrwydd yn dod i ben (os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny) neu bydd angen iddynt gael nodyn ffitrwydd newydd.

6.7 A ellir derbyn mathau eraill o dystiolaeth feddygol fel prawf o absenoldeb salwch?

Gellir derbyn mathau eraill o dystiolaeth feddygol gan gynnwys tystysgrifau meddygol preifat neu Adroddiad Gwaith Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol Perthynol fel tystiolaeth feddygol yn yr un modd â nodyn ffitrwydd yn amodol ar eich cytundeb. Yn yr achos hwn, nid oes angen i chi ofyn i’ch gweithiwr gael nodiadau ffitrwydd pellach.

6.8 Beth ddylwn i ei wneud os nad wyf yn deall y cyngor ar y nodyn ffitrwydd?

Yn gyntaf, gwiriwch a all eich gweithiwr ddarparu mwy o wybodaeth. Os ydych yn ansicr o hyd, gallech, os yn bosibl, ystyried cyngor gan arbenigwr iechyd galwedigaethol. Gallwch ysgrifennu at y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am fwy o wybodaeth er efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y gwasanaeth hwn ac efallai na fydd y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gallu ymateb ar unwaith.

6.9 Beth os yw nodyn ffitrwydd yn dweud y gallai swydd fy ngweithiwr fod yn effeithio ar ei iechyd?

Dylech ystyried hyn yn ofalus a chofio eich cyfrifoldebau o dan reoliadau Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch(HSE). Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i chi gofnodi anaf a salwch sy’n gysylltiedig â gwaith a rhoi gwybod i’r awdurdod gorfodi perthnasol. Mae’n hawdd iawn ac yn syml iawn i wneud hyn – gweler fwy o wybodaeth am fathau o ddigwyddiadau adroddadwy.

6.10 Beth os yw nodyn ffitrwydd yn argymell fy mod yn ceisio cyngor iechyd galwedigaethol?

Eich penderfyniad chi yw p’un ai i weithredu ar y cyngor hwn ac mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn gallu cefnogi’ch gweithiwr heb fod angen arbenigedd ychwanegol. Ar gyfer cyflyrau cymhleth neu sydd o bosibl yn gysylltiedig â gwaith, os yw’n berthnasol, gallwch gysylltu â’ch gwasanaeth iechyd galwedigaethol mewnol i gael cyngor.

6.11 Beth ddylwn i ei wneud os wyf yn cynnig cefnogaeth i weithiwr, a’u bod nhw’n gwrthod?

Eich cam cyntaf bob amser ddylai fod i ofyn i’ch gweithiwr pam eu bod yn credu na allant aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith, gan y gallai fod rhywbeth nad ydych wedi’i ystyried. Os na allwch ddod i gytundeb, efallai y byddwch am ymgynghori â’ch gwasanaeth iechyd galwedigaethol mewnol os yn bosibl. Os oes angen, dylech ystyried eich polisi sefydliadol ar gyfer anghydfodau absenoldeb, a allai roi arweiniad i chi ynghylch rheolau tâl salwch pan fydd gwaith addas yn cael ei wrthod.

Gallwch gael mwy o wybodaeth gan ACAS ac efallai yr hoffai eich gweithiwr ofyn am gyngor gan eu hundeb llafur neu ganolfan gynghori.

6.12 Sut mae’r nodyn ffitrwydd yn effeithio ar dâl salwch?

Gellir defnyddio’r nodyn ffitrwydd fel tystiolaeth ar gyfer eich gweithdrefnau tâl salwch. Os yw nodyn ffitrwydd eich gweithiwr yn nodi y gallant fod yn ffit i weithio, ond rydych yn cytuno y dylent aros i ffwrdd o’r gwaith, yna gallant barhau i dderbyn tâl salwch (oherwydd yn yr amgylchiadau hyn rydych yn trin y nodyn ffitrwydd fel pe bai’n datgan nad yw’r gweithiwr yn ffit i weithio). Os yw’ch gweithiwr yn dychwelyd i’r gwaith ar oriau gostyngol, dylech ystyried a allai eich gweithiwr fod dan anfantais ariannol. Mewn achosion o’r fath, efallai y byddwch yn penderfynu talu tâl salwch galwedigaethol am yr oriau na weithiwyd, neu i dalu tâl llawn er gwaethaf yr oriau gostyngedig. Rhaid i absenoldeb eich gweithiwr fod yn gyfnod o analluogrwydd i weithio cyn talu Tâl Salwch Statudol. Gweler fwy o ganllawiau am Dâl Salwch Statudol.

6.13 A allaf herio nodyn ffitrwydd?

Mae’r nodyn ffitrwydd yn seiliedig ar asesiad gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol ynghylch os nad yw’ch gweithiwr yn ffit i weithio neu a allant fod yn ffit i weithio. Os yw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi penderfynu nad yw gweithiwr yn ffit i weithio, mae hyn yn dystiolaeth y gallwch ei derbyn fel cymhwyster ar gyfer Tâl Salwch Statudol.

O bryd i’w gilydd, efallai y byddwch yn meddwl y gallai eich gweithiwr wneud rhywfaint o waith pan fyddant wedi cael eu hasesu fel ‘ddim yn ffit i weithio’ gan eu gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Gallwch ofyn i’r gweithiwr gael asesiad pellach gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i benderfynu ar eu haddasrwydd i wneud gwaith o’r fath. Ni ellir gofyn i weithiwr ddarparu tystiolaeth feddygol bellach y tu hwnt i nodyn ffitrwydd.

Os penderfynwch naill ai cyn neu ar ôl derbyn cyngor meddygol, i roi’r gorau i dalu Tâl Salwch Statudol i’ch gweithiwr, dylech egluro eich penderfyniad iddynt. Mae ganddynt hawl i gael datganiad ysgrifenedig gennych a gallant ofyn am benderfyniad ffurfiol ar eu hawl i Dâl Salwch Statudol gan CThEF. Mae canllawiau pellach ar sut i ddelio ag anghytundeb rhyngoch chi a gweithiwr ar gael yma Hawl i Dâl Statudol: sut i ddelio ag anghytundebau (www.gov.uk)

6.14 A wyf yn parhau i gael fy nghwmpasu gan Yswiriant Gorfodol Atebolrwydd Cyflogwyr?

Nid yw eich yswiriant atebolrwydd yn atal gweithwyr a allai fod yn ffit i weithio rhag dychwelyd i’r gwaith. Dylech sicrhau eich bod yn ystyried y cyngor ar y nodyn ffitrwydd, yn cyflawni unrhyw weithdrefnau diogelwch perthnasol, ac ystyried a oes angen asesiad risg. Cysylltwch â’ch cwmni yswiriant os oes gennych unrhyw bryderon.

6.15 Beth os yw nodyn ffitrwydd ar gyfer cyfnod ‘amhenodol’ ond ni allaf ddarparu ar gyfer unrhyw ran o’r cyngor?

Dylech ystyried cymaint o ffyrdd â phosibl i helpu’ch gweithiwr yn ôl i’r gwaith, gan gynnwys eu symud i rôl wahanol. Efallai y bydd materion cyfreithiol ychwanegol i’w hystyried, er enghraifft eich dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Diswyddo yw’r dewis olaf a gallai fod yn annheg os na chaiff ei drin yn iawn, gweler fwy o wybodaeth am Ddiswyddo staff. Yn ddelfrydol, dylech ddilyn Cod Ymarfer ACAS ar weithdrefnau disgyblu a chwyno.

7. Astudiaethau achos

Gweler y ddogfen ‘Canllaw cyflogwyr - Astudiaethau Achos’ o brif dudalen ‘Nodyn ffitrwydd: canllawiau i gyflogwyr a rheolwyr llinell am fwy o wybodaeth.

  • Astudiaeth achos 1: Cyflogwr yn gwneud newidiadau yn seiliedig ar gyngor gweithiwr gofal iechyd proffesiynol  – gweithio o gartref

  • Astudiaeth achos 2: Cyflogwr yn gwneud newidiadau – gyrrwr cyflenwi sydd ddim yn gallu gyrru

  • Astudiaeth achos 3: Cyflogwr yn gwneud newidiadau - dychwelyd i’r gwaith yn raddol

  • Astudiaeth achos 4: Salwch tymor byr oherwydd COVID hir – cyflogwr a therapydd galwedigaethol yn cefnogi gweithiwr i ddychwelyd i’r gwaith.

  • Astudiaeth achos 5: Hanes poen yng ngwaelod y cefn a dychwelyd i gyflogaeth

  • Astudiaeth achos 6: Cyflogwr yn gwneud newidiadau yn seiliedig ar gyngor ffisiotherapydd

8. Gwybodaeth bellach

Am fwy o wybodaeth am y nodyn ffitrwydd gweler canllaw nodyn ffitrwydd

9. Cyngor dychwelyd i gyflogaeth  

9.1 Mynediad at Waith

Mae [Mynediad at Waith] (https://www.gov.uk/mynediad-at-waith) yn grant dewisol a all ddarparu cymorth ymarferol ac ariannol i bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd i’w helpu i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith.

9.2 Pasbort Addasiadau Iechyd (HAP)

Gall y Pasbort Addasiadau Iechyd gael ei ddefnyddio i helpu cyflogwr i feddwl pa gymorth ac addasiadau rhesymol y gallai gweithiwr fod ei angen i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith.

9.3 Cymorth gydag iechyd ac anabledd gweithiwr

Mae Cymorth gydag iechyd ac anabledd gweithiwr yn adnodd hunanwasanaeth newydd i helpu busnesau i gefnogi a rheoli iechyd ac anabledd yn y gweithle. Mae’r gwasanaeth yn darparu canllaw cam wrth gam i ymdrin â sefyllfaoedd iechyd ac anabledd cyffredin, gan ei gwneud yn haws i gyflogwyr gymryd y camau cywir ar yr adeg gywir, a chyfeirio at gyngor arbenigol.

9.4 Addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr ag anableddau neu gyflyrau iechyd

Addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr ag anableddau neu gyflyrau iechyd

Rhaid i gyflogwyr wneud addasiadau rhesymol i sicrhau nad yw gweithwyr ag anableddau, neu gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol, dan anfantais sylweddol wrth wneud eu gwaith.

9.5 Canllawi NICE ar absenoldeb salwch hirdymor ac analluogrwydd i weithio

Canllaw NICE ar absenoldeb salwch hirdymor ac analluogrwydd i weithio

Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â sut i helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb salwch tymor hir, lleihau absenoldeb salwch ailadroddus, a helpu i atal pobl rhag symud o absenoldeb salwch tymor byr i salwch tymor hir.

9.6 Canllaw HSE ar reoli absenoldeb salwch a dychwelyd i’r gwaith

Canllaw HSE ar reoli absenoldeb salwch a dychwelyd i’r gwaith

Mae’n rhoi cyngor i gyflogwyr a rheolwyr ynghylch cefnogi pobl tra ar absenoldeb salwch a’u helpu i ddychwelyd i’r gwaith.

9.7 Rheoli absenoldeb salwch, anghydfodau, a thâl salwch

9.8 Cymorth i weithwyr â phroblemau personol neu gymdeithasol

Dim ond ar gyfer problemau meddygol y gellir rhoi nodiadau ffitrwydd. Os yw’ch claf yn delio â phroblem nad yw’n eu gwneud yn sâl, ni ddylid rhoi nodyn ffitrwydd iddynt. Fodd bynnag, mae adnoddau ar gael isod i helpu pobl ag ystod o faterion eraill, y gallech ddymuno cyfeirio cleifion atynt.

9.9 Cyngor Gofal Iechyd Ychwanegol

Gwasanaeth Cyngor Iechyd Galwedigaethol

Gall cymorth iechyd galwedigaethol fod yn ddefnyddiol iawn mewn achosion cymhleth a phryd y gall gwaith effeithio ar iechyd eich gweithiwr. Efallai y byddwch yn cynnig gwasanaeth iechyd galwedigaethol mewnol sy’n aml yn cael ei ddarparu gan gyflogwyr mawr ac weithiau gan y GIG neu awdurdodau lleol. Efallai y bydd gan gymdeithasau masnach neu fusnes rhanbarthol fanylion darparwyr iechyd galwedigaethol neu ffynonellau cymorth eraill. Am gymorth iechyd galwedigaethol cyffredinol a phroffesiynol gweler y dolenni isod, i drafod costau, gwasanaethau a buddion posibl;

Manylion darparwyr iechyd galwedigaethol

Mae gwasanaethau iechyd galwedigaethol weithiau’n cael eu darparu gan wasanaethau’r GIG neu awdurdodau lleol. I ddod o hyd i fanylion darparwyr yn eich ardal chi, cysylltwch â:

Commercial Occupational Health Provider Association

NHS Health at Work Network – Support for Business

Using occupational health at work: Occupational health - Acas

Supporting organisational health and wellbeing professionals

Safe Effective Quality Occupational Health Service

Home (salus.co.uk) (Scotland)

Canllawiau a chefnogaeth ar gyfer cyflyrau penodol

Yn darparu cyngor ac awgrymiadau ymarferol. 

Royal College of Surgeons of England – Recovering from surgery

Royal College of Psychiatrists – Work and Mental Health

Macmillan – Work and cancer

Royal College of Physicians – Upper limb disorders: Occupational aspects of management

Chartered Society of Physiotherapy – reasonable-adjustments advice

Workplace guidance - Healthy Working Lives (Scotland)

9.10 Gwybodaeth bwysig

Canllaw yn unig yw hwn ac nid yw’n cwmpasu pob amgylchiadau. Rydym wedi gwneud ein gorau i sicrhau bod y wybodaeth yn gywir fel ag ym mis Awst 2023. Mae’n bosibl bod rhywfaint o’r wybodaeth wedi’i gorsymleiddio, neu efallai y bydd yn anghywir dros amser, er enghraifft oherwydd newidiadau yn y gyfraith.