Deunydd hyrwyddo

Gwirio Treth – erthygl enghreifftiol/blogiau

Diweddarwyd 22 May 2023

Mae’r llywodraeth yn rhoi gofynion treth newydd ar waith ar gyfer ceisiadau am drwyddedau penodol. Ategir hyn gan wasanaeth digidol newydd sy’n cael ei ddatblygu gan CThEM. Mae’n helpu pobl yn y diwydiannau tacsi, cerbydau hurio preifat a metel sgrap i gwblhau gwiriad treth newydd.

Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi’u cofrestru i dalu treth ac mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod pawb yn talu’r dreth y dylent, gan greu chwarae teg i’r mwyafrif sy’n cydymffurfio. Mae CThEM yn cyd-weithio â chyrff yn y diwydiant i wneud hyn mor syml â phosib. Dylai’r gwiriad gymryd ychydig funudau bob ychydig flynyddoedd a’i bwrpas yw cadarnhau bod rhywun wedi’i gofrestru’n briodol ar gyfer treth.

Bydd angen i chi gwblhau gwiriad treth pan fyddwch yn adnewyddu’ch trwydded fel:

  • gyrrwr tacsi (cerbyd hacni)
  • gyrrwr cerbyd hurio preifat (a thrwyddedau deuol)
  • gweithredwr cerbyd hurio preifat
  • deliwr metel sgrap sy’n gasglwr symudol
  • deliwr metel sgrap ar safle

Ynglŷn â’r gwiriad treth

Byddwch yn gallu cwblhau’r gwiriad treth hwn ar GOV.UK, drwy’ch cyfrif Porth y Llywodraeth. Dim ond ychydig o gwestiynau y bydd angen i chi eu hateb i roi gwybod i CThEM sut rydych yn talu unrhyw dreth a allai fod yn ddyledus ar incwm yr ydych yn ennill o’ch masnach drwyddedig. Os nad oes gennych gyfrif Porth y Llywodraeth eisoes, gallwch gofrestru ar GOV.UK.

Dim ond ychydig funudau y dylai’r gwiriad treth ei gymryd. Bydd arweiniad ar GOV.UK a bydd unrhyw un sydd angen cymorth ychwanegol yn gallu cwblhau’r gwiriad treth dros y ffôn drwy linell gymorth cwsmeriaid CThEM.

Pan fyddwch wedi cwblhau’r gwiriad treth, byddwch yn cael cod. Mae’n rhaid i chi roi’r cod hwn i’ch corff trwyddedu. Ni all y corff trwyddedu symud ymlaen â’ch cais am drwydded neu adnewyddiad hyd nes y bydd y gwiriad treth wedi’i gwblhau a’i fod wedi cael y cod.

Bydd eich corff trwyddedu ond yn cael cadarnhad gan CThEM eich bod wedi cwblhau’r gwiriad treth, ni fydd ganddynt fynediad at wybodaeth am eich materion treth.

Cofrestru ar gyfer treth

Mae’n bosib bydd yn rhaid i chi dalu treth drwy TWE (Talu Wrth Ennill), Hunanasesiad a/neu Treth Gorfforaeth, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os dylech fod wedi eich cofrestru i dalu treth a’ch bod heb eich cofrestru, bydd CThEM yn gweithio gyda chi’n brydlon ac yn broffesiynol i’ch cael yn ôl ar y trywydd iawn. Eich cyfrifoldeb chi yw cael eich treth yn gywir, ond mae CThEM yma i helpu.

Os ydych yn gyflogai: Talu Wrth Ennill (TWE)

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu Treth Incwm drwy TWE. Dyma’r system y mae cyflogwyr yn ei defnyddio i gymryd cyfraniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol cyn talu cyflogau.

Rhagor o wybodaeth ar TWE.

Os ydych yn hunangyflogedig: Ffurflenni Treth Hunanasesiad

Os ydych yn hunangyflogedig byddwch yn talu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol drwy Hunanasesiad. Bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth bob blwyddyn.

Mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth os, yn y flwyddyn dreth ddiwethaf (6 Ebrill i 5 Ebrill), roedd un o’r canlynol yn berthnasol:

  • roeddech yn hunangyflogedig fel ‘unig fasnachwr’ ac roedd eich incwm masnachu gros blynyddol yn fwy na £1,000
  • roeddech yn bartner mewn partneriaeth busnes

Rhagor o wybodaeth ar cofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Os ydych yn gweithredu drwy gwmni: Treth Gorfforaeth

Mae angen i gwmnïau cofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth pan fyddant yn dechrau masnachu neu’n ailgychwyn busnes segur.

Rhagor o wybodaeth ar Treth Gorfforaeth.