Adroddiad corfforaethol

Adroddiad monitro iaith Cymraeg Tŷ'r Cwmnïau, 2021 i 2022

Cyhoeddwyd 2 March 2023

1. Cyflwyniad

Paratowyd Cynllun Iaith Gymraeg Tŷ’r Cwmnïau yn unol ag adran 21(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg a chafodd gymeradwyaeth lawn Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 20 Ebrill 2010.

Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn falch o gael ei Brif swyddfa yng Nghaerdydd ac o’r gwasanaethau Cymraeg rydym yn eu cynnig i’n cwsmeriaid. Ers i ni sefydlu ein Huned Iaith Gymraeg ym mis Medi 2020, teimlwn fod cyfathrebu wedi gwella ar draws pob rhan o Dŷ’r Cwmnïau a bod holl wasanaethau cwsmeriaid Cymru yn cael eu monitro gan Uned yr Iaith Gymraeg i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o safon uchel i’n cwsmeriaid Cymraeg.

Rydym hefyd wedi cynnal Pwyllgor y Gymraeg sy’n cyfarfod yn rheolaidd i fonitro cynnydd a pherfformiad, ynghyd â thîm o siaradwyr Cymraeg gallwn ymgynghori ar faterion bob dydd. Daw aelodau’r pwyllgor o bob rhan o’r sefydliad, gan gynnwys ein Cyfarwyddwr Trawsnewid Cyflawni sy’n gweithredu fel Cadeirydd.

2. Dehongliad

Ystyr “TC” yw Tŷ’r Cwmnïau

Ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Cwmnïau 2006

Ystyr “y Cofrestrydd” yw Cofrestrydd y Cwmnïau

Ystyr “PAC” yw Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig

Ystyr “PC” yw Partneriaeth Cyfyngedig

Ystyr “cwmni Cymreig/PAC” yw cwmni neu PAC, fel y’i diffinnir gan adran 88 o Ddeddf 2006 (fel y’i cymhwysir at barneriaethau atebolrwydd cyfnygedig), sydd wedi rhoi hysbysiad i’r Cofrestrydd bod ei swyddfa gofrestredig wedi i’w lleoli yng Nghymru. O ran corffori, rhaid i gwmni nodi a yw ei swyddfa gofrestredig i’w lleoli yng Nghymru, Lloegr a Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Rhaid i gyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni fod yn y wlad lle maent wedi datgan y bydd eu swyddfa gofrestredig wedi’i lleoli.

Mae gan gwmni o Gymru’r opsiwn, o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, i gael enw cwmni Cymreig ac enw yn diweddu yn y Gymraeg (h.y. cyfyngedig, cwmni cyfyngedig cyhoeddus) a gall ffeilio dogfennau statudol yn Gymraeg. Gall cwmni yng Nghymru a Lloegr gael cyfeiriad swyddfa gofrestredig yng Nghymru neu Loegr ond ni all fod ag enw cwmni Cymreig nac enw yn diwedddu yn y Gymraeg ac ni all ffeilio dogfennau statudol yn Gymraeg.

3. Cyflawniadau

Mae’r cyfnod adrodd presennol wedi gweld CH yn adeiladu ar amgylchedd trawsnewidiol a diwygio 2020-21. Yn ystod y cyfnod eithriadol o brysur hwn, aeth y sefydliad ymlaen â gwaith i gyflawni newidiadau sylfaenol i’r ffordd y mae’n gweithredu ac mae’n cyfrannu at hybu hyder yn economi’r DU.

Roedd natur ddigynsail argyfwng COVID-19 yn golygu bod yn rhaid i ni drawsnewid ein gwasanaethau ymhellach fyth ac annog mwy o bobl i gyfathrebu â ni ar-lein. Rhoddwyd systemau ar waith i sicrhau y gallai popeth barhau i redeg yn esmwyth i’r cwsmer ac roedd ein gwasanaethau Cymraeg yn elfen allweddol.

Mae ymrwymiad parhaus TC i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid Cymraeg wedi bod yn ystyriaeth bwysig drwy gydol y broses hon.

O ganlyniad i gyflwyno ein Huned Iaith Gymraeg ym mis Medi 2020, rydym bellach yn derbyn mwy o gyfathrebu Cymraeg gan gwsmeriaid ym mhob rhan o TC. Rydym wedi gwneud llawer o waith i hyrwyddo’r gwasanaethau Cymraeg rydym yn eu cynnig ac rydym wedi cynyddu’r nifer o gwsmeriaid sy’n cysylltu gyda ni yn y Gymraeg oherwydd hyn.

4. Cydymffurfio â’r Cynllun Iaith Gymraeg

Mae TC yn parhau i fod yn ymrwymedig i gydymffurfio â’i Gynllun Iaith Gymraeg ac o 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022, cyflawnodd y canlynol:

Cyfarfu Pwyllgor Cymraeg TC bob deufis i sicrhau cydymffurfiaeth â Chynllun Iaith Gymraeg TC ac adolygu cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn. Cynhaliwyd cyfarfodydd gwasanaeth Cymraeg i ystyried y gwasanaethau a gynigir i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.

Parhaodd tîm o siaradwyr Cymraeg o wahanol ardaloedd o fewn TC i ymateb i ymholiadau cwsmeriaid. Yn ystod y cyfnod adrodd, gofynnodd 34 o gwsmeriaid am gael siarad yn Gymraeg (21 yn yr adroddiad blynyddol diwethaf) a chawsom 44 o negeseuon e-bost yn Gymraeg (o gymharu â 17 yn ein hadroddiad blynyddol diwethaf). Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y cwsmeriaid sy’n cysylltu â’n Huned Iaith Gymraeg yn uniongyrchol.

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, cysylltodd 34 o gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg â TC yn uniongyrchol gydag ymholiadau cyffredinol, gan gynnwys:

  • Cymorth gyda diwygio erthyglau a newid cyfeiriad a chywiro cenedligrwydd anghywir a restrir
  • Cadarnhad bod dogfennau wedi’u derbyn, a chymorth gyda dogfennau ffeilio
  • Cadarnhad ar sut i newid manylion y cyfarwyddwr ar ddatganiad cadarnhau
  • Cymorth gyda diddymu cwmni
  • Cymorth gyda Ffeilio cyfrifon ar-lein
  • Cymorth i sefydlu cwmni buddiant Cymunedol

Parhawyd i sicrhau bod y ffurflenni a gaiff eu ffeilio amlaf – sy’n cynnwys 95% o’r ffeilio ar y gofrestr – ar gael yn ddwyieithog, ar bapur ac yn electronig. Oherwydd argyfwng COVID-19, bu’n rhaid i TC addasu i ymateb i heriau a achoswyd gan y cwarantin a’r rhyddid i symud yn gyfyngedig. Roedd hyn yn arbennig o berthnasol i ddatblygiad ein gwasanaethau digidol. Gweithiodd Uned yr Iaith Gymraeg yn agos gyda’r timau digidol i ddatblygu sawl system newydd i fod ar gael yn ddwyieithog.

Mae Uned yr Iaith Gymraeg yn parhau i mynychu sesiynau gyda’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (Llywodraeth Cymru) i rannu arfer da a thrafod sut y gallwn wella gwasanaethau dwyieithog ac annog pobl i ddewis Cymraeg wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.

Gwnaethom barhau i adolygu canllawiau TC i sicrhau bod yr holl ganllawiau a grëwyd gan CH ar gael yn ddwyieithog, ac eithrio’r hyn nad yw’n benodol berthnasol i gwmnïau o Gymru (e.e. canllawiau ar faterion sy’n effeithio ar gwmnïau yn yr Alban yn unig).

Cafodd cwsmeriaid a oedd yn gohebu â TC yn Gymraeg ymateb yn Gymraeg. Mae pob adran yn CH yn cyfathrebu â’n Huned Iaith Gymraeg i sicrhau bod y cwsmer yn derbyn eu gohebiaeth yn eu hiaith ddewisol. Darparodd yr Uned wasanaeth cyfieithu ar gyfer pob adran.

Ers mis Medi 2020, rydym wedi gosod marciwr Cymraeg ar bob cwmni yng Nghymru i sicrhau eu bod yn derbyn gohebiaeth ddwyieithog ar draws y sefydliad. Nid ydym bellach yn ei gwneud yn ofynnol i’n cwsmeriaid gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn. Roeddem yn llawn werthfawrogi pwysigrwydd bod hwn yn gynnig gweithredol ac nad oedd angen iddynt ofyn am ohebiaeth Gymraeg. Rhoddwyd 267 o farcwyr ar Gwmnïau yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Cafodd pob set o gyfrifon Cymraeg a dderbyniwyd gan gwmnïau o Gymru eu cyfieithu i’r Saesneg ar gyfer y cofnod cyhoeddus, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Cyfieithwyd 122 o gyfrifon Cymraeg i’r Saesneg yn y cyfnod adrodd hwn gan Uned y Gymraeg.

Yn ogystal, parhawyd i gyfieithu gohebiaeth i’r Gymraeg i fodloni gofynion ein Cynllun Iaith Gymraeg. Roedd hyn yn cynnwys llythyrau, canllawiau a gwaith prosiect, ar gyfer y wefan a gwasanaethau ar-lein.

Roedd yr holl gontractau a gyhoeddwyd yn cynnwys cymal yn sicrhau bod ein partneriaid gwasanaeth yn cydymffurfio ag ymrwymiadau TC y Gymraeg.

Parhaodd TC i gymryd rhan ym Mhwyllgor CALL rhyngadrannol Llywodraeth y DU. Mae’r pwyllgor yn dod â chynrychiolwyr o Unedau Iaith Gymraeg amrywiol adrannau Llywodraeth y DU at ei gilydd yn rheolaidd. Mae’n darparu fforwm delfrydol i rannu arfer gorau a dod o hyd i atebion i wella ein gwasanaethau Cymraeg, gyda golwg ar sicrhau dull mwy safonol ar draws y llywodraeth. Rhoddodd cydweithwyr o’r Pwyllgor CALL gefnogaeth i sefydlu’r Uned yn TC.

5. Prif ffrydio’r Gymraeg

Ystyriodd TC y Gymraeg yn y ffyrdd canlynol:

Parhawyd i ystyried ein gwasanaethau Cymraeg ar gam cynharaf pob prosiect drwy gynnwys y Gymraeg ym mhob rhestr wirio rheolwyr prosiect a chynlluniau datblygu eraill. Mae rheolwr Uned yr Iaith Gymraeg bellach yn eistedd ar baneli amrywiol i fwrw ymlaen â hyn a sicrahu bod llais i sefyll dros y Gymraeg.

Gwnaethom flaenoriaethu ein cynnwys GOV.UK Cymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn falch o ddweud, ar ôl sawl cyfarfod gyda GDS, ein bod bellach wedi gallu cyfieithu ein 10 dolen nodwedd ar yr hafan.

Rydym hefyd wedi creu tudalen casgliad Cymraeg fel y gall ein cwsmeriaid Cymraeg gael mynediad haws at ein canllawiau iaith Gymraeg. Mae hyn yn dilyn adborth a gawsom gan ein cwsmeriaid Cymraeg

Gwnaethom ailddrafftio rhai o’n prif dudalennau canllaw Bod yn gyfarwyddwr cwmni - GOV.UK (www.gov.uk) (gwelwyd 105 o weithiau) a Gweithio i Tŷ’r Cwmnïau - Tŷ’r Cwmnïau - GOV.UK (www.gov.uk) (gwelwyd 94 o weithiau) a’u cynnwys ar ein hafan Cymraeg: Tŷ’r Cwmnïau - GOV.UK (www.gov.uk)

Cyhoeddwyd 2 stori newyddion yn Gymraeg:

Mae gwasanaethau Companies House Direct a WebCHeck yn cau

Ffeilio eich Cyfrifon Tŷ’r Cwmnïau yn gynnar ac ar-lein er mwyn osgoi oedi

Parhawyd i gynyddu nifer y negeseuon Cymraeg a rennir ar ein cyfrif Twitter corfforaethol sydd bellach â mwy nag 20,000 o ddilynwyr.

Yn ystod 2021/22, fe wnaethom bostio o leiaf 2 drydar Cymraeg yr wythnos. Amlygodd y trydari hyn ein cynnwys Cymraeg gan gynnwys fideos, canllawiau ar-lein, a graffeg newydd i dynnu sylw at ein gwasanaethau Cymraeg.

Edrychwyd ar y postion hyn 51,228 o weithiau.

Roedd y cynnwys y gwnaethom bostio amdano yn cynnwys negeseuon ‘busnes fel arfer’ am ddatganiadau cadarnhau, ffeilio ar-lein ac ar amser, a gwnaethom greu cynnwys Cymraeg ar gyfer ein hymgyrch brand cyflogwyr. Fe wnaethom hefyd bostio negeseuon am ddiwrnodau ymwybyddiaeth a diwrnodau dathlu megis Dydd Gŵyl Dewi a Diwrnod Hawliau’r Gymraeg.

6. Dangosyddion perfformiad

Yn ystod y cyfnod adrodd, corfforwyd 6,435 (7,732 llynedd) o gwmnïau Cymreig a 18 PAC ag awdurdodaeth Gymreig (22 llynedd) Roedd cyfanswm o 753,164 o gwmnïau a 5,472 o LLP wedi eu corffori yn ystod y cyfnod hwn.

Erbyn diwedd y cyfnod adrodd, roedd yna 31,096 o gwmnïau Cymreig a 158 o PAC Cymreig ar y gofrestr, o’u cymharu â chyfanswm o 4,894,356 o gwmnïau a 52,393 LLP.

Erbyn diwedd y cyfnod adrodd, roedd yna 1,711 o gwmnïau Cymraeg (1,604 llynedd) ac 7 PAC Cymraeg ar y gofrestr oedd wedi eu corffori â therfyniad enw Cymraeg.

7. Canolfan Gyswllt TC

Mae dau aelod llawn amser o staff sy’n siarad Cymraeg yn y Ganolfan Gyswllt. Mae gofyniad cytundebol i ddarparu gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae unrhyw recriwtio yn nodi bod y Gymraeg yn ddymunol. Cynhelir ymarfer recriwtio parhaus.

Os yw cwsmer yn gofyn yn benodol am gael siarad â siaradwr Cymraeg ac nad oes un ar gael, rydym yn cynnig y dewis i’r cwsmer gwblhau’r alwad yn Saesneg neu ofyn am rif ffôn cyswllt y cwsmer fel y gall siaradwr Cymraeg gysylltu â nhw’n uniongyrchol, yn unol â’n Cynllun Iaith Gymraeg.

Mae gan TC hefyd grŵp dynodedig sy’n gallu ymateb i ymholiadau Cymraeg. Caiff hyn ei gyfleu i bob aelod o staff drwy ein cyfathrebiadau mewnol.

Mae Uned yr Iaith Gymraeg bellach yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r ganolfan gyswllt i sicrhau bod pawb yn deall pwysigrwydd cael darpariaeth Gymraeg, waeth pa mor fach yw’r nifer sy’n cysylltu â ni ar hyn o bryd.

Mae Uned yr Iaith Gymraeg hefyd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda siaradwyr Cymraeg yn y ganolfan gyswllt i sicrhau eu bod yn gallu defnyddio ac ymarfer eu Cymraeg gan fod canran y galwadau Cymraeg ar hyn o bryd yn isel.

8. Derbynfa cyhoeddus

Mae’r derbynfa cyhoeddus wedi bod ar gau ers mis Mai 2020 oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Mae’r rhan fwyaf o ryngweithiadau cwsmeriaid yn cael eu cynnal ar-lein neu drwy gyswllt drwy’r post. Gall staff derbynfeydd TC roi cyfarchion yn Gymraeg ac fel arfer mae arwydd amlwg yn cynghori ymwelwyr bod gwasanaeth Cymraeg ar gael ar gais. Mae gan staff y dderbynfa restr o staff sy’n siarad Cymraeg y gallant gysylltu â hwy os gwneir cais.

Bydd Uned yr Iaith Gymraeg hefyd yn cefnogi’r staff hwn gyda’u sgiliau Iaith Gymraeg wrth symud ymlaen.

9. Hyfforddiant ac Ymwybyddiaeth Iaith

Mae TC wedi parhau i hyrwyddo cyfleoedd datblygu’r Gymraeg i’n staff ac yn cynnig cyfleoedd i’r staff ddefnyddio eu Cymraeg yn y gweithle.

Mae Uned yr Iaith Gymraeg ers ei sefydlu ym mis Medi wedi cynnal digwyddiadau ar-lein misol ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn TC. Mae Rheolwr yr Uned wedi mynychu cyfarfodydd tîm pob adran i adnabod dysgwyr a siaradwyr Cymraeg ac yna eu hychwanegu at y grŵp Cymraeg misol. Mae hyder y staff i siarad yr iaith wedi mynd o nerth i nerth ers cynnal y gweithgareddau hyn.

Mae’r Uned Iaith Gymraeg hefyd yn rhoi erthyglau rheolaidd a geirfa Gymraeg ar dudalen Rhyngweithio’r mudiad. Mae hyn wedi codi ymwybyddiaeth ac wedi sicrhau bod gan y Gymraeg amlygrwydd ar draws CH i gyd. Mae gan Uned yr Iaith Gymraeg hefyd dudalen ryngweithio sy’n cynnwys canllawiau ar gyfer pob ardal ar gyfathrebu Cymraeg, ein Cynllun Iaith Gymraeg a rhestr o siaradwyr Cymraeg ym mhob ardal.

Erbyn hyn mae gan dudalen gymdeithasol fewnol Uned yr Iaith Gymraeg 79 o aelodau (o’i gymharu â 65 y llynedd) ac rydym yn parhau i ddarparu cynnwys Cymraeg a hysbysebu ein digwyddiadau yma.

Cynigiodd CH gyfleoedd dysgu Cymraeg i’r holl staff yn unol â’i Gynllun Addysg Oedolion. Mae’r sefydliad wedi cefnogi’n llawn y rhai sydd wedi manteisio ar y cyfle hwn drwy dalu am gost y cwrs ac unrhyw arholiadau, yn ogystal â darparu amser hwyluso i astudio.

Mae 12 aelod o staff wrthi’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd, o’i gymharu â 4 aelod o staff yn y flwyddyn adrodd ddiwethaf.

Cynhelir y gwersi hyn yn wythnosol ac maent yn rhithwir. Mae CH yn ariannu’r dysgu hwn. Mae Uned y Gymraeg wrthi’n hyrwyddo dysgu Cymraeg ar bob cyfle posibl. Mae Uned yr Iaith Gymraeg hefyd wedi creu grŵp Teams i’r dysgwyr ymarfer a chefnogi ei gilydd a rhannu adnoddau defnyddiol hefyd.

Cynhaliodd Uned yr Iaith Gymraeg ddigwyddiad dydd Gŵyl Dewi rhithwir a mynychodd dros 200 o staff o bob rhan o TC.

Crëwyd fideo yn cynnwys cyfraniadau celf, ffotograffiaeth, canu a dawnsio gan aelodau ar draws TC. Cynhaliwyd ein Heisteddfod fach ein hunain a gobeithiwn adeiladu ar hyn bob blwyddyn.

Parhaodd CH i annog a chefnogi diwrnodau gwirfoddoli sydd, yn ein barn ni, yn ffordd gadarnhaol o gyfrannu at y gymuned leol wrth ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg. Ar ddweud hyn, mae’r achosion o COVID-19 wedi cyfyngu ar y nifer a gynhaliwyd. Rydym yn edrych ymlaen at ail ddechrau’r rhain yn y dyfodol agos.

10. Cwynion

Nifer y cwynion a gafwyd am ddiffyg darpariaeth gwasanaethau yn Gymraeg a’r camau a gymerwyd i ddatrys y cwynion:

Yn ystod y cyfnod adrodd yma, cysylltodd cwsmeriaid â Tŷ’r Cwmnïau ar 4 achlysur ynghylch ei wasanaeth Cymraeg. Mae’r ffigwr yma’n is na’r cyfnod adrodd diwethaf a welodd 8 cwyn.

10.1 Crynodeb o’r cwynion

Cafodd 2 cwsmer problemau wrth geisio talu ar ein sgrin Cymraeg, nid oedd yr un broblem i’w weld ar yr ochr Saesneg. Mae hwn bellach wedi ei sortio.

Cyflwynodd cwmni ei gyfrifon yn electronig yn Saesneg wrth gyflwyno cyfrifon papur yn Gymraeg. Dadleuodd y cwmni ei fod wedi gwneud hynny am nad oedd yn gallu ffeilio cyfrifon dwyieithog ar lein. Cafodd y mater ei ddatrys er boddhad y cwmni.

Rydym yn gobeithio sefydlu system newydd a fydd yn neud hi yn bosib i gwsmeriaid i ffeilio ar-lein yn y Gymraeg hefyd yn y dyfodol.

Roedd un cwsmer wedi cwyno gan nad oedd wedi gallu siarad â siaradwr Cymraeg wrth wneud galwad. Ers hynny mae uned yr iaith Gymraeg wedi gwneud yn siŵr bod system ar waith fel nad yw hyn yn digwydd eto.

11. Casgliad

Mi fydd uned yr iaith Gymraeg a’r Pwyllgor yn parhau i sicrhau bod Tŷ’r Cwmnïau yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o dan y cynllun iaith Gymraeg ac yn gweld y pwysigrwydd o gynnig rhagweithiol i’n cwsmeriaid.

Rydym yn ymrwymo o hyd i ddarparu gwasanaeth Cymraeg rhagorol ar gyfer ein cwsmeriaid ac mi fyddwn yn cydweithio gyda phob adran yng Tŷ’r Cwmnïau i hybu dwyieithrwydd ar draws y sefydliad. Rydym yn gyffrous iawn am ddyfodol y Gymraeg yma yn Nhŷ’r Cwmnïau.

12. Cynllun gweithredu

12.1 Deddfwriaeth a mentrau

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Adolygu’r cynllun gweithredu pob chwarter Bob chwarter Uned y Gymraeg Adolygwyd cynnwys y Cynllun Gweithredu fel rhan o waith Pwyllgor y Gymraeg a gyfarfu yn chwarterol yn 2021 i 2022.
Adolygu’r cynllun strategol pob chwarter i gyd-fynd â’r Cynllun Gweithredu ar yr iaith Gymraeg Bob chwarter Uned y Gymraeg Mae ein hymrwymiad i wasanaethau Cymraeg yn sail i ddau o’n nodau strategol allweddol: Gwasanaethau gwych sy’n rhoi profiad gwych i ddefnyddwyr a Chofrestri data sy’n ennyn ymddiriedaeth a hyder.
Ystyried sut y bydd polisïau, prosiectau a datblygiadau newydd yn cydymffurfio â’r ymrwymiadau a nodir yn y Cynllun Iaith Gymraeg Yn parhau Uned y Gymraeg Rydyn ni wedi parhau a byddwn yn parhau, i ystyried ein Cynllun Iaith wrth gychwyn polisïau, prosiectau a datblygiadau newydd
Galluogi cwmnïau Cymreig i fwynhau “Profiad Cymraeg” wrth gorffori Hydref 2012 Cyflawni atebion busnes Cwblhawyd hyn yn Hydref 2012.
Galluogi corffori ar-lein llawn i gwmnïau Cymreig yn Nhŷ’r Cwmnïau Mawrth 2013 Cyflawni atebion busnes Cwblhawyd hyn ar 6 Ebrill 2013.
Gwella’r gwasanaeth Newid Enw ar WebFiling er mwyn cynhyrchu cyfieithiad o’r dystysgrif. Mawrth 2013 Y Gyfarwyddiaeth Cyflawni ar gyfer Cwsmeriaid Wrth inni ddatblygu gwasanaeth beta Tŷ’r Cwmnïau ymhellach ar gyfer cwsmeriaid, mae Tŷ’r Cwmnïau yn datblygu rhagor o wasanaethau sy’n defnyddio’r Gymraeg o ddechrau’r broses i’w diwedd. Rydym nawr wedi dechrau ar y gwaith yma.

12.2 Staffio

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Cynnal yr hyfforddiant iaith cyfredol, gan dargedu sgiliau Cymraeg llafar Yn parhau Uned yr iaith Gymraeg / Adnoddau dynol Mae Uned y Gymraeg wedi bod yn cyfarfod gyda thiwtor Dysgu Cymraeg er mwyn dechrau gwersi Cymraeg ym mis Medi. Mae Uned y Gymraeg hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl siarad ac ymarfer ei hiaith yn y gweithle. Mae’n bwysig bod y staff yn teimlo y gallant ddod â’u holl hunain i’r gwaith a rhan o hyn yw gallu defnyddio eu hiaith ddewisol yn y gweithle.
Sicrhau bod staff sy’n medru’r Gymraeg yn yr holl brif feysydd gweithredol er mwyn darparu gwasanaeth ar gyfer cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg Yn parhau Cyfarwyddwyr Mae Tŷ’r Cwmnïau yn sicrhau bod staff sy’n medru’r Gymraeg ar gael ym mhob maes er mwyn archwilio gwybodaeth sy’n cael ei ffeilio yn Gymraeg ac ymateb i gwsmeriaid yn y Gymraeg.
Hyrwyddo’r hyn sy’n ofynnol o Tŷ’r Cwmnïau o dan y Cynllun Iaith yn fewnol, gan sicrhau bod staff yn deall eu cyfrifoldebau ac yn gwybod ble i droi am gymorth. Yn parhau Uned y Gymraeg / Strategaeth a pholisi Defnyddiwyd y safle mewnrwyd yn rheolaidd i dynnu sylw ein staff at ein hymrwymiad i’n Cynllun Iaith. Mae Uned y Gymraeg hefyd wedi bod yn neud sesiynau gyda’r holl adrannau ac mae pob un nawr yn gwybod pa systemau i’w ddilyn gyda’r iaith Gymraeg a chwsmeriaid Cymraeg.
Cynnal tîm Cymraeg yn Tŷ’r Cwmnïau i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg a chynnal cyfarfodydd rheolaidd i drafod problemau a chynnydd Yn parhau Uned y Gymraeg / Cyflawni ar gyfer cwsmeriaid Mae tîm y Gymraeg wedi parhau i fod ar gael ac wedi cyfarfod yn rheolaidd.

12.3 Ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, arddangosfeydd, hysbysebion a datganiadau i’r wasg

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn mynychu pob digwyddiad yng Nghymru lle mae presenoldeb gan Tŷ’r Cwmnïau Yn parhau Y tîm digwyddiadau Ni does digwyddiadau wedi bod eleni oherwydd cyfyngiadau COVID-19.
Sicrhau bod deunydd darllen Cymraeg ar gael mewn digwyddiadau a gynhelir yng Nghymru Yn parhau Y tîm digwyddiadau Ni does digwyddiadau wedi bod eleni oherwydd cyfyngiadau COVID-19.
Sicrhau bod hysbysebion a datganiadau i’r wasg sy’n cael eu cyhoeddi yng Nghymru ar gael yn Gymraeg Yn parhau Adnoddau dynol/TGCh Lle cyhoeddir hysbysebion swyddi yn y wasg Gymraeg maent yn ddwyieithog, fodd bynnag nid oes cyfleuster ar gyfer hysbyseb swydd ddwyieithog ar wefan swyddi’r Gwasanaeth Sifil.

12.4 Cyhoeddiadau a ffurflenni

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod holl gyhoeddiadau Cymraeg Tŷ’r Cwmnïau yn cael eu diweddaru’r un pryd â’r fersiynau Saesneg Yn parhau Strategaeth a pholisi Mae Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i sicrhau bod cyhoeddiadau Cymraeg yn cael eu diweddaru’r un pryd â’r cyhoeddiadau Saesneg.
Sicrhau bod yr holl ffurflenni statudol Cymraeg yn cael eu diweddaru’r un pryd â’r fersiynau Saesneg Yn parhau Strategaeth a pholisi Mae Tŷ’r Cwmnïau yn dal i sicrhau bod ffurflenni Cymraeg yn cael eu diweddaru ar yr un pryd â ffurflenni Saesneg.
Monitro defnydd o lythyrau er mwyn sicrhau bod fersiynau Cymraeg yn cael eu defnyddio pan fo hynny’n briodol Yn parhau Datblygu newid busnes Mae Tŷ’r Cwmnïau yn dal i fonitro’r defnydd o lythyrau er mwyn sicrhau y darperir ateb yn Gymraeg lle bo angen. Drwy gydol y cyfnod mae ein tîm Cymorth Cyflawni i Gwsmeriaid wedi adolygu’r ddarpariaeth o lythyrau Cymraeg gennym ni.

12.5 Gwefannau

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod y wefan Gymraeg yn cael ei diweddaru’r un pryd â’r fersiwn Saesneg, pan fo hynny’n briodol, a bod y wybodaeth ar y wefan Gymraeg yn gyfoes. Yn parhau Uned y Gymraeg / Cyfathrebu allanol Parhawyd i gynyddu’r cynnwys Cymraeg ar GOV.UK. Mae Uned y Gymraeg yn monitro hyn ac yn cynnal cyfarfodydd cyson gyda’r tim cyfathrebu allanol er mwyn gweithredu ar hwn.
Cyfryngau cymdeithasol     Rydym yn neud yn siwr bod cynnwys Cymraeg yn mynd ar Facebook a Twitter yn aml. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau fod cwsmeriaid yn cyfathrebu gyda ni yn y Gymraeg. Mae gennym neges ar bob safle i ddweud ein bod yn croesawi gohebiaeth yn y Gymraeg.

12.6 Cyfarfodydd wyneb yn wyneb

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod modd i gwsmeriaid ofyn am gael siarad â siaradwr Cymraeg os ydynt am gynnal eu busnes yn Gymraeg Yn parhau Uned y Gymraeg / Gwasanaethau i Gwsmeriaid Mae Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i gynnig y gwasanaeth hwn, ond ni chafwyd unrhyw geisiadau amdano yn ystod y cyfnod adrodd a mae hyn wedi cael ei heffeithio gan COVID-19.

12.7 Cyfathrebu dros y ffôn

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod modd i gwsmeriaid sydd am gynnal eu busnes yn Gymraeg ofyn am gael siarad â siaradwr Cymraeg. Yn parhau Uned y Gymraeg / Gwasanaethau i gwsmeriaid / Canolfan gyswllt / Uned yr iaith Gymraeg Mae system mewn lle i wneud yn siŵr fod y cwsmer yn gallu cyfathrebu gyda ni yn ei iaith ddewisol. Mae Uned y Gymraeg yn cynnal cyfarfodydd cyson gyda’r ganolfan gyswllt a’r adrannau gwahanol i wneud yn siwr fod y system yn effeithiol.

12.8 Arwyddion

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod yr holl arwyddion cyhoeddus yn swyddfa Caerdydd yn ddwyieithog Yn parhau Gwasanaethau’r adeiladau / Uned y Gymraeg Cynhyrchir yr holl arwyddion cyhoeddus yn ddwyieithog.

12.9 Cwynion

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod cwynion am wasanaethau Cymraeg Tŷ’r Cwmnïau yn cael eu harchwilio’n fanwl ac yn cael eu datrys yn brydlon, a hynny’n unol â threfn gwynion arferol Tŷ’r Cwmnïau Yn parhau Uned y Gymraeg Paragraff 10 o’r adroddiad.
Monitro’r cwynion am wasanaethau dwyieithog Yn parhau Uned y Gymraeg Mae uned y Gymraeg yn monitro’r holl gwynion am y gwasanaeth dwyieithog yn unol â pharagraff 10 o’r adroddiad.