Ffurflen

Hawlio iawndal ar gyfer problemau gyda gwasanaeth Gofal Plant

Gwiriwch a allwch gael iawndal os nad ydych wedi gallu cael at Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth neu 30 Awr o Ofal Plant sy’n Rhad ac am Ddim oherwydd anawsterau technegol.

Dogfennau

Iawndal ar gyfer y taliad atodol ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

Manylion

Os ydych wedi cael problemau technegol yn eich cyfrif gofal plant, gallai fod wedi effeithio ar naill ai:

  • Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
  • 30 Awr o Ofal Plant sy’n Rhad ac am Ddim

Efallai y byddwch yn gallu:

  • hawlio iawndal ar gyfer y taliad atodol ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth drwy lenwi’r ffurflen hon
  • cael iawndal am 30 Awr o Ofal Plant sy’n Rhad ac am Ddim drwy ysgrifennu atom

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i hawlio iawndal ar gyfer y taliad atodol ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

Os ydych wedi talu am ofal plant heb gael eich taliad atodol gan y llywodraeth, byddwn yn ad-dalu’r taliad sy’n ddyledus os nad ydych wedi gallu:

  • llenwi’ch cais am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
  • cael mynediad at eich cyfrif gofal plant

Byddwn hefyd yn ystyried ad-dalu unrhyw gostau rhesymol sy’n codi’n uniongyrchol o ganlyniad i’r canlynol:

  • nam ar y gwasanaeth sy’n golygu nad oedd yn gweithio fel y dylai
  • ein camgymeriadau ni
  • unrhyw oedi afresymol, o fewn ein rheolaeth

Llenwch y ffurflen hon, ac yna ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEF.

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr (yn Saesneg).

Os ydych yn dal i gael anawsterau technegol, gallwch gysylltu â llinell gymorth y Gwasanaeth Gofal Plant.

Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol.

Hawlio iawndal drwy’r post am 30 Awr o Ofal Plant sy’n Rhad ac am Ddim

Gwiriwch eich bod wedi gwneud cais cyn y dyddiad cau

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio iawndal os gallwch brofi eich bod wedi gwneud cais neu wedi ailgadarnhau cyn dyddiad dechrau’r tymor. Mae dyddiadau dechrau’r tymor yn cael eu gosod gan y cynllun 30 Awr o Ofal Plant sy’n Rhad ac am Ddim, a dyma nhw:

  • 1 Medi
  • 1 Ionawr
  • 1 Ebrill

Dysgwch ragor am bryd i wneud cais am 30 Awr o Ofal Plant sy’n Rhad ac am Ddim.

Gwiriwch a ydych yn gymwys i wneud cais am iawndal

I fod â hawl i iawndal, mae’n rhaid i chi fod wedi talu am ofal plant a fyddai wedi bod yn rhad ac am ddim.

Er mwyn hawlio, mae’n rhaid i chi fodloni rhai amodau. Gallwch hawlio dim ond os ydych wedi:

  • profi problemau technegol gyda’r gwasanaeth Gofal Plant ar-lein a wnaeth eich atal rhag gwneud cais neu ailgadarnhau
  • derbyn eich cod yn hwyr oherwydd amserau prosesu safonol
  • apelio yn erbyn penderfyniad yn llwyddiannus

Sut i hawlio iawndal drwy’r post

I hawlio, ysgrifennwch atom yn:

Gwasanaeth Gofal Plant
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Mae’n rhaid i chi anfon y canlynol atom:

  • eich enw llawn
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich cyfeiriad a’ch cod post

Mae’n rhaid i chi hefyd anfon:

  • manylion am yr hyn a ddigwyddodd a wnaeth eich atal rhag cael 30 Awr o Ofal Plant sy’n Rhad ac am Ddim — mae hyn yn cynnwys unrhyw dystiolaeth sy’n dangos eich bod wedi gwneud cais cyn dyddiad dechrau’r tymor perthnasol

  • tystiolaeth o unrhyw daliadau a wnaethoch am ofal plant, megis copïau o gyfriflenni banc neu dderbynebau

Dylech hefyd gynnwys manylion y cyfrif yr ydych am i unrhyw iawndal gael ei dalu iddo, gan gynnwys:

  • enw’r banc neu’r gymdeithas adeiladu
  • enw deiliad y cyfrif
  • rhif y cyfrif
  • cod didoli
  • rhif rôl y gymdeithas adeiladu (os yw’n berthnasol)

Cewch benderfyniad fel arfer cyn pen 28 diwrnod gwaith.

Beth i’w wneud ar ôl i chi gael iawndal

Os oes iawndal yn ddyledus i chi, a’ch bod yn cael Credyd Cynhwysol neu gredydau treth, bydd angen i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau, gan gynnwys y swm a ad-dalwyd i chi, i:

Cyhoeddwyd ar 21 August 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 November 2021 + show all updates
  1. 'Claiming 30 hours free childcare compensation' section has been updated to clarify term dates and conditions for claiming.

  2. Welsh translation added.

  3. 'Claiming 30 hours free childcare compensation' section has been updated to clarify term dates and the 'How to claim' section updated if you receive a refund and get Universal Credit or tax credits.

  4. We have added a section telling people how to claim compensation for 30 hours free childcare where a technical issue has caused problems accessing the service.

  5. An updated form to claim Childcare Service 'top-up' refund has been added and a Helpline telephone number.

  6. Removed information about the Nanny Tax service being available soon, as the Nanny Tax service is live.

  7. The page and form have been updated to advise customers that they'll soon be able to pay tax and National Insurance payments for nannies using their childcare account.

  8. The content has been updated to clarify the compensation claim process.

  9. First published.