Cap ar fudd-daliadau
Budd-daliadau a effeithir gan y cap
Mae cap ar fudd-daliadau yn gyfyngiad ar gyfanswm y budd-daliadau y gallwch ei gael. Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl 16 oed neu drosodd nad ydynt wedi cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae’r cap ar fudd-daliadau’n effeithio ar:
- Lwfans Profedigaeth
- Budd-dal Plant
- Credyd Treth Plant
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Budd-dal Tai
- Budd-dal Analluogrwydd
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Mamolaeth
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Lwfans Rhiant Gweddw (Lwfans Mam Weddw neu Bensiwn Weddw os oeddech wedi dechrau ei gael cyn 9 Ebrill 2001)
- Credyd Cynhwysol
Efallai na fydd y cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol efallai na fydd y cap ar fudd-daliadau yn dechrau am 9 mis, yn dibynnu ar eich enillion.