Cap ar fudd-daliadau
Symiau cap ar fudd-daliadau
Mae’r swm a gewch drwy’r cap ar fudd-daliadau yn dibynnu ar:
- os ydych yn byw yn neu y tu allan i Lundain
- os ydych yn sengl neu mewn cwpl
- mae eich plant yn byw gyda chi (os ydych yn sengl)
Os ydych mewn cwpl ond nad ydych yn byw gyda’ch gilydd, cewch y swm ar gyfer person sengl.
Defnyddiwch y gyfrifiannell cap budd-dal i ddarganfod faint y gallai eich budd-dal gael ei gapio.
Cap ar fudd-dal y tu allan i Lundain
Yr wythnos | Y mis | |
---|---|---|
Os ydych mewn cwpl | £423.46 | £1,835 |
Os ydych yn riant sengl ac mae’ch plant yn byw gyda chi | £423.46 | £1,835 |
Os ydych yn oedolyn sengl | £283.71 | £1,229.42 |
Cap ar fudd-dal yn Llundain
Yr wythnos | Y mis | |
---|---|---|
Os ydych mewn cwpl | £486.98 | £1,916.67 |
Os ydych yn riant sengl ac mae’ch plant yn byw gyda chi | £486.98 | £1,916.67 |
Os ydych yn oedolyn sengl | £326.29 | £1,413.92 |