Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Neidio i gynnwys y canllaw

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Rhaid i chi, neu’r person sy’n hawlio ar eich rhan, ddweud wrth y swyddfa sy’n delio â’ch taliadau am unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau neu fanylion personol. Rhowch wybod iddynt ar unwaith os:

  • yw’r cyflwr yr ydych yn cael budd-dal ar ei gyfer yn gwella neu’n gwaethygu, neu os cawsoch ddiagnosis anghywir
  • ydych yn newid eich enw neu ryw
  • ydych yn priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil
  • ydych yn newid eich cyfeiriad
  • ydych yn newid eich rhif ffôn
  • ydych yn newid eich manylion banc
  • ydych yn gadael neu’n bwriadu gadael y wlad
  • ydych yn mynd i’r carchar neu’n cael eich cadw mewn dalfa
  • yw’ch statws mewnfudo yn newid, os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig
  • ydych yn newid y person sydd ag awdurdod i weithredu ar eich rhan
  • yw’ch cyflwr wedi’i achosi gan wasanaeth yn lluoedd arfog y DU ac rydych yn cael iawndal gan y llywodraeth.

Os ydych yn cael Atodiad i’r Anghyflogadwy, rhaid i chi hefyd rhoi gwybod os:

  • ydych yn symud i fyw gyda phartner
  • ydych yn aros yn yr ysbyty
  • ydych yn dechrau neu’n stopio gweithio
  • yw’ch enillion blynyddol yn cynyddu

Mae yna wahanol newidiadau y mae’n rhaid i chi roi gwybod amdanynt os ydych hefyd yn cael Lwfans Enillion Is neu Lwfans Gweini Cyson.

Gallech gael eich cludo i’r llys neu orfod talu cosb os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.

Sut i roi gwybod am newid

Ffoniwch linell gymorth Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) neu ysgrifennwch at Ganolfan IIDB Barnsley.

Llinell Gymorth Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Ffôn: 0800 121 8379
Ffôn Testun: 0800 169 0314
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 8379
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gwasanaeth Video Relay os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Canolfan IIDB Barnsley

Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1SY

Os ydych wedi cael eich talu gormod

Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os ydych:

  • heb roi gwybod am newid ar unwaith
  • rhoi gwybodaeth anghywir
  • wedi’u gordalu drwy gamgymeriad

Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-daliadau