Pleidleisio yn bersonol

Rydych yn pleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio (mewn adeilad cyhoeddus fel arfer, megis ysgol neu neuadd leol).

Eich cerdyn pleidleisio

Caiff cerdyn pleidleisio ei anfon atoch cyn etholiad neu refferendwm yn dweud wrthych pryd i bleidleisio ac ym mha orsaf bleidleisio.

Dim ond yr orsaf bleidleisio a nodir ar eich cerdyn y gallwch bleidleisio. Nid oes rhaid i chi fynd â’ch cerdyn pleidleisio gyda chi.

Os nad ydych wedi cael cerdyn pleidleisio ond rydych yn meddwl y dylech, cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

Gallwch dal bleidleisio os byddwch wedi colli eich cerdyn.

Pryd y gallwch bleidleisio

Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ar ddiwrnod etholiad (‘y diwrnod pleidleisio’).

Pan fyddwch yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio

Rhowch eich enw a’ch cyfeiriad i’r staff yn yr orsaf bleidleisio pan fyddwch yn cyrraedd.

Bydd angen i chi ddangos eich prawf adnabod ffotograffig er mwyn cadarnhau pwy ydych chi mewn rhai etholiadau a refferenda.

Byddwch yn cael papur pleidleisio â rhestr o’r bobl, y pleidiau neu’r opsiynau y gallwch bleidleisio drostynt.

Llenwi eich papur pleidleisio

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar yr hysbysiadau yn yr orsaf bleidleisio ac ar frig y papur pleidleisio er mwyn bwrw eich pleidlais.

Pleidleisio os oes gennych anabledd

Os oes gennych anabledd, gall eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol roi gwybodaeth am y canlynol i chi:

  • mynediad ffisegol, er enghraifft rampiau ar gyfer cadeiriau olwyn a lleoedd parcio i bobl anabl

  • bythau pleidleisio lefel isel

  • cyfarpar i bleidleiswyr â nam ar eu golwg

Mae’n rhaid i bob gorsaf bleidleisio ddarparu o leiaf un fersiwn print bras o’r papur pleidleisio a dyfais bleidleisio gyffyrddadwy arbennig i helpu pobl sy’n colli eu golwg.