Sut i bleidleisio
Pleidleisio drwy'r post
Mae’n rhaid i chi wneud cais am bleidlais bost os ydych chi am wneud cais i bleidleisio drwy’r post, er enghraifft:
- os ydych oddi cartref
- os ydych dramor ac am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
Nid oes angen i chi roi rheswm oni bai eich bod yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon.
Gwneud cais am bleidlais bost
Gallwch wneud cais am bleidlais bost ar gyfer un o’r canlynol:
- etholiad unigol ar ddyddiad penodol
- cyfnod penodol os ydych am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- hyd at dair blynedd
Gallwch wneud y canlynol:
Mae ffurflen wahanol ar gyfer gwneud cais i bleidleisio drwy’r post yng Ngogledd Iwerddon.
Newid i ble caiff eich cerdyn pleidleisio drwy’r post ei anfon
Dylech wneud cais newydd am bleidlais bost os byddwch yn symud tŷ neu os byddwch oddi cartref pan gaiff y bleidlais bost ei hanfon.
Mae ffurflen wahanol ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Cwblhau a dychwelyd eich pleidlais bost
Pan fyddwch yn pleidleisio drwy’r post, dylech wneud y canlynol:
- marcio eich pleidlais ar eich papur pleidleisio yn gyfrinachol
- llenwi’r datganiad pleidleisio drwy’r post
- rhoi’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr amlen a ddarperir
- selio’r amlen eich hun
Postiwch eich papur pleidleisio yn ôl cyn gynted â phosibl er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei gyfrif.
Os byddwch yn rhy hwyr i bostio eich papur pleidleisio
Ewch ag ef i’ch gorsaf bleidleisio leol erbyn 10pm ar ddiwrnod yr etholiad, neu i’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol cyn iddi gau.
Yng Ngogledd Iwerddon, ewch ag ef i’ch Swyddfa Etholiadol cyn iddi gau.
Cael papur pleidleisio newydd yn lle un sydd wedi’i ddifrodi neu ar goll
Mae angen i’ch papur pleidleisio ddangos eich manylion a’ch pleidlais yn glir. Os bydd wedi’i ddifrodi, bydd angen i chi gael un arall.
Gallwch naill ai:
- ofyn i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol bostio papur pleidleisio newydd yn ei le
- casglu papur pleidleisio newydd o’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad (neu’r diwrnod cyn hynny yng Ngogledd Iwerddon)
Ni chewch bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio os byddwch wedi cofrestru i bleidleisio drwy’r post ond bod eich papur pleidleisio ar goll neu wedi’i ddifrodi.