Pan fydd angen ichi wneud HOS

Neidio i gynnwys y canllaw

Trosolwg

Mae angen ichi wneud HOS (Hysbysiad Oddi ar y ffordd Statudol) pan fyddwch yn symud cerbyd ‘oddi ar y ffordd’ a’ch bod am roi’r gorau i’w drethu a’i yswirio.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae eich cerbyd oddi ar y ffordd os nad ydych yn ei gadw neu’n ei ddefnyddio ar ffordd gyhoeddus, er enghraifft os yw mewn garej, ar dreif neu ar dir preifat.

Rhaid ichi wneud HOS mewn unrhyw un o’r sefyllfaoedd canlynol:

  • nid yw eich cerbyd wedi’i drethu

  • nid yw eich cerbyd wedi’i yswirio (hyd yn oed am gyfnod byr, er enghraifft oherwydd bod oedi cyn adnewyddu’ch polisi)

  • rydych am dorri cerbyd i lawr am gydrannau cyn ichi ei sgrapio

  • rydych yn prynu neu’n derbyn cerbyd ac eisiau ei gadw oddi ar y ffordd (ni allwch drosglwyddo HOS oddi wrth y ceidwad blaenorol)

Os anfonwyd nodyn atgoffa treth cerbyd atoch ar gyfer cerbyd rydych eisoes wedi’i werthu, nid oes angen ichi wneud HOS.

Ar ôl ichi roi gwybod i DVLA eich bod wedi gwerthu eich cerbyd, byddwch yn derbyn cadarnhad nad yw gennych bellach.

Rhaid ichi yswirio a threthu eich cerbyd os nad oes gennych HOS. Os na wnewch hynny, byddwch yn cael dirwy o £80 yn awtomatig am beidio â chael HOS. Mae dirwy hefyd am gael cerbyd heb yswiriant.

Gwirio statws HOS cerbyd

Gallwch wirio statws HOS cerbyd ar-lein.

Gwneud HOS

Gallwch wneud HOS ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post.

Pan fydd HOS yn dechrau ac yn gorffen

Bydd eich HOS yn dechrau ar unwaith os bydd un o’r canlynol yn wir:

  • mae eich treth cerbyd wedi dod i ben

  • nad ydych yn gwneud cais yn y mis y bydd eich treth cerbyd yn dod i ben

Bydd eich HOS yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf y mis nesaf os byddwch yn gwneud cais yn y mis y bydd eich treth cerbyd yn dod i ben.

Ni allwch ôl-ddyddio eich HOS.

Mae eich HOS yn cael ei ganslo’n awtomatig pan rydych yn trethu’ch cerbyd eto neu os ydych yn ei werthu, ei allforio’n barhaol neu ei sgrapio.

Nid oes angen ichi adnewyddu HOS.

Rhaid i’ch cerbyd aros yn y DU er mwyn i’ch HOS fod yn ddilys. Cael gwybod beth sydd angen ichi ei wneud os ydych yn cymryd cerbyd y tu allan i’r DU.

Ar ôl ichi wneud HOS

Byddwch yn cael ad-daliad treth cerbyd yn awtomatig am unrhyw fisoedd llawn sy’n weddill.

Pryd y gallwch yrru eich cerbyd

Gallwch yrru cerbyd sydd â HOS ar ffordd gyhoeddus dim ond i fynd i neu o apwyntiad prawf MOT a archebwyd ymlaen llaw neu apwyntiad profi arall.

Gallech wynebu erlyniad llys a dirwy o hyd at £2,500 os ydych yn ei ddefnyddio ar y ffordd am unrhyw reswm arall.