Sgrapio eich cerbyd a cherbydau sydd wedi’u diddymu gan gwmni yswiriant

Neidio i gynnwys y canllaw

Sut i sgrapio eich cerbyd

Pan fydd eich cerbyd wedi cyrraedd diwedd ei ddefnyddioldeb, rhaid ichi ei sgrapio mewn cyfleuster trin awdurdodedig (ATF). Gelwir y rhain weithiau yn iard sgrap neu iard dorri.

Mae yna broses wahanol os yw eich cwmni yswiriant wedi datgan bod eich cerbyd yn anadferadwy (wedi’i ddiddymu).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Sgrapio eich cerbyd heb gadw unrhyw rannau

  1. Gwneud cais i dynnu’r rhif cofrestru oddi ar y cerbyd os ydych am ei gadw.

  2. Sgrapio eich cerbyd mewn ATF. Mae hyn fel arfer am ddim.

  3. Rhoi llyfr log y cerbyd (V5C) i’r ATF, ond cadwch yr adran felen ‘gwerthu, trosglwyddo neu gyfnewid eich cerbyd yn rhannol i’r fasnach foduro’ ohono.

  4. Dweud wrth DVLA eich bod wedi mynd â’ch cerbyd i ATF.

Gallwch gael dirwy o £1,000 os na fyddwch yn dweud wrth DVLA.

Sgrapio eich cerbyd a chadw rhannau ohono

Gallwch gymryd rhannau o’ch cerbyd cyn ichi ei sgrapio fel y gallwch eu defnyddio i atgyweirio cerbyd arall.

  1. Dweud wrth DVLA bod y cerbyd oddi ar y ffordd tra’ch bod yn cymryd rhannau ohono. Rhaid ei gadw oddi ar y ffordd, er enghraifft mewn garej, ar lôn y tŷ neu ar dir preifat.

  2. Gwneud cais i dynnu’r rhif cofrestru oddi ar y cerbyd os ydych am ei gadw.

  3. Sgrapio eich cerbyd mewn ATF pan fyddwch wedi gorffen cymryd rhannau ohono. Gall yr ATF godi ffi os ydych chi wedi tynnu rhannau hanfodol, fel yr injan, blwch gêr, corff neu olwynion.

  4. Rhoi llyfr log y cerbyd (V5CW) i’r ATF, ond cadwch yr adran felen ‘gwerthu, trosglwyddo neu ran-gyfnewid’ ohono.

  5. Dweud wrth DVLA eich bod wedi mynd â’ch cerbyd i ATF.

Sgrapio cerbyd sydd wedi’i gofrestru dramor

Os oes gennych gerbyd sydd wedi’i gofrestru y tu allan i’r DU sydd wedi’i ddosbarthu fel ‘wedi’i ddifrodi’n ddifrifol’, ni fyddwch yn gallu ei gofrestru na’i drethu yn y DU. Mae difrod difrifol yn golygu nad oes modd atgyweirio’r cerbyd - gallai ddweud rhywbeth fel ‘cerbyd wedi’i ddiddymu’n statudol’ (‘statutory write-off’), ‘wedi’i sgrapio’ neu ‘anadferadwy’ ar y dystysgrif gofrestru.

Os yw’r cerbyd wedi’i ddifrodi, gwiriwch a yw ‘wedi’i ddifrodi’n ddifrifol’ gyda’r awdurdod cofrestru ar gyfer y wlad y mae’r cerbyd yn dod ohoni.

Os nad yw ‘wedi’i ddifrodi’n ddifrifol’, gofynnwch iddynt ddarparu tystiolaeth o hyn.

I’w sgrapio unwaith y bydd yn y DU, rhaid ichi ddefnyddio ATF.

Byddwch yn derbyn ‘Tystysgrif Dinistrio’ i brofi bod y cerbyd wedi cael ei ddinistrio.

Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth yr awdurdod gyrru yn y wlad lle mae’r cerbyd wedi’i gofrestru ei fod wedi cael ei sgrapio.