Sgrapio eich cerbyd a cherbydau sydd wedi’u diddymu gan gwmni yswiriant

Neidio i gynnwys y canllaw

Ble y gallwch chi sgrapio eich cerbyd

Dewch o hyd i gyfleuster trin awdurdodedig (ATF) ble y gellir sgrapio eich cerbyd.

Pan fydd gan yr ATF eich cerbyd, gallant benderfynu:

  • i’w sgrapio’n llwyr
  • i’w atgyweirio a’i werthu eu hunain

Mae’n anghyfreithlon i sgrapio’ch cerbyd yn unrhyw le arall.

Os yw eich cerbyd wedi cael ei sgrapio’n llwyr

Bydd yr ATF yn rhoi ‘tystysgrif dinistrio’ ichi o fewn 7 diwrnod os ydych wedi sgrapio:

  • car
  • fan ysgafn
  • cerbyd modur 3-olwyn (ond nid beic modur tair olwyn)

Ni fyddwch yn derbyn tystysgrif ar gyfer mathau eraill o gerbyd.

Mae’r dystysgrif yn brawf eich bod wedi trosglwyddo’r cerbyd i’w sgrapio. Os nad yw gennych chi, fe allech chi fod yn atebol o hyd am:

  • gosbau troseddau traffig
  • treth cerbyd

Cael eich talu am eich cerbyd sydd wedi cael ei sgrapio

Bydd yr ATF yn talu gwerth sgrap eich cerbyd ichi.

Mae’n anghyfreithlon i gael eich talu mewn arian parod os yw’ch cerbyd yn cael ei sgrapio yng Nghymru neu Loegr. Mae’n rhaid ichi gael eich talu trwy drosglwyddiad banc neu siec.

Os yw’r ATF yn atgyweirio ac yn gwerthu’ch cerbyd

Ni chewch dystysgrif dinistrio os bydd yr ATF yn penderfynu atgyweirio a gwerthu eich cerbyd.

Gallwch gael eich talu am eich cerbyd trwy unrhyw ddull, gan gynnwys arian parod.