Canllawiau

Cynhyrchu hylif a gel diheintio dwylo ar gyfer coronafeirws (COVID-19)

Newidiadau dros dro i’r defnydd a’r cyflenwad o alcohol wedi’i annatureiddio a gwirodydd di-doll, er mwyn helpu busnesau sy’n cynhyrchu hylif a gel diheintio dwylo.

This guidance was withdrawn on

This page has been withdrawn because it’s no longer current. You can read guidance on:

O 1 Ebrill 2022 ymlaen, bydd rhai o’r mesurau dros dro i helpu busnesau sy’n cynhyrchu hylif a gel diheintio dwylo yn dod yn fesurau parhaol. Bydd hwn yn berthnasol ar gyfer y canlynol yn unig:

Ni fydd unrhyw un o’r mesurau dros dro eraill ar gael ar ôl 1 Ebrill 2022.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gofynion o ran cynhyrchu, dosbarthu a defnyddio alcohol wedi’i annatureiddio (Hysbysiad Ecséis 473) ac o ran defnyddio gwirodydd di-doll at ddibenion meddygol neu wyddonol, neu weithgynhyrchu (Hysbysiad Ecséis 47).

Os ydych yn defnyddio’r mesurau dros dro hyn, mae’n rhaid i chi barhau i ddilyn y canlynol:

Bydd CThEM yn rhoi o leiaf 30 diwrnod o rybudd cyn tynnu’r mesurau dros dro hyn yn ôl.

Os ydych eisoes yn cynhyrchu hylif diheintio dwylo

Os ydych wedi’ch awdurdodi i ddefnyddio gwirod di-doll er mwyn cynhyrchu hylif diheintio dwylo ar gyfer ysbytai

Fe’ch awdurdodir yn awtomatig i gynhyrchu diheintydd ar gyfer cartrefi gofal.

Dileu terfynau ar alcohol wedi’i annatureiddio a gwirod di-doll a ddefnyddir wrth gynhyrchu hylif diheintio dwylo

Nid oes angen i chi wneud cais i gynyddu eich terfyn defnydd blynyddol os ydych eisoes wedi’ch awdurdodi i ddefnyddio alcohol diwydiannol wedi’i annatureiddio, alcohol wedi’i annatureiddio sy’n benodol i fasnach 1 neu wirod di-doll i gynhyrchu hylif diheintio dwylo at ddefnydd manwerthu neu ysbyty.

Os ydych wedi’ch awdurdodi i ddefnyddio alcohol wedi’i annatureiddio 6 neu 7 sy’n benodol i fasnach (TSDA 6 neu 7)

Gallwch gynhyrchu hylif diheintio dwylo os ydych eisoes wedi’ch awdurdodi i ddefnyddio alcohol wedi’i annatureiddio 6 neu 7 sy’n benodol i fasnach.

Os ydych yn dymuno cynhyrchu hylif diheintio dwylo

Os ydych yn dymuno cynhyrchu neu ddefnyddio alcohol wedi’i annatureiddio neu wirod di-doll er mwyn gwneud hylif diheintio dwylo, gallwch ddefnyddio’r canlynol:

  • alcohol diwydiannol wedi’i annatureiddio
  • alcohol wedi’i annatureiddio 1, 6 neu 7 sy’n benodol i fasnach
  • gwirod di-doll – ond dim ond os yw’r hylif diheintio dwylo wedi’i gynhyrchu er mwyn cyflenwi ysbytai a chartrefi gofal

Dylech wneud cais i CThEM yn y ffordd arferol, oni bai eich bod yn ddistyllwr trwyddedig neu’n gynhyrchwr gin.

Distyllwr trwyddedig neu gynhyrchwr gin

Os oes gennych ethanol y gohiriwyd tollau arno mewn warws ecséis, gallwch annatureiddio’r ethanol drwy naill ai:

Nid oes angen i chi roi gwybod i CThEM na chael cymeradwyaeth, ond mae’n rhaid i chi gadw cofnod o’r canlynol:

  • faint o ethanol sydd wedi’i annatureiddio
  • y dull a ddefnyddiwyd

Os ydych yn cyflenwi alcohol wedi’i annatureiddio sy’n benodol i fasnach neu wirod di-doll

Os ydych yn gyflenwr trwyddedig o alcohol wedi’i annatureiddio sy’n benodol i fasnach neu wirod di-doll, ac rydych yn ei gyflenwi ar gyfer gwneud hylif diheintio dwylo, nid oes angen i chi gyfyngu’r cyfaint a gyflenwir. Ond dylech barhau i wneud y canlynol:

  • archwilio awdurdodiadau
  • cofnodi manylion y cyflenwadau a wnaed

Cyhoeddwyd ar 23 March 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 January 2022 + show all updates
  1. From 1 April 2022, temporary measures to help businesses who produce hand sanitiser and gel will be changing.

  2. Added translation

  3. Information has been updated about requirements that must be followed if using the temporary measures to make hand sanitiser products.

  4. Information for contacting HMRC to ask an update about the progress of an application to use duty-free spirits and denatured alcohol for hand sanitiser has been added.

  5. A Welsh translation has been added.

  6. Information has been updated about requirements that must be followed to make sure sanitiser products are safe to use.

  7. If you produce hand sanitiser products, you must ensure it is safe to use and that all other regulatory requirements have been met, before supplying it to the public.

  8. First published.