Canllawiau

Cynllun Iechyd Dofednod: aelodaeth a ffioedd

Sut gall cynhyrchwyr dofednod ymuno â'r Cynllun Iechyd Dofednod a thalu ffioedd amdano, a sut i dalu ffioedd i ddod yn un o'r labordai a gymeradwywyd gan y cynllun.

Applies to England, Scotland and Wales

Pwy ddylai ymuno

Rhaid i chi fod yn aelod o’r Cynllun Iechyd Dofednod os byddwch am wneud y canlynol:

Mae aelodau o’r Cynllun Iechyd Dofednod yn sefydliadau dofednod cymeradwy.

Allforio i wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE

Edrychwch ar eich tystysgrif iechyd allforio (EHC) er mwyn allforio i wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE. Rhaid i chi fod yn aelod os yw’r EHC yn nodi bod yn rhaid i’ch safle fod yn rhan o Gynllun Iechyd Dofednod wedi’i oruchwylio gan y llywodraeth.

Rhaid i chi gydymffurfio â’r rheolau a nodir yn y berthnasol dystysgrif iechyd allforio.

Sut i ymuno â’r Cynllun Iechyd Dofednod

Gallwch ymuno â’r cynllun fel cynhyrchwr dofednod unigol neu fel cwmni dofednod. Rhaid bod gennych gyfeiriad busnes cofrestredig.

Os oes gennych sawl safle dofednod, rhaid i chi ymuno â’r cynllun ar gyfer pob un.

Ceir categorïau aelodaeth gwahanol, yn dibynnu ar eich math o fusnes, sef:

  • haid
  • deorfa
  • haid a deorfa gyfunol

Cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i ymuno â’r Cynllun Iechyd Dofednod.

Tîm y Cynllun Iechyd Dofednod
Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid – One Health,
Level 1 County Hall
Spetchley Road
Worcester
WR5 2NP

Rhif ffôn: 03000 200 301
E-bost: CSCOneHealthPHS@apha.gov.uk

Llawlyfr y Cynllun Iechyd Dofednod

Darllenwch y Poultry Health Scheme members handbook (PDF, 454 KB, 47 pages).

Ar ôl i chi wneud cais

Bydd tîm y Cynllun Iechyd Dofednod yn cysylltu â chi i drefnu bod milfeddyg APHA yn archwilio eich safle.

Bydd angen i chi dalu’r ffi aelodaeth flynyddol a’r ffi archwilio milfeddygol os bydd milfeddyg APHA yn cymeradwyo eich safle a’ch dulliau gweithio.

Bydd APHA yn eich ychwanegu at restr sefydliadau dofednod cymeradwy y Cynllun Iechyd Dofednod unwaith y byddwch yn aelod. Bydd milfeddyg swyddogol yn cyfeirio at y rhestr hon wrth gwblhau’r dystysgrif iechyd allforio.

Adnewyddu eich aelodaeth

Mae aelodaeth yn para blwyddyn. Gallwch adnewyddu eich aelodaeth bob blwyddyn.

Bydd yr archwiliad cyntaf yn cael ei wneud gan filfeddyg APHA, ond ar ôl hynny, gall un o filfeddygon APHA neu filfeddyg preifat sydd wedi cael hyfforddiant addas gynnal archwiliadau adnewyddu.

Ffioedd i gymeradwyo ac ymuno â’r Cynllun Iechyd Dofednod

Rhaid i chi dalu:

  • ffi aelodaeth flynyddol sefydlog

  • ffi ar gyfer archwiliadau cymeradwyo neu adnewyddu

  • ffi amrywiol i dalu am yr archwiliad ac amser teithio os cewch eich archwilio gan filfeddyg APHA

Bydd rhai ffioedd yn cynyddu ar 1 Gorffennaf 2024.

Sut mae APHA yn codi tâl am yr amser a dreulir

Rhaid i chi dalu £22 fesul chwarter awr neu lai ar gyfer yr amser y mae APHA yn ei dreulio yn archwilio eich safle.

Mae APHA yn cyfrifo eich ffioedd archwilio a theithio i’r chwarter awr llawn nesaf o waith. Er enghraifft, os bydd APHA yn treulio 20 munud ar eich archwiliad, byddwch yn talu am hanner awr.

Rhoddir terfyn amser teithio o 45 munud bob ffordd, felly ni fydd rhaid i chi dalu mwy na £132 am gostau teithio.

Ffioedd

Gwasaneth Ffioedd o 1 Gorffennaf 2023 Ffioedd o 1 Gorffennaf 2024
Amser swyddog milfeddygol i drwyddedu neu gymeradwyo £22 £22
Amser teithio swyddog milfeddygol £22 £22
Ffi aelodaeth flynyddol £82 £108
Cymeradwyaeth blwyddyn gyntaf haid a deorfa gyfunol aelod o’r cynllun ar un safle, lle cynhelir yr archwiliad gan un o filfeddygon APHA £49 £71
Adnewyddiad blynyddol haid neu ddeorfa neu haid a deorfa gyfunol aelod o’r cynllun ar un safle, lle cynhelir yr archwiliad gan filfeddyg nad yw’n un o filfeddygon APHA £61 £67
Adnewyddiad blynyddol haid neu ddeorfa neu haid a deorfa gyfunol aelod o’r cynllun, ar safle ychwanegol, lle cynhelir yr archwiliad gan filfeddyg nad yw’n un o filfeddygon APHA £34 £39
Adnewyddiad blynyddol haid neu ddeorfa neu haid a deorfa gyfunol aelod o’r cynllun ar un safle, lle cynhelir yr archwiliad gan un o filfeddygon APHA £62 £67
Adnewyddiad blynyddol haid a deorfa gyfunol aelod o’r cynllun, ar safle ychwanegol, lle cynhelir yr archwiliad gan un o filfeddygon APHA £35 £39

Ffioedd i weithredwyr labordy gael cymeradwyaeth

Rhaid i weithredwyr labordy dalu ffioedd i wneud cais am gymeradwyaeth i gynnal profion ar gyfer y Cynllun Iechyd Dofednod. Rhaid i chi dalu am adnewyddiad bob 2 flynedd. Mae APHA yn cymeradwyo labordai i gynnal profion fel rhan o’r Cynllun Iechyd Dofednod.

Rhaid i labordai cymeradwy hefyd dalu ffioedd i gyflawni profion medrusrwydd.

Gweler rhestr o labordai cymeradwy y Cynllun Iechyd Dofednod.

Gwasanaeth Ffioedd o 1 Gorffennaf 2023
Cais am gymeradwyaeth labordy gychwynnol neu adnewyddiad £86
Prawf medrusrwydd mewn perthynas â bacterioleg Salmonela (pwlorwm, galinarwm ac arisonae) £158 fesul prawf
Prawf medrusrwydd mewn perthynas â seroleg Salmonela (pwlorwm, galinarwm) £310 fesul prawf
Prawf medrusrwydd mewn perthynas â seroleg ieir Mycoplasma (galisepticwm) £310 fesul prawf
Prawf medrusrwydd mewn perthynas â meithriniadau Mycoplasma (galisepticwm a meleagridis) £280 fesul prawf
Prawf medrusrwydd mewn perthynas â seroleg tyrcwn Mycoplasma (galisepticwm a meleagridis) £310 fesul prawf

Gadael y Cynllun Iechyd Dofednod

Gallwch adael y cynllun unrhyw bryd, ond ni chaiff eich ffioedd cymeradwyo na’ch ffioedd aelodaeth eu had-dalu.

Cyhoeddwyd ar 3 July 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 September 2023 + show all updates
  1. Updated the table under 'Fees for approval and to join the PHS'.

  2. In Wales, there are new fees for PHS services from 5 July 2023. Some fees will increase again on 1 July 2024.

  3. In England and Scotland, there are new fees for the Poultry Health Scheme from 1 July 2023. Some fees will increase again on 1 July 2024.

  4. Requirements for export health certificates have changed and PHS handbook has been updated.

  5. Updated scheme contact details

  6. Update to Fees

  7. AHVLA documents have been re-assigned to the new Animal and Plant Health Agency (APHA).

  8. Updated contact details for queries and correspondence about the Poultry Health Scheme

  9. First published.