Canllawiau

Talu trethi, cosbau neu setliadau ymholiadau

Sut i dalu trethi, cosbau a setliadau ymholiadau os na allwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau mewn canllawiau ‘talu CThEM’ eraill, neu os yw’ch cyfeirnod talu’n dechrau gydag X.

Trosolwg

Defnyddiwch y canllaw hwn dim ond os ydych am dalu trethi, cosbau neu setliadau ymholiadau i CThEM ac:

Mae arweiniad gwahanol ar gael os oes angen i chi dalu cosb Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau (yn Saesneg).

Efallai y bydd oedi gyda’ch taliad os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Talu nawr

Talu ar-lein drwy Ddebyd Uniongyrchol

Os ydych wedi cofrestru i ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM, gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol ar-lein er mwyn i ni gasglu’ch taliad.

Dylech sefydlu’r Debyd Uniongyrchol o leiaf bum niwrnod gwaith cyn y dyddiad rydych am i’ch taliad gael ei gasglu.

Dim ond os ydych wedi cofrestru ar gyfer un neu fwy o’r gwasanaethau canlynol y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn:

  • Hunanasesiad ar-lein
  • TWE i gyflogwyr
  • Treth Gorfforaeth ar-lein
  • CIS ar-lein
  • Toll Peiriannau Hapchwarae ar-lein

Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu’n uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad trethi, cosbau neu setliadau ymholiadau. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol i gymeradwyo’ch taliad.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at ddwy awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Talu ar-lein â chyfleuster bancio dros y ffôn, CHAPS neu Bacs

Gallwch dalu drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs i gyfrif CThEM gan ddefnyddio’r manylion hyn os na allwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i wneud eich taliad mewn canllawiau ‘talu CThEM’ eraill (yn Saesneg):

Cod didoli Rhif y cyfrif Enw’r cyfrif
08 32 10 12001020 HMRC Shipley

Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch sy’n 14 neu’n 15 cymeriad o hyd. Mae’n dechrau gydag X ac mae ar eich slip talu.

Efallai y bydd oedi gyda’ch taliad os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Taliadau:

  • Fel arfer, mae Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEM ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc
  • Fel arfer, mae CHAPS yn cyrraedd CThEM ar yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc
  • Fel arfer, mae Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith

Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd ar-lein

Gallwch dalu ar-lein.

Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol.

Nid oes ffi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch sy’n 14 neu’n 15 cymeriad o hyd. Mae’n dechrau gydag X ac mae ar eich slip talu.

Efallai y bydd oedi gyda’ch taliad os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Os na allwch wneud taliad llawn â cherdyn credyd neu gerdyn debyd, bydd yn rhaid i chi dalu gan ddefnyddio dull gwahanol.

Bydd CThEM yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, nid y dyddiad y bydd yn cyrraedd cyfrif CThEM (gan gynnwys gwyliau banc a phenwythnosau).

Gwneud taliad â cherdyn – cael eich manylion yn gywir

Yn ddiweddar, rydym wedi gwneud rhai newidiadau fel rhan o ymrwymiad CThEM i sicrhau diogelwch taliadau ar-lein. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion yr ydych yn eu nodi’n gywir ac yn cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn, er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio fod yr un peth â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Slipiau talu

Fel arfer, cewch ‘Hysbysiad i Dalu’ oddi wrth CThEM gyda slip talu ynghlwm wrtho er mwyn gwneud taliad, ond efallai y bydd adegau pan na fydd gennych un. Er enghraifft, os ydych wedi cytuno ar daliad gyda CThEM dros y ffôn.

Mae’n rhaid i chi fod â slip talu er mwyn talu yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu.

Cyfeirnod y taliad

Os nad oes gennych slip talu, dylech ddal i fod â chyfeirnod talu oddi wrth CThEM sy’n 14 neu’n 15 o gymeriadau ac sy’n dechrau gydag X. Bydd angen hwn arnoch wrth wneud taliad.

Peidiwch â defnyddio’r canllaw hwn os nad yw’ch cyfeirnod talu’n dechrau gydag X, gwiriwch ganllawiau ‘talu CThEM’ eraill (yn Saesneg) i gael gwybod sut i dalu.

Cysylltwch â CThEM os ydych yn ansicr am eich cyfeirnod talu.

Faint o amser i’w ganiatáu er mwyn i daliadau gyrraedd CThEM

Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu CThEM erbyn y dyddiad cau a ddangosir ar eich ‘Hysbysiad i Dalu’ neu mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.

Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu er mwyn i’ch taliad gyrraedd CThEM yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Dull talu Amser i’w ganiatáu
Debyd Uniongyrchol 5 niwrnod gwaith
Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Bancio ar-lein neu dros y ffôn (Taliadau Cyflymach) Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Bacs 3 diwrnod gwaith
CHAPS Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Ar-lein â cherdyn debyd neu gerdyn credyd Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Siec drwy’r post 3 diwrnod gwaith

Talu o dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol er mwyn talu o gyfrif tramor:

Rhif y cyfrif (IBAN) Cod Adnabod y Banc (BIC) Enw’r cyfrif
GB03 BARC 2011 4783 9776 92 BARCGB22 HMRC Shipley

Defnyddiwch y cyfeiriad canlynol os oes angen i chi roi cyfeiriad bancio CThEM i’ch banc:

Barclays Bank plc
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

Talu yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch dalu ag arian parod neu siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EM yn unig’. Dylech ysgrifennu’ch cyfeirnod talu, sy’n 14 neu’n 15 o gymeriadau, ar gefn y siec. Bydd y cyfeirnod talu i’w weld ar y slip talu sydd ynghlwm wrth eich ‘Hysbysiad i Dalu’.

Efallai y bydd oedi gyda’ch taliad os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Os byddwch yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener, bydd CThEM yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y bydd yn cyrraedd ein cyfrif.

Talu â siec drwy’r post

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EM yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod talu, sy’n 14 neu’n 15 o gymeriadau, ar gefn y siec. Bydd y cyfeirnod talu i’w weld ar y slip talu sydd ynghlwm wrth eich ‘Hysbysiad i Dalu’.

Os nad oes gennych slip talu, rhowch y manylion canlynol:

  • eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
  • eich cyfeirnod talu sy’n dechrau gydag X
  • y cyfnod rydych yn talu amdano
  • y swm yr ydych yn ei dalu

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • plygu’r slip talu na’r siec
  • glynu dogfennau wrth ei gilydd

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEM ac anfonwch eich taliad i:

HMRC
Direct
BX5 5BD

Gallwch gynnwys cais am dderbynneb gyda’ch taliad.

Cyhoeddwyd ar 5 November 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 January 2023 + show all updates
  1. A link to the payment method for Trust Registration Service penalty charges has been added.

  2. Guidance about approving a payment through your online bank account has been added.

  3. Information about a non-refundable fee for corporate debit cards being introduced from 1 November 2020 has been added.

  4. Welsh translation had been added.

  5. References to National Minimum wage penalties removed.

  6. Information about National Minimum Wage penalties or enquiry settlements has been added.

  7. Guide updated to show payments can't be made with a personal credit card.

  8. Payments can no longer be made at a Post Office.

  9. Section ‘Pay online with a debit or credit card’ has been updated with information about payments by personal credit card from 13 January 2018.

  10. Information about payments at a Post Office from December 2017 has been added to the guide.

  11. Postal address for cheque payments has been updated.

  12. Credit card fees have changed.

  13. Notification that from 1 January 2016 changes will be introduced to limit the number of credit and debit card payments that can be made to any single tax regime within a given period.

  14. The online debit or credit card non-refundable fee has been increased to 1.5%.

  15. HMRC have launched a new payment service - you may be directed to WorldPay if you pay online by debit or credit card. The new service uses a different service provider to BillPay.

  16. You can pay tax, penalties and enquiry settlements (which are not covered in other HM Revenue and Customs (HMRC) guidance) to HMRC at the Post Office (subject to a maximum of £10,000).

  17. First published.