Canllawiau

Rheoli manylion eich ymddiriedolaeth

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i ddiweddaru manylion eich ymddiriedolaeth, i ddatgan nad oes newidiadau, i awdurdodi asiant, i gael tystiolaeth o gofrestru neu i gau ymddiriedolaeth ar gofrestr yr ymddiriedolaeth.

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i wneud y canlynol:

  • diweddaru a diwygio’r manylion a gedwir am yr ymddiriedolaeth
  • datgan bod y manylion a gedwir yn yr ymddiriedolaeth yn gyfredol — ar gyfer ymddiriedolaethau sydd â rhwymedigaethau treth
  • cau ymddiriedolaeth
  • cael tystiolaeth o gofrestriad

Gwirio’r dyddiad y gwnaethoch gofrestru ymddiriedolaeth

Os gwnaethoch gofrestru ymddiriedolaeth cyn 4 Mai 2021

Y tro cyntaf y byddwch yn cael mynediad at y gwasanaeth, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i ni os yw’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ddatganedig ai peidio
  • datgan bod yr ymddiriedolaeth yn talu treth, neu wedi gwneud hynny

Ar ôl i chi roi’r wybodaeth i ni, bydd angen i chi allgofnodi o’r gwasanaeth cyn y gallwch ddiweddaru unrhyw wybodaeth ychwanegol am yr ymddiriedolaeth.

Wrth wneud newidiadau i fanylion yr ymddiriedolaeth, bydd angen i chi gadarnhau:

  • a oes gan ymddiriedolaeth nad yw yn y DU berthynas fusnes yn y DU
  • a yw’r ymddiriedolaeth wedi prynu unrhyw dir neu eiddo yn y DU
  • mae gan yr ymddiriedolaeth cyfran reolaethol mewn cwmni y tu allan i’r UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir

Bydd yr wybodaeth hon yn rhan o’r broses gofrestru arferol ar gyfer pob ymddiriedolaeth a gofrestrir ar ôl 4 Mai 2021.

Os gwnaethoch gofrestru ymddiriedolaeth cyn 17 Hydref 2022

Pan fyddwch yn dod yn ôl i’r gwasanaeth, bydd angen i chi roi gwybod a yw’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth Atodlen 3A. Cyfeirir at ymddiriedolaethau Atodlen 3A hefyd fel ‘ymddiriedolaethau datganedig eithriedig’.

Mae’ch ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth Atodlen 3A os yw’n unrhyw un o’r canlynol:

  • ymddiriedolaeth statudol yn unol â gorchymyn llys neu’r gyfraith — er enghraifft, ymddiriedolaeth a grëwyd gan lys pan nad yw cwpl yn gallu cytuno ar sut i rannu asedion yn ystod ysgariad
  • ymddiriedolaeth sy’n cael ei defnyddio i ddal arian neu asedion cynllun pensiwn cofrestredig yn y DU — megis cynllun pensiwn galwedigaethol
  • ymddiriedolaeth sy’n dal polisïau yswiriant bywyd sydd ond yn talu os oes marwolaeth, salwch neu anabledd
  • yn ymddiriedolaeth ar gyfer elusen sydd wedi’i chofrestru yn y DU (neu’n elusen nad oes gofyn iddi gofrestru â’r Comisiwn Elusennau o dan Ddeddf Elusennau 2011)
  • ymddiriedolaeth a sefydlwyd i agor cyfrif banc ar gyfer plentyn
  • ymddiriedolaeth a sefydlwyd ar adeg farwolaeth sy’n mynd ag asedion o’r ystâd ac sy’n cael ei chau cyn pen dwy flynedd i’r farwolaeth (a elwir hefyd yn ‘ymddiriedolaeth drwy ewyllys’)
  • ymddiriedolaeth sy’n dal llai na £100, a oedd wedi’i sefydlu cyn 6 Hydref 2020 (a elwir hefyd yn ‘ymddiriedolaeth beilot’)
  • ymddiriedolaeth gydberchnogol a sefydlwyd i ddal cyfrannau o eiddo neu asedion eraill a berchenogir ar y cyd gan 2 neu fwy o bobl fel ‘tenantiaid cydradd’
  • ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â marchnadoedd ariannol — gan gynnwys y rheiny a grëwyd drwy drefniadau rhagosodedig system ddynodedig neu reolau rhagosodedig corff cydnabyddedig
  • ymddiriedolaethau sy’n cael eu creu i ddal arian ar gyfer pobl ar wahân i’r ymddiriedolwr — neu’r rhai sy’n ymwneud â gwasanaethau proffesiynol
  • ymddiriedolaeth sy’n dal arian, gwarantau ac asedion eraill ar ran cleient — mae’n rhaid i hyn fod yn gysylltiedig â’r gwaith o gynnal y busnes gan berson perthnasol a oruchwylir
  • ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â marchnadoedd cyfalaf ac eitemau tebyg
  • ymddiriedolaeth a grëwyd i alluogi trafodion masnachol
  • ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â chofrestru asedion — er enghraifft, ymddiriedolaethau a grëwyd i ddal teitl cyfreithiol ased ar gyfer y person y mae’r trosglwyddiad neu’r gwarediad yn cael ei wneud drosto
  • ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â gofynion deddfwriaethol — er enghraifft, ymddiriedolaethau a sefydlwyd i ddal eiddo, arian o iawndal ar gyfer anaf personol neu a gafodd ei sefydlu ar gyfer buddiolwr sy’n agored i niwed fel person anabl
  • ymddiriedolaeth a sefydlwyd gan y llywodraeth neu awdurdod cyhoeddus arall yn y DU

Bydd hyn yn rhan o’r broses gofrestru ar gyfer pob ymddiriedolaeth a gofrestrir ar ôl 17 Hydref 2022.

Diweddaru manylion eich ymddiriedolaeth

Mae angen cadw’r wybodaeth ar gyfer y categorïau canlynol yn gyfredol, a rhaid cwblhau unrhyw newidiadau cyn pen 90 diwrnod. Mae’r newidiadau y gallwch eu gwneud yn cynnwys ychwanegu, diwygio neu ddileu manylion.

Bydd angen i chi ddiweddaru’r holl newidiadau i fanylion yr ymddiriedolaeth cyn i chi eu cyflwyno. Ni allwch gadw manylion sydd wedi’u cwblhau’n rhannol a dychwelyd atynt yn nes ymlaen, felly gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau arni.

Prif ymddiriedolwr

Gallwch ddiweddaru’r canlynol:

  • enw
  • dyddiad geni
  • rhif Yswiriant Gwladol a chyfeiriad (os ydyw’n ddinesydd y DU)
  • manylion pasbort a chyfeiriad (os nad ydyw’n ddinesydd y DU)
  • rhif ffôn y person hwnnw
  • gwlad breswyl
  • gwlad cenedligrwydd

Os yw’r prif ymddiriedolwr yn sefydliad, gallwch ddiweddaru’r canlynol:

  • enw’r sefydliad
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) y sefydliad
  • cyfeiriad
  • rhif ffôn y person hwnnw
  • cyfeiriad e-bost
  • gwlad breswyl

Ymddiriedolwyr eraill

Gallwch ddiweddaru’r canlynol:

  • enw
  • dyddiad geni
  • gwlad breswyl
  • gwlad cenedligrwydd
  • galluedd meddyliol ar yr adeg gofrestru
  • rhif Yswiriant Gwladol (os ydyw’n ddinesydd y DU)
  • cyfeiriad
  • manylion pasbort a chyfeiriad (os nad ydyw’n ddinesydd y DU)

Ar gyfer pob sefydliad arall sy’n ymwneud â’r ymddiriedolaeth, gallwch ddiweddaru’r canlynol:

  • enw’r sefydliad
  • cyfeiriad
  • gwlad breswyl

Buddiolwyr

Gallwch ddiweddaru’r canlynol:

  • unigolyn
  • cwmni
  • ymddiriedolaeth
  • elusen
  • mawr
  • arall
  • anhysbys (dosbarth)

Setlwr

Gallwch ddiweddaru’r canlynol:

  • enw
  • cyfeiriad
  • dyddiad geni
  • dyddiad marwolaeth
  • gwlad breswyl hysbys ddiwethaf (dim setlwyr sydd wedi marw)
  • gwlad hysbys ddiwethaf o ran cenedligrwydd (dim setlwyr sydd wedi marw)

Os ydynt ar gael, bydd angen y manylion canlynol arnoch o ran y setlwr:

  • rhif Yswiriant Gwladol (os ydyw’n ddinesydd y DU)
  • manylion pasbort a chyfeiriad (os nad ydyw’n ddinesydd y DU)

Amddiffynyddion neu unigolion eraill, os yw’n briodol

Gallwch ddiweddaru’r canlynol:

  • enw
  • dyddiad geni
  • rhif Yswiriant Gwladol a chyfeiriad (os ydyw’n ddinesydd y DU)
  • manylion pasbort a chyfeiriad (os nad ydyw’n ddinesydd y DU)
  • gwlad breswyl
  • gwlad cenedligrwydd

Os yw’r prif ymddiriedolwr yn sefydliad, gallwch ddiweddaru’r canlynol:

  • enw’r sefydliad
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer y sefydliad
  • cyfeiriad
  • rhif ffôn y person hwnnw
  • cyfeiriad e-bost

Os byddwch yn dileu’r holl ymddiriedolwyr, setlwyr, buddiolwyr a enwir neu bob dosbarth o fuddiolwyr, bydd yr ymddiriedolaeth yn cael ei thrin fel un sydd ar gau ac mae’n bosibl na fyddwch yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth yn nes ymlaen. Os oes rhywun yn cymryd y swyddogaethau hyn, dylech aros nes bod gennych ei fanylion cyn cael gwared ar yr holl wybodaeth flaenorol fel y gallwch gael mynediad at y gwasanaeth o hyd.

Manylion na allwch eu diweddaru gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Bydd angen i chi gysylltu â ni er mwyn:

  • newid dyddiad dechrau’r ymddiriedolaeth
  • newid enw’r ymddiriedolaeth
  • dileu setlwr

Asedion

Ni allwch newid manylion asedion drwy’r Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau. Os oes angen i chi diweddaru manylion asedion ar ôl gwneud datganiad, bydd yn rhaid i chi ddefnyddio un o’r canlynol:

  • Hunanasesiad ar-lein
  • Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystâd (ffurflen SA900)

Prif ymddiriedolwr yn cael mynediad at yr ymddiriedolaeth

Os mai chi yw’r ymddiriedolwr a’ch bod wedi cofrestru’r ymddiriedolaeth, bydd angen i chi ateb cwestiynau diogelwch, am y bobl sy’n gysylltiedig â’r ymddiriedolaeth, cyn y gallwch fwrw golwg dros neu ddiwygio’r manylion ar y gofrestr. Mae’n rhaid i’r atebion a rowch gyfateb i’r wybodaeth a nodwyd wrth gofrestru, neu pan ddiweddarwyd manylion yr ymddiriedolaeth ddiwethaf.

Er mwyn cael mynediad at yr ymddiriedolaeth, mae angen i chi ddefnyddio’r un manylion a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru’r ymddiriedolaeth.

Datgan bod yr ymddiriedolaeth yn gyfredol

Os yw’r ymddiriedolaeth yn agored i dreth am unrhyw flwyddyn dreth, mae’n rhaid i chi ddatgan ar gofrestr yr ymddiriedolaeth bod manylion y bobl sy’n gysylltiedig â’r ymddiriedolaeth yn gywir ac yn gyfredol. Mae’n rhaid i chi wneud hyn p’un a ydych wedi gwneud unrhyw newidiadau ai peidio.

Os yw’r ymddiriedolaeth yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf, bydd angen i chi hefyd gadarnhau ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad yr ymddiriedolaeth SA900 (yn Saesneg) eich bod naill ai:

  • wedi diweddaru’r manylion ar gofrestr yr ymddiriedolaeth
  • wedi cadarnhau nad oes unrhyw newidiadau wedi bod i’r ymddiriedolaeth

Os nad yw’r ymddiriedolaeth yn agored i dreth, does dim angen datganiad blynyddol arnom.

Cau ymddiriedolaeth

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i ddiweddaru cofrestr yr ymddiriedolaeth a ‘chau’ yr ymddiriedolaeth os ydych wedi ei chofrestru i gydymffurfio â rheoliadau gwrth-wyngalchu arian.

Bydd angen i chi gadarnhau bod y manylion ar gofrestr yr ymddiriedolaeth wedi’u diweddaru a rhoi gwybod i ni beth yw’r dyddiad y daeth yr ymddiriedolaeth i ben. Peidiwch ag ysgrifennu at CThEF i roi gwybod i ni fod yr ymddiriedolaeth wedi dod i ben.

Dylech ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i ddiweddaru cofrestr yr ymddiriedolaethau a ‘chau’ yr ymddiriedolaeth os ydych wedi ei chofrestru dim ond i gael cyfeirnod unigryw y trethdalwr i lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer yr ymddiriedolaeth.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn y daeth yr ymddiriedolaeth i ben.

Newid yr ymddiriedolaeth o fod yn un nad yw’n drethadwy i fod yn un sydd yn drethadwy

Mae’n rhaid i chi ein hysbysu os cafodd yr ymddiriedolaeth ei chofrestru i ddechrau fel ymddiriedolaeth na ellir ei threthu ac wedi cael cyfeirnod unigryw ac ers hynny mae wedi dod yn drethadwy ac mae angen Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr. Gofynnir i chi am wybodaeth ychwanegol.

Bydd yn rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:

  • y math o ymddiriedolaeth
  • manylion ynghylch sut y cafodd ei sefydlu

Ar ôl i’r newid gael ei wneud, byddwn yn anfon cyfeirnod unigryw y trethdalwr at y prif ymddiriedolwr, fel arfer cyn pen 15 diwrnod gwaith. Bydd hyn yn disodli’r cyfeirnod unigryw y trethdalwr a roddwyd i chi pan gofrestrwyd yr ymddiriedolaeth fel un nad yw’n drethadwy.

Dylech wirio’r hyn y bydd ei angen arnoch ar gyfer pob math o ymddiriedolaeth.

Setlwyr sydd wedi marw

Mae hyn yn berthnasol i ‘ymddiriedolaethau ewyllys’ yn unig. Bydd angen y canlynol arnoch:

  • ei rif Yswiriant Gwladol (os yw’n ddinesydd y DU)
  • cyfeiriad
  • manylion pasbort a chyfeiriad (os nad yw’n ddinesydd y DU)

Unigolion a sefydliadau eraill

Mae’n rhaid i chi hefyd roi un o’r canlynol:

  • ei rif Yswiriant Gwladol (os yw’n ddinesydd y DU)
  • cyfeiriad
  • manylion pasbort a chyfeiriad (os nad yw’n ddinesydd y DU)

Cyfranddaliadau

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw’r cwmni y mae’r cyfranddaliadau ynddo
  • nifer y cyfranddaliadau
  • dosbarth a math o gyfranddaliadau
  • amcangyfrif o werth y cyfranddaliadau pan fyddwch yn cofrestru’r ymddiriedolaeth

Partneriaeth

Bydd angen disgrifiad o’r bartneriaeth a’r dyddiad dechrau arnoch.

Busnes

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw’r busnes
  • disgrifiad o’r busnes
  • cyfeiriad y busnes
  • amcangyfrif o werth y busnes pan fyddwch yn cofrestru’r ymddiriedolaeth

Eiddo a thir

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeiriad, enw neu ddisgrifiad o’r eiddo neu’r tir
  • amcangyfrif o werth llawn yr eiddo neu’r tir ar adeg cofrestru’r ymddiriedolaeth
  • amcangyfrif o werth y gyfran o dir neu eiddo a ddelir gan ymddiriedolaeth os nad yw’n berchen ar y cyfan

Arian

Bydd angen cyfanswm yr arian yn yr ymddiriedolaeth arnoch.

Asedion eraill (megis ceir, gemwaith neu gelf)

Bydd angen disgrifiad o’r ased a gwerth yr ased arnoch pan fyddwch yn cofrestru’r ymddiriedolaeth.

Ar ôl i’r newid gael ei wneud, byddwn yn anfon cyfeirnod unigryw y trethdalwr at y prif ymddiriedolwr, fel arfer cyn pen 15 diwrnod gwaith. Bydd hyn yn disodli’r cyfeirnod unigryw y trethdalwr a roddwyd i chi pan gofrestrwyd yr ymddiriedolaeth fel un nad yw’n drethadwy.

Cael tystiolaeth o gofrestriad

Os oes angen tystiolaeth o gofrestru arnoch ar gyfer trydydd parti neu berson perthnasol, gallwch lawrlwytho dogfen PDF ‘tystiolaeth o gofrestru’ yn y gwasanaeth drwy ddewis ‘Get evidence of the trust’s registration’.

Bydd y dystiolaeth o gofrestru yn dangos cofrestriad yr ymddiriedolaeth a’r holl berchnogion llesiannol a restrir ynddo — gan gynnwys buddiolwyr, ymddiriedolwyr a setlwyr.

Bydd angen i chi roi copi o’r ddogfen PDF tystiolaeth o gofrestru i’r person perthnasol cyn iddo ymrwymo i berthynas fusnes gyda’ch ymddiriedolaeth.

Gwiriwch pwy all fod yn berson perthnasol, a beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn darparu dogfen tystiolaeth o gofrestru iddo, yn yr arweiniad ar roi gwybod i CThEF am anghysondeb o ran ymddiriedolaeth (yn Saesneg).

Dyddiadau cau

Ymddiriedolaethau nad ydynt yn drethadwy

Mae’n rhaid rhoi gwybod i CThEF am bob newid cyn pen 90 diwrnod ar ôl iddynt ddigwydd.

Ymddiriedolaethau trethadwy

Os yw’r ymddiriedolaeth yn drethadwy, mae’n rhaid i chi ddatgan ei bod yn gyfredol, bob blwyddyn, erbyn 31 Ionawr.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF cyn pen 90 diwrnod am newidiadau i’r canlynol:

  • enw
  • dyddiad geni
  • gwlad breswyl
  • gwlad cenedligrwydd

Os byddwch yn methu â chadw’r gofrestr yn gyfredol, a hynny’n fwriadol, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb o £5,000 (yn Saesneg).

Hawlio ymddiriedolaeth ac awdurdodi asiant i gael mynediad at yr ymddiriedolaeth

Ymddiriedolwyr

Os ydych am i asiant fwrw golwg dros neu wneud newidiadau i fanylion cofrestru’r ymddiriedolaeth, bydd angen i chi awdurdodi’r asiant i reoli manylion yr ymddiriedolaeth ar eich rhan.

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth ar gyfer Sefydliad arnoch i bob ymddiriedolaeth rydych am gael mynediad ati, neu rydych am i asiant gael mynediad at ei manylion. Defnyddiwch y botwm gwyrdd ‘dechrau nawr’ i fewngofnodi, neu i greu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair os nad oes gennych un.

Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, bydd angen i chi gadarnhau bod yr ymddiriedolaeth wedi’i chofrestru ar-lein a nodi cyfeirnod unigryw y trethdalwr, neu gyfeirnod unigryw, yr ymddiriedolaeth.

Os na wnaethoch gofrestru’r ymddiriedolaeth, bydd angen i chi hefyd ateb rhai cwestiynau am y bobl sy’n gysylltiedig â’r ymddiriedolaeth er mwyn ei hawlio a’i chysylltu â’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth.

Mae’n rhaid i’r atebion a rowch gyfateb i’r wybodaeth a nodwyd wrth gofrestru’r ymddiriedolaeth neu pan ddiweddarwyd manylion yr ymddiriedolaeth ddiwethaf.

Rhowch wybod i’ch asiant pan fyddwch wedi hawlio’r ymddiriedolaeth yn llwyddiannus. Bydd eich asiant wedyn yn mewngofnodi i’w gyfrif ar-lein ac yn creu cysylltiad awdurdodi cais y bydd yn ei e-bostio atoch.

Dewiswch y cysylltiad a mewngofnodi gyda’r un Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth ar gyfer Sefydliad a ddefnyddiwyd gennych i hawlio’r ymddiriedolaeth.

Yna, gallwch awdurdodi’ch asiant.

Asiantau

Mae’n rhaid i chi gael eich awdurdodi gan eich cleient cyn y gallwch fwrw golwg dros neu newid manylion yr ymddiriedolaeth.

Bydd yn rhaid:

  • gofyn i’ch cleient greu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth ar gyfer Sefydliad i bob ymddiriedolaeth yr ydych am gael mynediad ati, os nad oes ganddo’r rhain eisoes
  • rhoi gwybod i’ch cleient fod yn rhaid iddo ‘hawlio’ yr ymddiriedolaeth drwy ateb rhai cwestiynau amdani — dylech roi manylion diweddaraf yr ymddiriedolaeth i’ch cleient fel bod ei atebion yn cyfateb iddynt
  • mewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant ar ôl i’ch cleient hawlio’r ymddiriedolaeth, ac yna dewis yr opsiwn ynghylch awdurdodi’ch cleient
  • nodi’r cyfeirnod unigryw y trethdalwr ar gyfer yr ymddiriedolaeth er mwyn cael cysylltiad awdurdodi cais i’w rannu gyda’ch cleient
  • anfon e-bost at eich cleient gyda’r cysylltiad awdurdodi cais a gofyn iddo ei ddefnyddio i’ch awdurdodi cyn y dyddiad y daw’r cysylltiad i ben (mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cleient pa ymddiriedolaeth y mae’r cysylltiad awdurdodi ar ei chyfer) — mae’n rhaid i’ch cleient fewngofnodi gyda’r un Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair a ddefnyddiwyd ganddo i hawlio’r ymddiriedolaeth a derbyn y cais i’ch awdurdodi

Unwaith y byddwch wedi’ch awdurdodi, nid oes angen i chi ateb unrhyw gwestiynau am yr ymddiriedolaeth a’r bobl sy’n gysylltiedig â hi er mwyn bwrw golwg dros neu wneud newidiadau i’r manylion ar gofrestr yr ymddiriedolaeth.

Rhoi gwybod y gallai perchnogion llesiannol fod mewn perygl anghymesur o niwed

O 1 Medi 2022 ymlaen, gall CThEF rannu gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau â thrydydd parti o dan amgylchiadau cyfyngedig. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu dim ond os yw un o’r canlynol yn wir:

  • bod unigolion yn gallu dangos eu bod yn ymchwilio i achos penodol o wyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth mewn perthynas ag ymddiriedolaeth benodol
  • mae gan ymddiriedolaeth gyfran reolaethol mewn cwmnïau alltraeth

Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys y canlynol:

  • enw llawn
  • mis a blwyddyn ei eni
  • cenedligrwydd
  • gwlad breswyl
  • ei fuddiant llesiannol yn yr ymddiriedolaeth

Ni fydd CThEF yn rhannu gwybodaeth am unigolion penodol, os byddai hynny’n arwain at risg anghymesur o’r canlynol:

  • twyll
  • herwgipiad
  • blacmel
  • cribddeiliaeth
  • aflonyddu
  • trais
  • bygythiad

Rhowch wybod i CThEF ar bapur, os byddwch yn dod yn ymwybodol o’r posibilrwydd bod un neu fwy o berchnogion llesiannol yr ymddiriedolaeth yn agored i risg anghymesur o niwed petai eu gwybodaeth yn cael ei rhyddhau.

Anfonwch e-bost â’r llinell pwnc ‘Perchennog llesiannol mewn perygl o niwed/Beneficial owners at risk of harm’, i: trs.riskofharm@hmrc.gov.uk. Rhowch y canlynol:

  • cyfeirnod unigryw y trethdalwr, neu’r cyfeirnod unigryw, ar gyfer yr ymddiriedolaeth
  • enw’r ymddiriedolaeth
  • enw’r prif ymddiriedolwr
  • y perchnogion llesiannol sy’n agored i risg o niwed
  • y risg benodol o niwed
  • yr holl resymau pam fod y perchennog llesiannol mewn perygl o’r niwed penodedig
  • yr holl resymau dros gredu y byddai datgelu ei wybodaeth ymddiriedolaeth yn ei wneud yn agored i risg anghymesur o niwed
  • hyd yr amser rydych yn credu y bydd y risg hon yn parhau

Y perchennog sy’n gyfrifol am dderbyn y risg o anfon yr e-bost hwn, ac ni fydd CThEF yn atebol os yw’r wybodaeth honno’n cael ei rhyngipio. Bydd y mewnflwch hwn dim ond yn derbyn gwybodaeth sy’n adrodd am risg o niwed.

Nid yw adrodd am risg o niwed yn gwarantu y bydd yr eithriad yn cael ei roi ar waith. Os bydd Cais Data Ymddiriedolaeth mewn perthynas â’r ymddiriedolaeth honno yn dod i law CThEF, byddwn yn adolygu’r wybodaeth hon ac yn penderfynu a yw’r eithriad o ran y risg o niwed yn berthnasol. Mae’r eithriad yn berthnasol os byddai rhyddhau gwybodaeth ymddiriedolaeth y perchennog llesiannol yn ei wneud yn agored i risg anghymesur o niwed.

Dylech anfon adroddiadau pellach yn flynyddol os ydych yn credu bod y risg o niwed yn parhau i fod yn berthnasol.

Defnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Cyn i chi allu bwrw golwg dros neu ddiweddaru’r manylion, neu awdurdodi asiant, bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth Llywodraeth ar gyfer Sefydliad a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch gofrestru’r ymddiriedolaeth. Os nad oes gennych y manylion mewngofnodi hyn, gallwch eu creu y tro cyntaf i chi ddefnyddio’r gwasanaeth.

Dechrau nawr

Argaeledd y gwasanaeth

Gall gwasanaethau CThEF fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn Saesneg).

Cyhoeddwyd ar 3 April 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 December 2023 + show all updates
  1. Made it clear which details you cannot change using the online service.

  2. A link to guidance about penalty charges for not registering or maintaining a trust has been added to the 'Taxable trusts' section.

  3. Guidance has been added for if you registered a trust before 17 October 2022.

  4. Information on how to download a PDF document to share with third parties and relevant persons has been added to the 'Get proof of registration' section.

  5. We have updated the guidance under 'Deadlines' on deliberately failing to keep the resister up to date.

  6. Information on how to report that beneficial owners may be at a disproportionate risk of harm has been added.

  7. The deadline for registrations for non-taxable trusts is 1 September 2022. Trusts that need to register from 1 September 2022 must do so within 90 days.

  8. Added translation

  9. We've updated the page with further guidance for both taxable and non-taxable trusts.

  10. Guidance about authorising an agent to access the trust has been updated.

  11. Added translation

  12. Guidance about authorising an agent to access the trust has been updated.

  13. The section about registration of a trust before 4 May 2021 has been amended.

  14. Information about trusts registered before 4 May 2021 has been updated.

  15. Sections about registrations made before May 2021 and proof of registration have been added and updating trust details has been updated.

  16. Information about how to update trust details on the trust register has been amended.

  17. A link for the form SA900 to file a Trust and Estate Tax Return has been added.

  18. A new section about 'authorising an agent' has been added.

  19. The sections for updating trust details and declarations have been updated and a new section about deadlines has been added.

  20. Information added on closing a trust.

  21. Information about the type of changes that can be made and when to declare them, using the online service, have been added.

  22. First published.