Canllawiau

Sut y caiff ad-daliadau eu dyrannu i’ch balans

Pan fyddwch yn gwneud ad-daliadau’n uniongyrchol i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, gallwch ddewissut mae’r arian yn cael ei ddyrannu i’ch balans.

Gallwch ddewis sut y caiff ad-daliadau eu dyrannu

Gallwch wneud ad-daliad i:

  • gyfanswm balans cyffredinol eich benthyciadau
  • fath penodol o gynllun
  • Fenthyciadau Ffïoedd Dysgu neu Fenthyciadau Cynhaliaeth a gymerwyd yn ystod blwyddyn academaidd benodol
  • grant neu fenthyciad a ordalwyd
  • unrhyw ôl-ddyledion

Os oes yn rhaid i chi ad-dalu grant neu fenthyciad a ordalwyd, neu os oes gennych ôl-ddyledion mewn perthynas â’ch cyfrif, dylech siarad â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn gyntaf.

Sut y dyrennir ad-daliadau os na fyddwch yn dewis elfen benodol

Dyrennir ad-daliadau yn y drefn ganlynol.

  1. Os ydych dramor ac os oes gennych ôl-ddyledion mewn perthynas â’ch benthyciad

    Bydd unrhyw ad-daliadau yn ad-dalu’r ôl-ddyledion yn gyntaf. Os oes gennych ôl-ddyledion mewn perthynas â mwy nag un balans benthyciad, bydd yr ad-daliadau yn ad-dalu’r balans â’r gyfradd llog uchaf yn gyntaf.

  2. Os ydych dramor ac os ydych wedi bod yn gwneud ad-daliadau a drefnwyd

    Os oes gennych fwy nag un balans benthyciad, bydd eich ad-daliadau yn ad-dalu’r balans â’r gyfradd llog uchaf yn gyntaf.

  3. Os ydych wedi gorffen eich astudiaethau ac os gordalwyd benthyciad neu grant i chi

    Byddwch yn ad-dalu’r benthyciad neu’r grant a ordalwyd yn gyntaf. Os oes gennych fwy nag un benthyciad neu grant a ordalwyd, bydd yr ad-daliadau yn ad-dalu’r balans â’r gyfradd llog uchaf yn gyntaf.

  4. Os ydych yn dal i astudio ac os gordalwyd benthyciad neu grant i chi

    Byddwch yn ad-dalu’r benthyciad neu’r grant a ordalwyd yn gyntaf. Os oes gennych fwy nag un benthyciad neu grant a ordalwyd, bydd yr ad-daliadau yn ad-dalu’r balans â’r gyfradd llog uchaf yn gyntaf.

  5. Benthyciadau y mae angen eu had-dalu

    Bydd yr ad-daliadau yn ad-dalu’r balans â’r gyfradd llog uchaf yn gyntaf.

  6. Benthyciadau nad oes angen eu had-dalu eto

    Os ydych yn dal i astudio neu os nad oes angen i chi wneud ad-daliadau eto, bydd yr ad-daliadau yn ad-dalu’r balans â’r gyfradd llog uchaf yn gyntaf.

  7. Benthyciadau neu grantiau sydd mewn credyd

    Os byddwch wedi ad-dalu benthyciad neu grant yn llawn a’ch bod yn gwneud ad-daliadau pellach, bydd y rhain yn cael eu credydu i’r balans dan sylw nes y byddwch yn gofyn am ad-daliad.

Cyhoeddwyd ar 13 August 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 August 2020 + show all updates
  1. Removed 3 options in 'You can make repayment to...' list as not accurate.

  2. Added translation