Canllawiau

Codi problem gyda chyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Gallwch godi mater am y gwasanaeth a gewch gan gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

Cynllun gan y llywodraeth yw Hyderus o ran Anabledd sydd wedi’i gynllunio i annog cyflogwyr i recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl a’r rheini â chyflyrau iechyd.

Sut i godi mater

Os ydych yn credu bod cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn methu â chydymffurfio â’r meini prawf Hyderus o ran Anabledd ar sut i recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i ddatrys y mater.

Nid yw’r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn cynnwys cynllun Cyfweliad Gwarantedig. Mae cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd yn ymrwymo i gynnig cyfweliad i nifer teg a chymesur o ymgeiswyr anabl sy’n cwrdd â’r meini prawf gofynnol (a ddangosir weithiau fel sgiliau dymunol) ar gyfer y swydd, fel y’u diffinnir gan y cyflogwr. Nid yw hyn yn golygu bod gan bawb sy’n anabl hawl i gyfweliad.

Byddwn ond yn ymateb i faterion sy’n ymwneud â’r cynllun Hyderus o ran Anabledd.

1. Codwch y mater gyda’r cyflogwr

Yn gyntaf, dylech geisio datrys y mater yn anffurfiol gyda’r cyflogwr.

Os na allwch ddatrys y mater yn anffurfiol, dylech gwyno trwy broses gwynion ffurfiol y cyflogwr.

Dylech roi cyfle i’r cyflogwr ymateb yn llawn i’r gŵyn cyn cymryd camau eraill i ddatrys y mater.

2. Gofyn am gefnogaeth gan drydydd parti

Os na allwch ddatrys y mater gyda’ch cyflogwr, gallwch gael cefnogaeth gan drydydd parti i’ch helpu. Gall y rhain gynnwys:

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael help a chefnogaeth gan wasanaethau eirioli anabledd yn eich ardal.

3. Codwch y mater gyda thîm Hyderus o ran Anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

Os na allwch ddatrys eich mater o hyd, gallwch gysylltu â thîm polisi Hyder o ran Anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae angen i chi roi eich caniatâd i ni rannu eich manylion personol a manylion y mater gyda’r cyflogwr.

Cynhwyswch unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig sydd gennych o’ch cwyn gyda’r cyflogwr gan gynnwys:

  • manylion eich mater

  • pa gamau rydych wedi’u cymryd i ddatrys y mater

  • tystiolaeth ysgrifenedig ategol gan y cyflogwr

Gallwch e-bostio neu bostio’ch mater atom.

E-bost:

dc._complaints@dwp.gov.uk

Post:

Disability Confident Policy Team
2nd Floor, Caxton House
6-12 Tothill Street
London
SW1H 9NA

Byddwn ond yn ymateb i faterion yn ymwneud â’r cynllun Hyderus o ran Anabledd.

Nid yw DWP yn darparu gwasanaeth cyfryngu ac ni all gymryd rhan ym mhroses gwynion cyflogwyr na chynnig cyngor ar eu polisïau recriwtio a chadw adnoddau dynol. Efallai y bydd y Gwasanaeth Cymodi a Chyngor (ACAS) yn gallu helpu i gyfryngu anghydfod. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar eu gwefan.

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd DWP yn anelu i ymateb i’ch cyswllt cychwynnol cyn pen 10 diwrnod gwaith. Byddwn yn dweud wrthych pryd y gallwch ddisgwyl derbyn ymateb ffurfiol neu efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth bellach.

Yna gallwn gysylltu â’r cyflogwr i:

  • ceisio eu barn ar y mater(ion) dan sylw

  • ystyried gyda’r cyflogwr a yw’n methu â chydymffurfio â rhai neu’r cyfan o’r meini prawf Hyderus o ran Anabledd

  • trafod cynllun gwella ac amserlen ar gyfer adfer y sefyllfa os ydynt yn methu â chydymffurfio

Byddai’r Adran Gwaith a Phensiynau yn disgwyl i’r cyflogwr allu dangos ei fod yn gweithredu i fynd i’r afael â’r mater(ion).

Os oes tystiolaeth glir nid yw’r cyflogwr yn defnyddio polisïau ac arferion y cynllun Hyderus o ran Anabledd neu mae’n torri Deddf Cydraddoldeb 2010, mae DWP yn cadw’r hawl i atal statws Hyderus o ran Anabledd y cyflogwr, nes bod y camau adfer angenrheidiol wedi’u cymryd.

Cyhoeddwyd ar 3 June 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 October 2021 + show all updates
  1. Guidance updated about how to raise an issue with a Disability Confident employer.

  2. Added Welsh version.

  3. First published.