Adroddiad corfforaethol

Cymraeg yn y Carchar: Trosolwg o hawliau a phrofiadau carcharorion sy'n siarad Cymraeg

Ymateb Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi i adroddiad Comisiynydd y Gymraeg 2018 – ‘Cymraeg yn y Carchar’.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Cymraeg yn y carchar: Ymateb HMPPS i Gomisiynydd y Gymraeg Medi 2020

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmppscommunications@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Yn y ‘Cymraeg yn y Carchar: Trosolwg o hawliau a phrofiadau carcharorion sy’n siarad Cymraeg’, mae HMPPS yn ymateb i argymhellion gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae adroddiad Comisiynydd y Gymraeg yn 2018 – ‘Cymraeg yn y Carchar’ wedi darparu cyfraniad amserol wrth ddatblygu Cynllun Iaith Gymraeg HMPPS 2020-2023.

Mae’r adroddiad hwnnw’n adleisio canfyddiadau ein gwerthusiad o Gynllun Iaith Gymraeg NOMS 2013, a oedd yn nodi, er gwaethaf y cynnydd, fod mwy i’w wneud o hyd i sicrhau cydraddoldeb i’r Gymraeg a’r Saesneg mewn gwasanaethau carchardai a phrawf yng Nghymru.

Rydym wedi derbyn pob un o’r 17 argymhelliad a wnaeth y comisiynydd ac wedi ymateb i bob un yn unigol.
Mae’r camau y tu ôl i’r ymatebion wedi eu hintegreiddio yng Nghynllun Iaith Gymraeg HMPPS 2020-23.

Cyhoeddwyd ar 19 October 2020