Canllawiau

Cymorth cymdeithasol: newidiadau i gyfraith PIP o 6 Ebrill 2016

Diweddarwyd 4 April 2022

1. Cefndir

Wrth wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ystyried eich gallu i ymgysylltu â phobl eraill wyneb yn wyneb.

2. Newid i gyfraith PIP

O 6 Ebrill 2016 bu newid yn y ffordd rydym yn ystyried yr angen am gymorth cymdeithasol, wrth ymgysylltu â phobl eraill wyneb yn wyneb, fel rhan o’r asesiad PIP. Os yw rhywun angen ‘anogaeth’, drwy eu hatgoffa neu esboniad gan berson sydd wedi’i hyfforddi neu sydd â phrofiad o gynorthwyo pobl mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, rydym nawr yn ystyried os yw hyn yn ‘gymorth cymdeithasol’. Mae’r newid hefyd yn egluro bod cymorth cymdeithasol yn angen parhaus i helpu i ymgysylltu â phobl eraill. Nid oes angen iddo fod yn ystod neu yn union cyn y gweithgaredd.

3. Beth mae hyn yn ei olygu i chi

Rydym yn edrych ar geisiadau PIP gan bobl allai fod wedi eu heffeithio gan y newid hwn. Mae hyn yn cynnwys edrych eto ar rai ceisiadau y gwnaethom wneud penderfyniad arnynt ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, lle dyfarnwyd PIP oherwydd bod angen ‘annogaeth’ i ymgysylltu â phobl eraill wyneb yn wyneb. Byddwn nawr yn ystyried oeddent angen ‘cymorth cymdeithasol’. Mae hyn yn cynnwys rhai ceisiadau lle na wnaethom ddyfarnu PIP.

Ni fyddwn yn edrych eto ar geisiadau os:

  • mae’r gyfradd uwch o’r rhan bywyd bob dydd o PIP wedi’i ddyfarnu’n barhaol ers 6 Ebrill 2016
  • mae Tribiwnlys wedi gwneud penderfyniad ar eich cais ers 6 Ebrill 2016
  • gwnaethpwyd penderfyniad i beidio dyfarnu PIP i chi cyn 6 Ebrill 2016

Ni fydd pawb yn gymwys. Os ydych, byddwn yn ysgrifennu atoch ac nid oes angen i chi gysylltu â ni. Efallai y bydd yn cymryd peth amser i chi gael y llythyr hwn. Nid ydym yn bwriadu eich gwahodd am asesiad fel rhan o’r adolygiad hwn, ond efallai y byddwn yn cysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth.

Os ydym yn penderfynu y dylech gael mwy o PIP, yna bydd eich dyfarniad fel arfer yn cael ei ôl-ddyddio i 6 Ebrill 2016. Os gwnaethoch gais am PIP ar ôl 6 Ebrill 2016, bydd fel arfer yn cael ei ôl-ddyddio i’r dyddiad y gwnaethoch ddechrau cael PIP.

Mae’r newid i sut rydym yn ystyried y cymorth mae rhywun ei angen o ganlyniad i benderfyniad Y Goruchaf Lys.

Gallwch wneud cais am PIP eto os ydych yn credu y gallech nawr fod yn gymwys. Bydd y newid hwn i’r gyfraith PIP yn berthnasol i bob cais newydd.

Mae hefyd wedi cael ei gymhwyso i bob Adolygiad PIP ers 17 Medi 2020.

4. Help gyda PIP

Gallwch gysylltu â sefydliad cymorth lleol neu Gyngor ar Bopeth i gael help i ddeall PIP.