Deunydd hyrwyddo

Mae Maddie yn ffynnu yn ei rôl yn Sodexo

Diweddarwyd 21 December 2023

Mae gan Madeline Crosskey, o Farnham, awtistiaeth ac ADHD. Roedd wedi bod yn gweithio ar leoliad mewn ysbyty yn Guildford cyn cael cynnig swydd barhaol gyda Sodexo.

Dechreuodd Maddie gweini staff yn y bwyty ond mae bellach yn gweithio ar y wardiau ac yn gweini cleifion. Bellach mae Maddie yn mynd i ystafelloedd cleifion, yn cymryd archebion bwyd, yn dosbarthu hambyrddau bwyd, yn helpu gyda pharatoi ffrwythau yn y gegin ac yn gweithredu’r ardal golchi potiau.

Roedd Maddie wrth ei bodd o gael cynnig swydd barhaol yn Sodexo gan ei bod wedi rhoi mwy o sefydlogrwydd ariannol iddi a rôl lle mae’n teimlo’n gyffyrddus yn ei dyletswyddau a gyda’i chydweithwyr.

""

Maddie yn Sodexo

Dywedodd ei rheolwr, Carol Forrest:

Roedd Maddie yn swil i ddechrau, ond roedd yn amlwg i mi fod mwy iddi nag yr oedd yn cael clod amdani. Nid oedd Maddie wedi cael cyfle o’r blaen i ddarganfod beth roedd hi’n ei fwynhau neu’n dda yn ei wneud gan roedd pobl o’r blaen ond yn gweld ei hanabledd.

Fy null i oedd siarad â Maddie yn union fel y byddwn i unrhyw un arall yn fy nhîm a chymryd amser i ateb cwestiynau ac egluro pethau os na fyddai’n deall. Rhoddwyd Maddie ar gontract llawn amser, enillodd hyder a ffynnodd. Mae’r cleifion yn dwli arni!

Gall cyflogwyr sydd am gynnig lleoliadau gwaith gysylltu â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr.