Caffael yn Tŷ'r Cwmnïau

Cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i Dŷ’r Cwmnïau.


Gwneud busnes gyda Thŷ’r Cwmnïau

Rydym yn defnyddio 2 system i hysbysebu a rheoli ein contractau:

  • Contracts Finder, gwasanaeth di-dâl i fusnesau, prynwyr yn y llywodraeth a’r cyhoedd
  • Find a Tender (FTS), sy’n darparu hysbysebion a hysbysiadau ar gyfer tendrau a chontractau

Ar gyfer pryniannau syml gwerth isel, rydym yn defnyddio gweithdrefn dyfynbris, ac yn dyfarnu busnes trwy archeb brynu swyddogol, neu drwy gerdyn caffael y llywodraeth os yw gwerth yr archeb o dan £1,000.

Ar gyfer gwaith gwerth uwch neu fwy cymhleth, rydym yn defnyddio proses dendro ffurfiol. Rydym yn gwerthuso tendrau trwy benderfynu ar y cynnig sy’n fwyaf manteisiol yn economaidd gan ystyried ffactorau fel cost, ansawdd, darparu ac effaith amgylcheddol.

Darllenwch ein polisi caffael cynaliadwy Tŷ’r Cwmnïau.

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni ynghylch cyflenwad nwyddau a gwasanaethau yn:

Tŷ’r Cwmnïau
enquiries@companieshouse.gov.uk
Ffôn: 0303 1234 500
Dydd Llun tan Dydd Gwener, 8.30am nes 6pm
Darganfyddwch mwy am daliadau ffôn