Amdanom ni
Rydym yn gweithio i ddiogelu iechyd anifeiliaid a phlanhigion er budd pobl, yr amgylchedd a'r economi. Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn un o asiantaethau gweithredol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ac mae hefyd yn gweithio ar ran Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.
Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn un o asiantaethau gweithredol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ac mae hefyd yn gweithio ar ran Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.
Lansiwyd yr asiantaeth ar 1 Hydref 2014. Mae’n uno’r hen Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol (AHVLA) â rhannau o’r Asiantaeth Ymchwil Bwyd a’r Amgylchedd (FERA) sy’n gyfrifol am iechyd planhigion a gwenyn er mwyn creu un asiantaeth sy’n gyfrifol am iechyd anifeiliaid, planhigion a gwenyn.
Pwy ydym ni
Mae ein pencadlys wedi’i lleoli yn Weybridge, Surrey. Rydym yn cyflogi tua 2,200 o aelodau o staff, sydd wedi’u lleoli mewn safleoedd amrywiol ledled y DU.
Ein cyfrifoldebau
Rydym yn gyfrifol am y canlynol:
- nodi a rheoli clefydau endemig ac egsotig a phlâu mewn anifeiliaid, planhigion a gwenyn, a chadw golwg ar blâu a chlefydau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg
- ymchwil wyddonol mewn meysydd megis clefydau bacterol, feirysol, prion a pharasitig a brechlynnau, a diogelwch bwyd; gweithredu fel labordy cyfeirio rhyngwladol ar gyfer llawer o glefydau anifeiliaid fferm
- hwyluso masnachu rhyngwladol mewn anifeiliaid, cynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid, a phlanhigion
- diogelu bywyd gwyllt mewn perygl drwy drwyddedu a chofrestru
- rheoli rhaglen sy’n cynnwys archwilio gwenynfeydd (gwenyn), diagnosteg, ymchwil a datblygu a hyfforddiant a chyngor
- rheoleiddio’r gwaith o waredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn ddiogel er mwyn lleihau’r risg y bydd sylweddau a allai fod yn beryglus yn ymuno â’r gadwyn fwyd
Ein blaenoriaethau
Mae ein blaenoriaethau ar gyfer 2021 a 2022 fel a ganlyn:
- rheoli a gwaredu clefydau a phlâu anifeiliaid a phlanhigion, lleihau’r risg o fygythiadau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg
- rhoi dewis ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid a gwasanaethau planhigion a gwenyn
- rheoli achosion o blâu a chlefydau yn gyflym; parhau i gynnal a datblygu’r sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen, er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu ein busnes craidd a’n gwasanaethau a sicrhau ymateb effeithlon i achosion o glefyd
- parhau i addasu a gweithredu cynlluniau model ymateb APHA a dysgu gwersi yn sgîl achosion o glefyd er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi unrhyw welliannau sydd eu hangen ar waith
- darparu tystiolaeth yn seiliedig ar wyddoniaeth a chyngor er mwyn llywio gwneuthurwyr polisi
- cynnal ein gallu milfeddygol a gwyddonol arbenigol cenedlaethol a rhyngwladol a’n henw da
I gael rhagor o wybodaeth am APHA, darllenwch ein cyhoeddiadau corfforaethol.
Gwasanaethau ychwanegol
Mae APHA yn cynnig gwasanaethau ychwanegol i’r gymuned filfeddygol a gwyddonol, y diwydiant a’r cyhoedd, gan gynnwys:
- cyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau masnachol drwy APHA Scientific
- gwasanaeth hysbysu am glefyd sy’n sicrhau bod gan bobl y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau diweddaraf clefyd anifeiliaid
- adnodd ar-lein o’r enw APHA Vet Gateway sy’n rhoi mynediad i wybodaeth filfeddygol a chyfarwyddiadau ar gyfer milfeddygon swyddogol a milfeddygon preifat, a mynediad i Sam ar gyfer cyflwyno profion TB ar-lein.
- dnodd gwybodaeth i wenynwyr er mwyn eu helpu i gadw eu gwenyn mêl yn iach ac yn gynhyrchiol, a chefnogi rhaglen iechyd gwenyn y llywodraeth a’r Cynllun Gwenyn Iach
Gwybodaeth gorfforaethol
Cael mynediad at ein gwybodaeth
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Ymchwil yn APHA
- Polisi dogfennau hygyrch
- Gweithdrefn gwyno
- Ein llywodraethiant
Swyddi a chontractau
Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol. Dysgu Am ein gwasanaethau.