Stori newyddion

Y Gofrestrfa Tir i gyflwyno ffurflen ST5 newydd

Ar 29 Mehefin bydd y Gofrestrfa Tir yn cyflwyno ffurflen newydd i'w defnyddio i gefnogi cais i ddileu cyfyngiad Ffurf A.

Bydd y Gofrestrfa Tir yn cyflwyno ffurflen ST5 newydd sbon ar ddiwedd mis Mehefin. Gall aelodau’r cyhoedd ddefnyddio’r ffurflen fel datganiad o wirionedd i gefnogi cais i ddileu cyfyngiad Ffurf A.

Cyn dileu cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr perchnogaeth, rhaid i ni fod yn fodlon nad oes angen y cyfyngiad mwyach. Yn aml bydd hyn oherwydd nad yw’r tir yn ddarostyngedig i ymddiried bellach. Mae ymddiried tir yn bodoli pan fo perchnogaeth ffurfiol y tir ar wahân i’r berchnogaeth sylfaenol.

Bydd y ffurflen ar gael ar ffurf Word a PDF ar GOV.UK. Yn ogystal, byddwn yn cyhoeddi argraffiad newydd o’n cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd ac yn diweddaru ein cyfarwyddyd ar gydberchnogaeth eiddo i ystyried cyflwyno’r ffurflen newydd.

Cyhoeddwyd ar 18 June 2015