Stori newyddion

Cyllid ar gael i'r hynny sy'n profi oriau llys estynedig

Bydd rhai o gostau gweithiwyr cyfreithiol proffesiynol sy’n cyfrannu at gynllun peilot i ymestyn oriau llys yn cael eu talu.

Photograph of a courtroom
  • Bydd ffi mynychu ar gael i weithwyr cyfreithiol proffesiynol a ariennir gan arian cyhoeddus
  • Penderfyniad hwn wedi ei wneud i adlewyrchu’r newid byr dymor yn y trefniadau ar gyfer gweithwyr proffesiynol
  • Bydd cynlluniau peilot Oriau Gweithredu Hyblyg yn cychwyn erbyn yr haf

Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn sicrhau y bydd swm bychan o gyllid ar gael i weithwyr cyfreithiol proffesiynol a ariennir gan arian cyhoeddus sy’n cymryd rhan yng nghynlluniau peilot gweithredu oriau hyblyg; byddant yn cael ffi o £100 am fynychu slot fel cyfreithiwr ar ddyletswydd sy’n arbenigo mewn materion tai a £50 am fynychu gwrandawiad sengl. Mae’r penderfyniad hwn wedi ei wneud i adlewyrchu’r newid byr dymor yn y trefniadau ar gyfer gweithwyr proffesiynol cyfreithiol sy’n cyfrannu at y peilot. Bydd yr arian ond ar gael i’r rhai hynny sy’n mynychu’r llys y tu allan i 9am a 5.30pm.

Cyhoeddodd GLlTEM ei gynlluniau i brofi eisteddiadau cynnar ac eisteddiadau hwyr yn y llysoedd sifil a theulu ym mis Tachwedd y llynedd, i roi gwell mynediad i bobl i wrandawiadau ar adegau sy’n fwy hwylus iddynt.

Bydd Canolfan Cyfiawnder Sifil Manceinion a Llys Sirol Brentford yn cynnal y cynlluniau peilot am chwe mis, er mwyn gweld os oes modd defnyddio adeiladau llysoedd sifil a theulu yn fwy effeithiol; manteision ei gwneud hi’n bosibl i unigolion fynychu’r llys tu hwnt i oriau llys traddodiadol 10am – 4pm; a beth mae mwy o hyblygrwydd yn ei olygu i staff a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol.

Gallwch ddod o hyd i brosbectws cynllun peilot gweithredu oriau hyblyg yma.

Nodiadau i olygyddion

  1. Bydd y ffioedd mynychu yn cael eu cyllido gan GLlTEM a’u gweinyddu gan yr Asiantaeth Cyngor Cyfreithiol (LAA) a byddant ar wahân i unrhyw hawliadau arferol y byddai ymarferwyr yn eu gwneud i’r LAA.
  2. Disgwylir i’r cynlluniau peilot gychwyn erbyn yr haf.
  3. Bydd unrhyw benderfyniad a wneir yn y dyfodol ynghylch oriau gweithredu hyblyg yn amodol ar werthusiad annibynnol a llawn.
Cyhoeddwyd ar 15 May 2019