Dweud wrth DVLA ar ôl i rywun farw

Neidio i gynnwys y canllaw

Gwerthu cerbyd

Mae beth rydych yn ei wneud yn dibynnu ar a oes gennych lyfr log y cerbyd (V5CW).

Os oes gennych lyfr log y cerbyd (V5CW)

Ysgrifennwch lythyr yn esbonio:

  • eich perthynas â’r unigolyn a fu farw
  • y dyddiad y bu’r unigolyn farw
  • i bwy y dylid talu unrhyw ad-daliad treth cerbyd (nid yw treth cerbyd yn gallu cael ei throsglwyddo i berchennog newydd)

Anfonwch y llythyr i Dîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA â’r rhan gywir o’r V5CW. Mae’r rhan yr anfonwch yn dibynnu ar a ydych yn gwerthu’r cerbyd i unigolyn preifat neu fasnachwr moduron.

Tîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ

Gwerthu i unigolyn preifat

  1. Llenwch adran 2 os oes gennych y llyfr log steil newydd gyda blociau aml-liwiog wedi’u rhifo ar y clawr blaen. Llenwch adran 6 os oes gennych y llyfr log steil hŷn.

  2. Rhowch y slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd i’r prynwr.

  3. Anfonwch y V5CW gyda’ch llythyr i Dîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA.

Gwerthu i fasnachwr moduron

  1. Gofynnwch i’r masnachwr moduron lenwi’r adran felen ‘gwerthu, trosglwyddo neu ran-gyfnewid eich cerbyd i’r fasnach moduron’ o’r llyfr log.

  2. Anfonwch yr adran dyllog gyda’ch llythyr i Dîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA.

  3. Rhowch weddill y V5CW i’r masnachwr moduron.

Os nad oes gennych lyfr log y cerbyd (V5CW)

Pan fyddwch yn gwerthu’r car dywedwch wrth y prynwr y bydd angen llenwi’r ffurflen V62W i wneud cais am V5CW. Mae ffi o £25.

Mae angen ichi ysgrifennu llythyr i Dîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA i ddweud wrthynt eich bod wedi gwerthu’r cerbyd. Mae angen i’ch llythyr ddweud:

  • y dyddiad y gwnaethoch werthu’r cerbyd
  • eich perthynas â’r unigolyn a fu farw
  • y dyddiad y bu farw
  • i bwy y dylid talu unrhyw ad-daliad treth cerbyd
  • enw a chyfeiriad y prynwr

Tîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ

Os oes angen cymorth arnoch

Cysylltwch â DVLA os oes angen cymorth arnoch.