Dweud wrth DVLA ar ôl i rywun farw

Neidio i gynnwys y canllaw

Cadw cerbyd

Dywedwch wrth DVLA mai chi yw ceidwad newydd y cerbyd a threthwch ef yn eich enw eich hun ar unwaith.

Ni allwch drosglwyddo treth cerbyd o unigolyn arall. Mae’n rhaid ichi drethu’r cerbyd yn eich enw chi hyd yn oed os ydych chi’n cymryd perchnogaeth fel aelod o’r teulu neu’n gofalu amdano am amser byr.

Gallwch gael eich erlyn os byddwch yn defnyddio’r cerbyd ar ffordd gyhoeddus cyn ei drethu yn eich enw eich hun a’i yswirio.

Mae beth rydych yn ei wneud yn dibynnu ar a oes gennych lyfr log y cerbyd (V5CW).

Os oes gennych lyfr log y cerbyd (V5CW)

  1. Llenwch adran 2 os oes gennych lyfr log steil newydd gyda blociau aml-liwiog wedi’u rhifo ar y clawr blaen. Llenwch adran 6 os oes gennych y llyfr log steil hŷn.

  2. Rhwygwch y slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd i ffwrdd a’i gadw.

  3. Ysgrifennwch lythyr yn esbonio’ch perthynas â’r unigolyn a fu farw, y dyddiad y bu farw ac i bwy y dylid talu unrhyw ad-daliad treth cerbyd.

  4. Anfonwch y V5CW gyda’ch llythyr i Dîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA. Hefyd cynhwyswch ffurflen V890W os ydych eisiau cofrestru’r cerbyd oddi ar y ffordd (SORN) yn hytrach na’i drethu.

  5. Bydd DVLA yn diddymu unrhyw dreth cerbyd bresennol a debydau uniongyrchol ar unwaith, ac yn anfon siec am unrhyw ad-daliad a V5CW newydd.

  6. Defnyddiwch y slip ceidwad newydd i drethu’r cerbyd yn eich enw cyn ichi ei ddefnyddio ar ffordd gyhoeddus. Peidiwch ag aros am y V5CW newydd.

Tîm Gwaith Achosion Sensitif
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ

Os nad oes gennych lyfr log y cerbyd (V5CW)

  1. Llenwch ffurflen V62W i wneud cais am V5CW. Mae ffi o £25.

  2. Ysgrifennwch lythyr yn esbonio eich perthynas â’r unigolyn a fu farw, y dyddiad y bu farw ac i bwy y dylid talu unrhyw ad-daliad treth cerbyd.

  3. Anfonwch y V62W a ffi gyda’ch llythyr i Dîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA. Cynhwyswch hefyd ffurflen V890W os ydych eisiau cofrestru’r cerbyd oddi ar y ffordd (SORN) yn hytrach na’i drethu.

  4. Bydd DVLA yn diddymu unrhyw dreth cerbyd bresennol a debydau uniongyrchol ar unwaith, ac yn anfon V5CW newydd atoch.

  5. Defnyddiwch eich V5CW newydd i drethu’r cerbyd.

Tîm Gwaith Achosion Sensitif
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ

Os oes angen cymorth arnoch

Cysylltwch â DVLA os oes angen cymorth arnoch.