Gwneud cais am orchymyn amodol

Dogfen yw gorchymyn amodol, sy’n dweud nad yw’r llys yn gweld unrhyw reswm pan na allwch ddod â’r bartneriaeth sifil i ben.

Os nad yw eich partner yn cytuno i ddod â’r bartneriaeth sifil i ben, gallwch dal wneud cais am orchymyn amodol. Bydd rhaid i chi fynd i wrandawiad yn y llys i drafod yr achos, lle bydd barnwr yn penderfynu p’un a dylid cymeradwyo’r gorchymyn amodol neu beidio.

Sut i wneud cais

Bydd sut byddwch yn gwneud cais am orchymyn amodol yn dibynnu ar pryd wnaeth y llys gychwyn eich cais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais cyn 6 Ebrill 2022

Llenwch y ffurflen gais am orchymyn amodol. Rhaid i chi aros am o leiaf 7 diwrnod ar ôl i’ch partner sifil gael eu copi nhw o’r cais am ddiddymiad.

Os nad yw eich partner yn cytuno i ddod â’r bartneriaeth sifil i ben, llenwch adran B o’r ffurflen, gan nodi eich bod eisiau ‘gwrandawiad rheoli achos’ gerbron y barnwr.

Byddwch hefyd angen llenwi datganiad yn cadarnhau bod yr hyn a ddywedir yn eich cais am ddiddymiad yn wir. Mae 4 ffurflen datganiad - defnyddiwch yr un sy’n berthnasol i’r rheswm rydych wedi’i roi dros ddod â’r bartneriaeth sifil i ben.

Bydd angen i’r ffurflenni ddangos bod eich partner sifil:

  • wedi cael y cais am ddiddymiad
  • yn cytuno i’r diddymiad os ydych yn defnyddio’r ffaith eich bod wedi byw ar wahân am 2 flynedd fel eich rheswm
  • yn cytuno gydag unrhyw drefniant arfaethedig ar gyfer eich plant

Atodwch ymateb eich partner sifil i’r cais am ddiddymiad, a’i anfon i’r llys. Cadwch gopi ar gyfer chi eich hun hefyd.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022

Rhaid i chi aros 20 wythnos ar ôl i’ch cais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben gychwyn cyn gwneud cais am orchymyn amodol.

Os wnaethoch gais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben ar-lein, fe gewch eich hysbysu am sut i wneud cais am y gorchymyn amodol ar-lein.

Gallwch wneud cais am orchymyn amodol a pharhau i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben fel unig geisydd, hyd yn oed os wnaethoch gychwyn y broses ar y cyd gyda’ch partner sifil.

I wneud cais drwy’r post, llenwch y ffurflen gais am orchymyn amodol.