Gwirio a allwch ddod â’ch partneriaeth sifil i ben

Gallwch wneud cais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben (‘diddymu’) os ydych wedi bod yn y bartneriaeth am fwy na blwyddyn.

Os nad ydych eisiau dod â’r bartneriaeth sifil i ben, gallwch gael ymwahaniad cyfreithiol. Gallwch wneud cais am ymwahaniad yn ystod blwyddyn gyntaf eich partneriaeth sifil.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae proses wahanol ar gyfer dod â phartneriaeth sifil i ben yn Yr Alban neu ddod â phartneriaeth sifil i ben yng Ngogledd Iwerddon.

Sut i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben

Rhaid i chi wneud cais i’r llys i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben.

Efallai y byddwch chi a’ch partner angen penderfynu ar:

Mae arnoch angen rhannu eich arian a’ch eiddo hefyd.

Fel arfer, gallwch osgoi mynd i wrandawiadau llys os ydych yn cytuno ar drefniadau ynghylch eich plant, arian ac eiddo ac yn cytuno ar y rhesymau dros ddod â’ch partneriaeth sifil i ben.

Cael cymorth i gytuno ar faterion

Gallwch ddefnyddio cyfryngwr. Gwiriwch a allwch gael cymorth cyfreithiol i helpu i dalu am gyfryngu.

Gallwch hefyd gael cyngor ar wneud trefniadau gan: