Cyflyrau llygaid a gyrru

Neidio i gynnwys y canllaw

Os oes gennych drwydded bws, coets neu lori

Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os nad ydych yn dweud wrth DVLA am gyflwr meddygol sy’n effeithio ar eich gyrru. Gallwch gael eich erlyn os ydych yn rhan o ddamwain o ganlyniad.

Mae angen ichi ddweud wrth DVLA os oes unrhyw un o’r canlynol yn gymwys:

  • mae gennych fath penodol o gyflwr llygaid sy’n effeithio ar un lygad neu’r ddwy
  • nid ydych yn bodloni’r safonau golwg ar gyfer gyrru
  • dywedwyd wrthych nad ydych efallai yn bodloni’r safonau golwg ar gyfer gyrru gan Feddyg Teulu, optegydd neu arbenigwr llygaid

Os oes gennych olwg mewn un llygad yn unig, mae angen ichi ddweud wrth DVLA o hyd.

Cyflyrau llygaid mae angen ichi rhoi gwybod amdanynt

Y cyflyrau llygaid mae’n rhaid ichi ddweud wrth DVLA amdanynt yw:

  • blepharospasm

  • cataractau (os oes gennych sensitifrwydd cynyddol i ddisgleirdeb yn unig)

  • retinopathi diabetig (gyda thriniaeth laser)

  • glawcoma

  • colli llygad

  • dirywiad maciwlaidd

  • golwg un llygad (golwg mewn un llygad yn unig)

  • nyctalopia (nosddallineb)

  • retinitis pigmentosa
  • diffyg maes gweledol

Y safonau golwg ar gyfer gyrru

Dylech fodloni’r safonau os:

  • ydych yn gallu darllen plât rhif o 20 metr i ffwrdd

  • nad oes gennych olwg dwbl

  • oes gennych faes golwg arferol mewn o leiaf un llygad (gall eich optegydd brofi hyn)

Os nad ydych yn siŵr eich bod yn bodloni’r safonau golwg ar gyfer gyrru, dylech gael cyngor gan eich Meddyg Teulu, optegydd neu arbenigwr llygaid.

Sut i ddweud wrth DVLA

Dylech lenwi ffurflen V1V/W a’i hanfon i DVLA. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.