Cyflyrau llygaid a gyrru

Neidio i gynnwys y canllaw

Os oes gennych drwydded car neu feic modur

Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os nad ydych yn dweud wrth DVLA am gyflwr meddygol sy’n effeithio ar eich gyrru. Gallwch gael eich erlyn os ydych yn rhan o ddamwain o ganlyniad.

Mae’n rhaid ichi ddweud wrth DVLA os:

  • oes gennych fath penodol o gyflwr llygaid sy’n effeithio ar y ddwy lygad (neu un llygad pan fydd gennych olwg mewn un llygad yn unig)

  • dywedwyd wrthych nad ydych efallai yn bodloni’r safonau golwg ar gyfer gyrru gan Feddyg Teulu, optegydd neu arbenigwr llygaid

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Y cyflyrau llygaid y mae’n rhaid ichi ddweud wrth DVLA amdanynt yw:

  • blepharospasm
  • retinopathi diabetig (gyda thriniaeth laser)
  • diplopia (golwg dwbl)
  • glawcoma
  • nyctalopia (nosddallineb)
  • retinitis pigmentosa

Os yw’r cyflwr yn effeithio ar un llygad yn unig a’ch bod yn gweld â’r ddwy lygad, mae dim ond rhaid ichi ddweud wrth DVLA os:

  • nad ydych yn bodloni’r safonau golwg ar gyfer gyrru
  • dywedwyd wrthych nad ydych efallai yn bodloni’r safonau golwg ar gyfer gyrru gan Feddyg Teulu, optegydd neu arbenigwr llygaid

Y safonau golwg ar gyfer gyrru

Dylech fodloni’r safonau os:

  • ydych yn gallu darllen plât rhif o 20 metr i ffwrdd

  • nad oes gennych olwg dwbl

  • oes gennych faes golwg arferol mewn un llygad o leiaf (gall eich optegydd brofi hyn)

Os nad ydych yn siŵr os ydych yn bodloni’r safonau golwg ar gyfer gyrru dylech gael cyngor gan eich Meddyg Teulu, optegydd neu arbenigwr llygaid.

Sut i ddweud wrth DVLA

Dylech roi gwybod am eich cyflwr llygaid ar-lein.

Os oes gennych gyflwr mewn un llygad a chyflwr arall yn effeithio ar eich llygad arall, mae angen ichi lenwi ac anfon ffurflen V1W i DVLA. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Rhoi gwybod am eich cyflwr ar-lein

Gallwch hefyd ddefnyddio ffurflen V1W os nad ydych yn gallu defnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Mae rhagor o gyflyrau mae angen ichi rhoi gwybod amdanynt os oes gennych drwydded bws, coets neu lori.