Trosolwg

Gallwch gael Credyd Gofalwr os ydych yn gofalu am rywun am o leiaf 20 awr yr wythnos.

Mae Credyd Gofalwr yn gredyd Yswiriant Gwladol sy’n helpu i lenwi’r gwagleoedd yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Mae eich Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol

Ni fydd eich incwm, cynilion neu fuddsoddiadau yn effeithio ar eich cymhwysedd am Gredyd Gofalwr.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (Saesneg)