Budd-dal Plant os ydych yn symud i’r DU

Mae angen i bawb fodloni’r rheolau cymhwystra er mwyn hawlio Budd-dal Plant. Os ydych yn symud i’r DU o dramor, bydd angen i chi hefyd brofi bod y canlynol yn wir:

  • rydych yn byw yn y DU fel eich prif gartref – ac eithrio cyfnodau byr, megis mynd ar wyliau (yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n rhaid i’ch plentyn fyw gyda chi)
  • mae gennych yr hawl i breswylio (yn Saesneg) yn y DU

Os oes gennych statws preswylydd ‘sefydlog’ drwy’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, rydych yn gymwys i gael Budd-dal Plant. Os oes gennych statws preswylydd ‘cyn-sefydlog’, bydd yn rhaid i chi wirio’r rheolau cymhwystra ychwanegol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Nid yw’ch plentyn yn byw gyda chi yn y DU

Fel arfer, ni fyddwch yn gymwys os ydych o’r tu allan i’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, ac nad yw’ch plentyn yn byw gyda chi.

Os yw’ch plentyn yn byw mewn gwlad yn yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein (yr AEE), neu’r Swistir

Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal Plant os yw’r naill neu’r llall yn wir:

Mae’n rhaid eich bod chi, neu’ch partner, naill ai’n talu Yswiriant Gwladol yn y DU (os ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig) neu’n cael un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith newydd (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) ar sail cyfraniadau
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • budd-daliadau gweddwon
  • Taliad Cymorth Profedigaeth
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)

Os nad oes gennych swydd wrth i chi gyrraedd y DU

Gallech fod yn gymwys os yw’r canlynol yn wir:

  • mae aelod o’ch teulu’n gweithio neu’n hunangyflogedig
  • cawsoch eich diswyddo yn y DU, ac rydych nawr yn geisiwr gwaith neu’n cael eich hyfforddi (neu digwyddodd hyn i aelod o’ch teulu)
  • ni allwch weithio ar hyn o bryd oherwydd eich iechyd neu ddamwain, ond rydych wedi gweithio yn y DU o’r blaen
  • rydych fel arfer yn byw yn y DU, a chawsoch Fudd-dal Plant cyn i chi symud dramor am lai na blwyddyn
  • gwnaethoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 neu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 tra oeddech yn gweithio dramor, a gwnaethoch eu talu cyn pen 3 mis i’r dyddiad y gwnaethoch ddychwelyd
  • rydych yn ffoadur
  • rydych wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn i fynd i mewn i’r DU, neu i aros yno, a gallwch gael budd-daliadau
  • rydych wedi cael caniatâd i aros fel person wedi’i ddadleoli, a gallwch gael budd-daliadau
  • rydych wedi cael caniatâd i aros, ac wedi gwneud cais i gael ‘caniatâd i aros yn barhaol’ fel person sydd wedi dioddef cam-drin domestig
  • rydych wedi cael diogelwch dyngarol

Rydych yn ‘destun rheolaeth mewnfudo’

Ni allwch hawlio Budd-dal Plant os ydych yn destun rheolaeth mewnfudo, oni bai bod y canlynol yn wir:

  • rydych yn fewnfudwr sydd wedi’i noddi – mae rhywun arall wedi cytuno i fod yn gyfrifol amdanoch yn ariannol
  • rydych yn dod o Albania, Moroco, Tunisia neu Dwrci, ac yn gweithio yn y DU
  • rydych yn dod o wlad sydd â chytundeb â’r DU ynghylch Budd-dal Plant

Dyma’r gwledydd sydd â chytundeb â’r DU:

  • Barbados
  • Bosnia a Herzegovina
  • Canada
  • Ynysoedd y Sianel
  • Israel
  • Kosovo
  • Mauritius
  • Montenegro
  • Seland Newydd
  • Gogledd Macedonia
  • Serbia