Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.

CThEF
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Bydd eich cyfeirnod talu MGD i’w weld ar naill ai:

  • y slip talu anfonodd CThEF atoch, os ydych yn cyflwyno datganiad papur
  • eich cyfrif CThEF ar-lein, os ydych yn cyflwyno’ch datganiad ar-lein

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.

Os byddwch yn cyflwyno datganiad papur, anfonwch eich slip talu ynghyd â’ch siec.

Os ydych yn cyflwyno ar-lein, anfonwch lythyr sy’n cynnwys y canlynol:

  • eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
  • eich cyfeirnod talu MGD
  • y swm yr ydych yn ei dalu

Peidiwch â phlygu na rhoi staplen yn eich siec.